Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3034 (Cy.222)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005

Wedi'i wneud

31 Hydref 2005

Yn dod i rym

18 Tachwedd 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 Priffyrdd 1980(1) a phob pŵer galluogi arall (2):

1.  Daw'r droetffordd/ffordd feiciau newydd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn yr atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Yn y Gorchymyn hwn:—

(1mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(2) (iystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain— Abergwaun (A40)

(ii)ystyr “y gefnffordd newydd”(“the new trunk road”) yw'r gefnffordd y cyfeirir ati yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn.

(iii)ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan ac arno'r rhif HA10/2 NAFW 5 ac arno'r marc “ Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd Feiciau Gyfun, Windyhall, Abergwaun) 2005”, a lofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.

4.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Tachwedd 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Troetffordd/Ffordd feiciau Windyhall, Abergwaun) 2005.

Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.

S C Shouler

Cyfarwyddwr yr Is-adran Polisi a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

31 Hydref 2005

YR ATODLENLLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr yn Windyhall, Abergwaun yn Sir Benfro ac mae'n droetffordd/ffordd feiciau gyfun 325 o fetrau o hyd ac sy'n dechrau ar bwynt tua 135 o fetrau i'r gorllewin i gornel ogledd-orllewinol Windyhall House ac sy'n dod i ben ar bwynt tuag 66 o fetrau i'r gogledd-gogledd-ddwyrain i gornel ogledd-ddwyreiniol Windyhall Cottage.

(2)

Yn rhinwedd O. S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, mae'r pwerau hyn bellach wedi'u rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.