Search Legislation

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Close

Print Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1225 (Cy.83) (C.55)

TAI, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

26 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 30 Ebrill 2005; a

(b)mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac Atodlenni iddi.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn

2.  Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 (Tai) yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn—

(a)adran 12 (ymddygiad gwrthgymdeithasol: polisïau a gweithdrefnau landlordiaid);

(b)adran 14 ac Atodlen 1 (sicrwydd deiliadaeth: ymddygiad gwrthgymdeithasol) (tenantiaethau isradd) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;

(c)adran 15 (tenantiaethau byrddaliol sicr isradd).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Ebrill 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2005, o ran Cymru, weddill darpariaethau Rhan 2 (Tai) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.

Mae adran 12 yn cyflwyno dyletswydd newydd ar landlordiaid cymdeithasol i baratoi a chyhoeddi polisïau a gweithdrefnau ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i drefnu iddynt fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth baratoi ac adolygu'r polisïau a'r gweithdrefnau, rhaid i'r landlord roi sylw i ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adrannau 14 a 15, ac Atodlen 1, yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchmynion israddio pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth ddiogel bresennol neu denantiaeth sicr bresennol tenant i ben ac yn rhoi yn ei lle ffurf newydd ar denantiaeth isradd ac iddi lai o ddiogelwch deiliadaeth. Ar 30 Medi 2004 cychwynnwyd adran 14 ac Atodlen 1 i'r graddau yr oeddent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yr adran neu'r AtodlenY dyddiad cychwynRhif O.S.
1 i 1120 Ionawr 20042003/3300
1827 Chwefror 20042003/3300
2327 Chwefror 20042003/3300
25 i 2927 Chwefror 20042003/3300
30 i 3820 Ionawr 20042003/3300
39(1) a (2)20 Ionawr 20042003/3300
39(3) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
39(3) (y gweddill)30 Ebrill 20042003/3300
39(4), (5) a (6)20 Ionawr 20042003/3300
4631 Mawrth 20042004/690
5320 Ionawr 20042003/3300
5431 Mawrth 20042004/690
57 i 5920 Ionawr 20042003/3300
60 i 6427 Chwefror 20042003/3300
85(1), (2) a (3)20 Ionawr 20042003/3300
85 (4) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
85(4) (y gweddill)31 Mawrth 20042004/690
85(5) (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690
85(5) (y gweddill)(yn gyfyng ei gymhwysiad)1 Hydref 2004 am gyfnod o 18 mis2004/2168
85(6) (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690
85(6) (y gweddill)30 Medi 20042004/2168
85(7)20 Ionawr 20042003/3300
85(8)27 Chwefror 20042003/3300
85(9), (10) ac (11)31 Mawrth 20042004/690
86(1) a (2)31 Mawrth 20042004/690
86(3) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
86(3) (y gweddill)31 Mawrth 20042004/690
86(4), (5) a (6)20 Ionawr 20042003/3300
8720 Ionawr 20042003/3300
88 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2168
89(1), (2), (3) a (4)20 Ionawr 20042003/3300
89(5)31 Mawrth 20042004/690
89(6) a (7)20 Ionawr 20042003/3300
9031 Gorffennaf 20042004/1502
92 (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
92 (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690
92 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2168
Atodlen 2 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2168
Atodlen 3 (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol)31 Mawrth 20042004/690
Atodlen 3 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2168

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yr adran neu'r AtodlenY dyddiad cychwynO.S. Rhif
13 (gydag arbedion)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
14 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
16 (gydag arbedion)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
1730 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
9130 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
Atodlen 1 (yn rhannol)30 Medi 20042004/2557 (Cy.228) (C.107)
40 i 4531 Mawrth 20042004/999 (Cy.105) (C.43)
47 i 5231 Mawrth 20042004/999 (Cy.105) (C.43)
55 a 5631 Mawrth 20042004/999 (Cy.105) (C.43)
Rhan 831 Rhagfyr 20042004/3238 (Cy.281) (C.144)

Back to top

Options/Help