- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2005
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
ystyr “gwaith brys” (“urgent works”) yw gwaith stryd, ar wahân i waith mewn argyfwng, y mae'n ofynnol ei gyflawni ar yr adeg y mae'n cael ei gyflawni (neu y mae'r person sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol ei fod yn ofynnol):—
er mwyn osgoi neu roi terfyn ar unrhyw ymyriad annisgwyl ag unrhyw gyflenwad neu wasanaeth y mae'r ymgymerwr yn ei ddarparu; neu
er mwyn osgoi colled sylweddol i'r ymgymerwr o ran gwasanaeth sy'n bodoli eisoes; neu
er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai'r ymgymerwr o dan atebolrwydd sifil neu droseddol pe câi'r ailgysylltu ei oedi hyd nes ar ôl i'r cyfnod hysbysu priodol ddod i ben;
ac y mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu o'r fath waith;
ystyr “pibellau a llinellau cyswllt” (“service pipes and lines”) yw cyfarpar o unrhyw hyd sy'n cyfateb i un o'r disgrifiadau a geir ym mharagraff 7(3)(a), (b) neu (c) o Atodlen 4 i'r Ddeddf; ac
ystyr “system gwybodaeth ddaearyddol” (“a geographical information system”) yw system gyfrifiadurol sy'n cipio, storio, gwirio, integreiddio, trin, dadansoddi ac arddangos data sy'n ymwneud â lleoliadau gofodol.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i ymgymerwr gofnodi bob eitem o gyfarpar sy'n perthyn iddo ac sy'n cael ei rhoi yn y stryd a'i chofnodi ar bapur, neu, yn ddarostyngedig i reoliad 4, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau, a rhaid i'r cofnod gael ei baratoi ar ffurf :
(a)map o'r lleoliad neu'r llwybr wedi'i gofnodi ar gefndir map, sydd:
(i)yn ymwneud â Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans, yn ddarostyngedig i baragraff (2); a
(ii)wedi'i baratoi hyd at lefel o gywirdeb sy'n cyfateb o leiaf i raddfa map gan yr Arolwg Ordnans sydd agosaf at raddfa'r cefndir map hwnnw; neu
(iii)datganiad o gyfesurynnau'r Grid Cenedlaethol sy'n deillio o system wybodaeth ddaearyddol.
(2) Dim ond i gofnodi'r map o'r lleoliad neu'r llwybr am gyfnod heb fod yn fwy na phum mlynedd o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym (“y cyfnod trosiannol”) y caniateir defnyddio Mapio Cyfres Siroedd yr Arolwg Ordnans, a rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n cael eu gwneud yn y modd hwn i un o'r ffurfiau eraill a ragnodir gan baragraff (1) erbyn diwedd y cyfnod trosiannol fan bellaf.
(3) Wrth baratoi'r cofnod, rhaid cofnodi'r map o leoliad a llwybr y cyfarpar fel y bydd y safle a fesurwyd o fewn 300mm i'r gwir safle, a bydd y safle a gofnodwyd o fewn 500mm i'r gwir safle.
4. Pan fo cofnod electronig yn cael ei gadw, yn unol â rheoliad 3 uchod, rhaid bod modd ei atgynhyrchu ar ffurf sy'n ddigon darllenadwy i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan adran 79(3) o'r Ddeddf (dyletswydd i roi cofnodion ar gael i'w harchwilio).
5. Ni fydd y ddyletswydd yn adran 79(1) o'r Ddeddf i gadw cofnod o leoliad pob eitem o gyfarpar yn gymwys:-
(a)pan fyddai cydymffurfio yn arwain at ddatgelu'r mathau canlynol o wybodaeth gyfyngedig:
(i)gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig er lles diogelwch y wlad;
(ii)gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod ymgymerwr neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig yn unol â buddiannau masnachol yr ymgymerwr;
(b)i unrhyw gyfarpar a roddwyd gan ymgymerwr yn y stryd o fewn ei gyfarpar presennol lle y cofnodwyd lleoliad y cyfarpar presennol yn barod ar ffurf a ragnodir gan reoliad 3;
(c)i unrhyw gyfarpar a roddwyd ar y stryd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym;
(ch)i unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i ymgymerwr ac y mae'n dod o hyd iddo yn y stryd yn ystod gwaith mewn argyfwng neu waith brys y mae ef yn ei wneud;
(d)i unrhyw gyfarpar sydd heb ei osod dan ddaear; a
(dd)i bibellau a llinellau cyswllt.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y cofnodion o gyfarpar a roddir mewn strydoedd y mae ymgymerwyr i'w cadw yn unol â darpariaethau adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu bod rhaid cadw'r cofnodion hynny ar ffurf map lleoliad neu fap o'r llwybr neu ddatganiad o'r cyfesurynnau, a chânt fod un ai ar bapur, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau (rheoliad 3). Maent yn gwneud darpariaethau ar ddefnyddio cofnodion electronig (rheoliad 4). Rhagnodir eithriadau i'r ddyletswydd i gadw cofnod mewn rhai achosion (rheoliad 5).
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: