Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran anheddau2 yng Nghymru yn unig.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

Cynnwys ychwanegol a ffurf hysbysiad o rent sy'n ddyledus3

1

Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 (Gofyniad i hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus) gynnwys (yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn unol â pharagraffau (a) a (b) o is-adran (2) o'r adran honno ac, os yw'n gymwys, paragraff (c) o'r is-adran honno) —

a

enw'r lesddeiliad y mae'r hysbysiad yn cael ei roi iddo;

b

y cyfnod y mae'r rhent sy'n cael ei hawlio i'w briodoli iddo;

c

enw'r person y mae taliad i'w wneud iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu;

ch

enw'r landlord y mae'r hysbysiad yn cael ei roi ganddo ac, os nad yw wedi'i nodi yn unol ag is-baragraff (c) uchod, ei gyfeiriad; a

d

yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol