Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1721 (Cy.133)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

28 Mehefin 2005

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 85 a 104(1) a (3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod priffyrdd, pontydd neu drafnidiaeth;

ystyr “y Cod” (“the Code”) yw'r Cod Ymarfer o dan y teitl “Measures Necessary where Appparatus is affected by Major Works (Diversionary Works)” dyddiedig Mehefin 1992, ac a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 30 Mehefin 1992, fel y mae'n cael ei ddiwygio a'i ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

ystyr “gweithfeydd adran 86(3) (a) i (g)” (“section 86(3) (a) to (g) works”) yw gweithfeydd trafnidiaeth pwysig sydd neu a fyddai, pe baent yn cael eu gwneud gan awdurdod priffyrdd, yn weithfeydd priffyrdd pwysig a ddisgrifir yn unrhyw rai o baragraffau (a) i (g) o adran 86(3) o'r Ddeddf.

ystyr “gweithfeydd gwyro” (“diversionary works”) yw mesurau y mae angen eu cymryd mewn perthynas â chyfarpar ymgymerwr mewn stryd o ganlyniad i weithfeydd pwysig neu er mwyn hwyluso eu gwneud;

ystyr “gweithfeydd pwysig” (“major works”) yw gweithfeydd priffyrdd pwysig, gweithfeydd pontydd pwysig neu weithfeydd trafnidiaeth pwysig.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “costau a ganiateir” (“allowable costs”) yw, mewn perthynas â gweithfeydd gwyro, swm yr holl gostau rhesymol a dynnir wrth eu gwneud, ac eithrio —

(a)costau yr eir iddynt wrth baratoi'r set gyntaf o gynlluniau ac amcangyfrifon mewn perthynas â'r gweithfeydd gwyro hynny (ond nid wrth baratoi unrhyw gynlluniau ac amcangyfrifon y gallai fod ar yr awdurdod eu hangen);

(b)costau na chaniateir mohonynt o dan reoliad 6(3).

Gweithfeydd gwyro a wneir gan ymgymerwr oherwydd gweithfeydd pwysig awdurdod

3.—(1Lle mae ymgymerwr(3) yn gwneud gweithfeydd gwyro, oherwydd gweithfeydd pwysig a gychwynnir gan awdurdod, rhaid i'r awdurdod dalu i'r ymgymerwr —

(a)lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd trafnidiaeth (heblaw gweithfeydd pontydd pwysig neu weithfeydd adran 86(3) (a) i (g)) a lle rhoddir taliad yn unol â rheoliad 8(1), swm sy'n gyfartal i 92.5 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;

(b)mewn achosion eraill lle rhoddir taliad yn unol â rheoliad 8(1), swm sy'n gyfartal i 82 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;

(c)ym mhob achos arall, costau a ganiateir y gweithfeydd gwyro.

(2Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.

Gweithfeydd gwyro a wneir gan awdurdod oherwydd gweithfeydd pwysig yr awdurdod

4.—(1Lle mae'r awdurdod yn gwneud gweithfeydd gwyro, oherwydd gweithfeydd pwysig a gychwynnir gan awdurdod, rhaid i'r ymgymerwr, yn ddarostyngedig i baragraff (2), dalu i'r awdurdod —

(a)lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd trafnidiaeth pwysig heblaw'r rhai —

(i)sydd hefyd yn weithfeydd pontydd pwysig, neu

(ii)sy'n weithfeydd adran 86(3) (a) i (g),

swm sy'n gyfartal i 7.5 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro;

(b)ym mhob achos arall, swm sy'n gyfartal i 18 y cant o gostau a ganiateir y gweithfeydd gwyro.

(2Lle y symudir cyfarpar ymgymerwr gan yr awdurdod ar gais yr ymgymerwr a hynny yn unig oherwydd newid yn y math o adeiladu ar gyfer priffyrdd, nad yw'n golygu newid yn nyfnder y gorchudd i ddyfnder sy'n llai neu'n fwy na'r dyfnder derbyniol a grybwyllir yn Atodiad B i'r Cod, rhaid i'r ymgymerwr dalu i'r awdurdod y costau a ganiateir a dynnir gan yr awdurdod wrth symud y cyfarpar.

(3Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.

Gweithfeydd gwyro a wneir gan awdurdod neu gan ymgymerwr mewn achosion eraill

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys lle cychwynnir gweithfeydd pwysig —

(a)gan awdurdod ar ran person arall neu gan awdurdod heblaw yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw; neu

(b)gan ymgymerwr at ddibenion unrhyw berson o'r fath,

a lle gwneir gweithfeydd gwyro gan awdurdod neu gan yr ymgymerwr.

(2Lle mae'r awdurdod yn gwneud y gweithfeydd gwyro, rhaid i'r ymgymerwr dalu i'r awdurdod y swm y byddai'n rhaid iddo fod wedi'i dalu o dan reoliad 4 pe bai'r gweithfeydd pwysig wedi'u cychwyn gan yr awdurdod.

(3Lle mae'r ymgymerwr yn gwneud y gweithfeydd gwyro, rhaid i'r awdurdod dalu i'r ymgymerwr y swm y byddai'n rhaid iddo fod wedi'i dalu o dan reoliad 3 pe bai'r gweithfeydd pwysig wedi'u cychwyn gan yr awdurdod.

(4Wrth gyfrifo'r costau a ganiateir at ddibenion rheoliadau 3 a 4 fel y'u cymhwysir gan y rheoliad hwn rhaid cymryd y canlynol i ystyriaeth o blaid yr ymgymerwr —

(a)unrhyw swm y gellir ei adennill oddi wrth unrhyw berson y gwneir y gweithfeydd gwyro at ei ddibenion, ni waeth a yw swm o'r fath yn cael ei adennill oddi wrth y person hwnnw neu beidio;

(b)unrhyw swm y byddai modd ei adennill oddi wrth berson o'r fath pe na bai'r person hwnnw yn awdurdod.

Costau a ganiateir — darpariaethau pellach

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd pontydd pwysig neu'n cynnwys gweithfeydd pontydd pwysig, rhaid i'r costau a ganiateir gael eu cyfrifo fel nad yw'r ymgymerwr yn atebol am gostau mewn perthynas â darparu —

(a)lle digonol yn strwythur y bont; neu

(b)gryfder digonol yn y bont,

er mwyn gwneud lle am gyfarpar yr ymgymerwr yn y bont.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gostau —

(a)unrhyw ddwythellau, cilfachau peipiau, crogfachau neu ddarpariaeth arall ar gyfer cartrefu neu gynnal cyfarpar yr ymgymerwr o fewn strwythur y bont;

(b)darparu lle digonol neu gryfder digonol i wneud lle am gyfarpar a osodir yn y bont ar ôl gwneud gweithfeydd pwysig o'r fath heblaw gosod, disodli neu addasu (heb gynnwys ehangu) cyfarpar a osodid gynt yn y bont cyn i'r gweithfeydd hynny gael eu gwneud.

(3Wrth gyfrifo costau ymgymerwr a ganiateir rhaid bod costau na chaniateir mohonynt mewn perthynas â chyfarpar a osodir yn y stryd ar ôl i'r awdurdod roi i'r ymgymerwr —

(a)yn achos gweithfeydd pwysig sef gweithfeydd pontydd pwysig sy'n cynnwys gosod pont newydd yn lle'r hen bont, hysbysiad o ddim mwy na 10 mlynedd,

(b)yn achos unrhyw weithfeydd pwysig eraill, hysbysiad o ddim mwy na 5 mlynedd,

am eu bwriad i wneud y gweithfeydd pwysig.

Gwelliant etc.

7.—(1Mewn achos lle mae ymgymerwr yn atebol, o dan y Rheoliadau hyn, i wneud taliad i awdurdod neu lle mae awdurdod yn atebol i wneud taliad i ymgymerwr mewn perthynas â gweithfeydd gwyro rhaid cymryd y canlynol i ystyriaeth o blaid yr awdurdod —

(a)os bydd y mesurau hynny yn arwain at welliant yng nghyfarpar yr ymgymerwr, swm sy'n gyfartal i'r budd y mae'r ymgymerwr yn ei gael o ganlyniad i'r gwelliant, wedi'i gyfrifo yn unol ag Atodiad F i'r Cod;

(b)os bydd y mesurau hynny'n arwain at ohirio'r angen i adnewyddu cyfarpar yr ymgymerwr, swm a benderfynir yn unol ag Atodiad E i'r Cod.

(2At ddibenion y rheoliad rhaid penderfynu ar “gwelliant” yn unol ag Atodiad F i'r Cod.

Talu

8.—(1At ddibenion rheoliad 3(1)(a) a (b) (gan gynnwys y darpariaethau hynny fel y'u cymhwysir gan reoliad 5) caiff yr awdurdod dalu i'r ymgymerwr swm sy'n gyfartal i 75 y cant o'r amcangyfrif o 82 y cant neu 92.5 y cant (fel y bo'n briodol) o'r costau a ganiateir —

(a)mewn un cyfandaliad cyn i'r gweithfeydd gwyro ddechrau; neu

(b)os bydd yr awdurdod a'r ymgymerwr yn cytuno yn achos gweithfeydd gwyro a fydd yn para, yn ôl yr amcangyfrif, am fwy na thri mis, fesul rhandaliadau o symiau o'r fath, ar y cyfryw adegau yn ystod gwneud y gweithfeydd gwyro, fel y mae'r awdurdod a'r ymgymerwr yn cytuno arno.

(2Cyn pen 90 diwrnod ar ôl i'r gweithfeydd gwyro gael eu cwblhau, rhaid i'r person y mae unrhyw swm o ran costau a ganiateir yn ddyledus iddo (y credydwr) roi i'r person y mae'r swm yn ddyledus oddi wrtho (y dyledwr) cyfrif o'r swm sy'n ddyledus a chyn pen 35 diwrnod ar ôl i'r cyfrif hwnnw gael ei roi —

(a)rhaid i ddyledwr sy'n awdurdod sydd wedi talu cyfandaliad neu randaliadau yn unol â pharagraff (1) dalu i'r ymgymerwr unrhyw swm sy'n weddill o'r amcangyfrif, ynghyd ag unrhyw swm pellach sy'n gyfartal i swm lle y mae'r gyfran o'r costau a ganiateir y mae gan yr ymgymerwr hawl i'w gael yn uwch na'r amcangyfrif;

(b)rhaid i'r dyledwr mewn unrhyw achos arall dalu i'r credydwr y swm sy'n ddyledus.

(3Os bydd taliadau a wneir gan awdurdod o dan baragraff (1) yn uwch na'r gyfran berthnasol o'r costau a ganiateir a bennir yn rheoliad 3(1)(a) neu (b), rhaid i'r ymgymerwr, cyn pen 35 diwrnod ar ôl rhoi'r cyfrif a grybwyllir ym mharagraff (2), ad-dalu i'r awdurdod swm y tâl dros ben.

Eithriadau

9.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithfeydd a wneir yn unol â —

(a)trwydded o dan adran 50 o'r Ddeddf;

(b)caniatâd o dan adran 61 o'r Ddeddf;

(c)cytundeb i gartrefu cyfarpar mewn strwythur pont; neu

(ch)cyfarwyddyd i symud neu newid lle'r cyfarpar, yn unol ag adran 62 o'r Ddeddf.

Dirymu a darpariaeth drosiannol

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) 1992(4) (“Rheoliadau 1992”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys lle mae'r hysbysiad ffurfiol o fwriad i fwrw ymlaen â gweithfeydd mawr yn unol â pharagraff 5 o Atodiad C i'r Cod yn cael ei gyflwyno ar y dyddiad y deuant i rym neu ar ôl hynny; ac mae Rheoliadau 1992 yn parhau'n gymwys lle mae hysbysiad ffurfiol o'r fath wedi cael ei gyflwyno cyn y dyddiad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mehefin 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli ac yn dirymu (o ran Cymru) Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) 1992 (O.S. 1992/1690) (“Rheoliadau 1992”), sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu costau rhwng yr awdurdod priffyrdd, pontydd neu drafnidiaeth (“yr awdurdod”) a'r ymgymerwr lle mae gwaith priffyrdd pwysig, gwaith pontydd pwysig neu weithfeydd trafnidiaeth pwysig (“gweithfeydd pwysig”) yn effeithio ar gyfarpar ymgymerwr mewn stryd a lle mae angen mesurau (“gweithfeydd gwyro”) i ddiogelu'r cyfarpar hwnnw. Y prif newid y mae'r Rheoliadau'n rhoi effaith iddo yw bod cyfran yr ymgymerwr o gostau'r gweithfeydd gwyro y mae eu hangen yn achos rhai gweithfeydd trafnidiaeth pwysig bellach yn 7.5 y cant yn hytrach na'r 18 y cant y darperir ar ei gyfer gan Reoliadau 1992. Hefyd ceir rhai mân newidiadau a newidiadau drafftio.

Lle mae gweithfeydd gwyro yn cael eu gwneud gan ymgymerwr oherwydd gweithfeydd pwysig a gychwynnir gan awdurdod, rhaid i'r awdurdod dalu 82 y cant o'r costau a ganiateir (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(2)) o'r gweithfeydd gwyro hynny, ar yr amod bod 75 y cant o'r costau hynny'n cael eu talu gan yr awdurdod yn y dull y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8. Lle mae'r gweithfeydd pwysig yn weithfeydd trafnidiaeth pwysig (heblaw gwaith sy'n weithfeydd pontydd pwysig neu'n weithfeydd priffyrdd pwysig penodol), mae'r awdurdod yn talu 92.5 y cant o'r costau: rheoliad 3.

Lle mae gweithfeydd gwyro yn cael eu gwneud gan awdurdod oherwydd gweithfeydd pwysig yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r ymgymerwr dalu 18 y cant neu 7.5 y cant (yn ôl y digwydd) o'r costau a ganiateir i'r awdurdod: rheoliad 4.

Lle mae'r ymgymerwr yn gofyn i'r awdurdod symud ei gyfarpar yn unig oherwydd newid yn y math o adeiladu ar gyfer priffyrdd, fel rheol mae'n ofynnol iddo dalu'r cyfan o'r costau a ganiateir: rheoliad 4(2). Yn achos gweithfeydd a gychwynnir gan berson heblaw awdurdod yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw neu gan ymgymerwr, mae'r rheolau uchod yn gymwys i weithfeydd gwyro yn dibynnu a ydynt yn cael eu gwneud gan yr awdurdod neu gan yr ymgymerwr, ond rhaid caniatáu yn llawn am unrhyw gyfraniad at gostau'r gweithfeydd gwyro hynny sydd i'w hadfer gan y person y cychwynnwyd y gweithfeydd ar ei ran: rheoliad 5.

Nid yw ymgymerwr yn atebol am gostau a ganiateir mewn perthynas â darparu lle mewn pont neu gryfhau pont er mwyn gwneud lle am ei gyfarpar (rheoliad 6(1)) ac ni all adfer ei gostau lle mae wedi gosod ei gyfarpar yn y stryd ar ôl i'r awdurdod roi ei hysbysiad statudol o'i fwriad i wneud gweithfeydd pwysig: rheoliad 6(3).

Gwneir darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr roi credyd am unrhyw elw y mae'n ei gael yn sgil gwella ei gyfarpar neu ohirio'r angen i adnewyddu ei gyfarpar yn deillio o fesurau diogelu: rheoliad 7. Ceir darpariaeth o ran amseru a dull talu (rheoliad 8) ac am eithriadau (rheoliad 9). Mae Rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau 1992 mewn perthynas â Chymru, yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys lle rhoddir hysbysiad o fwriad i wneud gweithfeydd pwysig ar y dyddiad y deuant i rym neu ar ôl hynny a bod Rheoliadau 1992 yn parhau i fod yn gymwys lle y rhoddir hysbysiad o'r fath cyn y dyddiad hwnnw.

Cyhoeddir y Cod Ymarfer o dan y teitl; “Measures Necessary where Appparatus is affected by Major Works (Diversionary Works)” (1992) (ISBN 0-11-551149-0) gan y Llyfrfa a gellir ei gael oddi wrth eu siopau llyfrau hwy neu drwy'r post, ffacs neu ffôn oddi wrth PO Box 29, Norwich NR3 1GN (ffôn. 0870 6005522/ffacs 0870 6005533) neu dros e-bost oddi wrth book.orders@theso.co.uk.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Mae i “ymgymerwr” yr ystyr a ragnodir i “undertaker” yn adran 48 o'r Ddeddf.

(4)

O.S. 1992/1690. Dirymwyd y Reoliadau hyn mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/3314.