Rheoliadau 9(4) a 33(1)
ATODLEN 5Cymeradwyo Labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod
RHAN ICYMERADWYO
1. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw labordy y mae'n barnu ei fod yn addas at ddibenion cynnal profion ar gyfer Mycoplasma o dan y Cynllun Iechyd Dofednod.
2. Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan baragraff (1) dalu'r ffi gymeradwyo flynyddol, y mae'r manylion amdanynt wedi'u nodi yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
3. Er mwyn sicrhau bod labordai a gymeradwywyd yn parhau'n addas ar gyfer cymeradwyaeth, rhaid i arolygydd gynnal arolygiadau a phrofion sicrwydd ansawdd fel y bo'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
RHAN IIY FFI GYMERADWYO FLYNYDDOL
4. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)penderfynu'r ffi gymeradwyo flynyddol ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob labordy am yr eitemau a restrir ym mharagraff 6; a
(b)cyhoeddi'r ffi gymeradwyo flynyddol gyfredol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
5. Bydd y ffi gymeradwyo flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob labordy a gymeradwyir ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.
6. Yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 4(a) yw —
(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —
(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai;
(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli neu weinyddu'r gwaith hwn; a
(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cynnal arolygiadau o labordai;
(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);
(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r broses o gymeradwyo labordai (gan gynnwys cynnal arolygiadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol.
(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai, gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;
(d)darparu dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i gynnal arolygiadau o sefydliadau, a golchi a smwddio'r dillad amddiffynnol hynny;
(dd)darparu samplau profi sicrwydd ansawdd, asesu'r canlyniadau a rhoi cyngor am y canlyniadau;
(e)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai; ac
(f)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai.