2005 Rhif 1809 (Cy.140)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(2) (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2)), 118B(9) a (10) a 119B(12) a (13) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”)1 a pharagraffau 1(1) a (3)(b)(iv), 3(1), (2) a (3)(b), 4(1) a 6 o Atodlen 6 iddi, sef pwerau sydd bob un yn awr yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol2, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “Awdurdod” yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol;

  • ystyr “gorchymyn” yw—

    1. a

      gorchymyn dileu arbennig3;

    2. b

      gorchymyn gwyro arbennig4; neu

    3. c

      gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn o fath a bennir yn (a) neu (b); ac

    mae cyfeiriad at ffurf neu hysbysiad a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf honno neu'r hysbysiad hwnnw yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu yn y ddwy iaith) ac at ffurf neu hysbysiad sy'n sylweddol yr un fath â'r rhai a ragnodir o ran ei heffaith neu ei effaith.

Ffurfiau gorchymyn3

1

Os ymddengys i Awdurdod ei bod yn ofynnol i briffordd berthnasol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol —

a

gael ei chau at ddiben a bennir yn adran 118B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn dileu arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

b

gael ei gwyro at ddiben a bennir yn adran 119B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn gwyro arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i'r map y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn gorchymyn fod ar raddfa nad yw'n llai nag 1/2,500 neu, os nad oes map o'r fath ar gael, fod ar y raddfa fwyaf sydd ar gael.

3

Yn achos gorchymyn dileu arbennig, rhaid i'r map y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddangos unrhyw lwybr amgen sy'n rhesymol gyfleus.

Hysbysiadau4

1

Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 1 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â chadarnhau gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 2 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

3

Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 3 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

4

Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 1(3)(b)(iv)5 neu 4(1)(a)6 o Atodlen 6 i'r Ddeddf gael ei gyflwyno, yn ychwanegol, i'r personau a ragnodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn gorchmynion5

1

Rhaid bod dau gopi ar gael o orchymyn.

2

Os cyflwynir gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gadarnhau, rhaid i'r gorchymyn a'r ail gopi gael eu hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â—

a

dau gopi arall o'r gorchymyn;

b

copi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

c

unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn, a wnaed yn briodol ac na chawsant eu tynnu'n ôl;

ch

unrhyw sylwadau sydd gan yr Awdurdod ar y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau hynny; a

d

datganiad yn nodi ar ba seiliau, ym marn yr Awdurdod, y dylid cadarnhau'r gorchymyn.

3

Caniateir cynnal unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn dileu arbennig ar yr un pryd ag unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn creu llwybr cyhoeddus7, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus8, gorchymyn gwyro croesfan reilffordd9 neu orchymyn gwyro arbennig.

4

Ar ôl i benderfyniad i beidio â chadarnhau gorchymyn gael ei wneud, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

5

Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

6

Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau, rhaid i'r Awdurdod anfon copi o'r gorchymyn, fel y'i cadarnhawyd, at yr Arolwg Ordnans.

Hawliadau am ddigollediad mewn cysylltiad â gorchmynion6

1

Rhaid i hawliad a wneir yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf (digollediad am golled a achosir gan orchymyn creu llwybr cyhoeddus), fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf10, a hynny o ganlyniad i weithredu gorchymyn, gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r Awdurdod neu, yn achos gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gyflwyno i'r Awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol, fel a ddarperir gan adran 28(3) o'r Ddeddf, a hynny drwy ei ddanfon i swyddfeydd yr Awdurdod neu'r awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol (yn ôl y digwydd), wedi'i gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod, neu drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio felly.

2

Rhaid i hawliad a wneir o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno fel ei fod yn dod i law heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y gorchymyn y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad ag ef i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199811.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1

Rheoliad 3(1)(a)

FFURFDEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 118B

GORCHYMYN DILEU ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL

Image_r00000

Image_r00001

ATODLEN 2

Rheoliad 3(1)(b)

FFURFDEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119B

GORCHYMYN GWYRO ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL

Image_r00002

Image_r00003

Image_r00004

ATODLEN 3

Rheoliad 4(1) i (3)

FFURF 1DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN [118B] [119B] AC ATODLEN 6

HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG

Image_r00005

Image_r00006

FFURF 2DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN [118B] [119B] AC ATODLEN 6

HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG

Image_r00007

Image_r00008

FFURF 3DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 120(3) AC ATODLEN 6

HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG GAN GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Image_r00009

Image_r00010

ATODLEN 4PERSONAU YCHWANEGOL Y MAE HYSBYSIAD O ORCHMYNION I'W GYFLWYNO IDDYNT

Rheoliad 4(4)

  • ACU Motorcycling GB

  • Yr awdurdod sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r Gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli

  • British Horse Society

  • Byways and Bridleways Trust

  • Cyclists Touring Club

  • Open Spaces Society

  • Cymdeithas y Cerddwyr

  • Cynghorau tref a chynghorau cymuned ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mewnosodwyd adrannau 118B a 119B o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“Deddf 1980”) gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn y drefn honno. Maent yn galluogi gorchmynion i gael eu gwneud i gau (drwy gyfrwng “gorchymyn dileu arbennig”) a gwyro (drwy gyfrwng “gorchymyn gwyro arbennig”) briffyrdd penodol at ddibenion atal troseddu neu er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff ysgolion.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Gorffennaf 2005, yn rhagnodi'r ffurfiau a'r hysbysiadau, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn, ar gyfer gorchmynion dileu arbennig a gorchmynion gwyro arbennig sy'n ymwneud â phriffyrdd sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol, ac sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff. Bydd cymhwyso'r mathau hyn o orchmynion at ddibenion atal troseddu yn dod yn weithredol yn nes ymlaen.

Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 a 2 yn rhagnodi ffurf gorchymyn dileu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig yn y drefn honno.

Mae rheoliad 4(1) i (3) ac Atodlen 3 yn rhagnodi ffurf yr hysbysiadau sydd—

a

i'w rhoi unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan yr awdurdod priffyrdd perthnasol;

b

i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i gadarnhau; ac

c

i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae rheoliad 4(4) ac Atodlen 4 yn rhagnodi personau ychwanegol y mae'r hysbysiadau a bennir yn y rheoliad hwnnw i'w cyflwyno iddynt.

Mae rheoliad 5 yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth gyflwyno ac wrth gadarnhau'r gorchmynion.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi'r gofynion o ran cyflwyno hawliadau am ddigollediad o dan adran 28 o Ddeddf 1980 a hynny am ddibrisiant neu aflonyddwch a ddaw yn sgil gorchymyn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw hawliad o'r fath i'w gyflwyno fel ei fod yn dod i law o fewn 6 mis i'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym.