Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3285 (Cy.249) (C.140)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

29 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2003” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

Diwrnodau penodedig

2.—(1O ran Cymru 30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 117 o'r Ddeddf ddod i rym.

(21 Ebrill 2006 yw'r diwrnod a bennwyd i ddarpariaethau canlynol Deddf 2003 ddod i rym—

(a)adrannau 114(3) a (4) o ran Cymru ac i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym(2);

(b)adran 116(2); ac

(c)adrannau 107, 114(5), 115(1), (2), (4), (5) a (6) a 116(3) o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“y Ddeddf”). Mae'n dod â darpariaethau penodol y Ddeddf o ran Cymru i rym ar naill ai 30 Rhagfyr 2005 neu 1 Ebrill 2006, fel a bennir.

Mae erthygl 2(1) yn dwyn i rym ar 30 Rhagfyr adran 117 o'r Ddeddf sy'n estyn y ddyletswydd sydd ar awdurdodau lleol o ran ystyried sylwadau i gynnwys sylwadau a wneir ynghylch gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig.

Mae erthygl 2(2)(a) yn dwyn i rym rannau o adrannau 114 a 115 sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoliadau y caiff y Cynulliad eu gwneud ynghylch ymdrin â chwynion am wasanaethau cymdeithasol ac ynghylch eu hystyried.

Mae erthygl 2(2)(b) yn cychwyn adran 116(2) sy'n mewnosod adran 26ZB yn Neddf Plant 1989.

Mae erthygl 2(c) yn cychwyn o ran Cymru, adran 107, sy'n mewnosod cartref plant sy'n darparu llety diogel yn y diffiniad o sefydliadau yn Neddf Safonau Gofal 2000. Mae hefyd yn cychwyn, o ran Cymru, adran 116(3) sy'n mewnosod adran 26(2A) yn Neddf Plant 1989 a thrwy hynny'n estyn y gofyniad sydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i bersonau sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D neu 26 o'r Ddeddf honno i gynnwys ystyriaeth bellach o'r sylwadau hynny.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cafodd darpariaethau Deddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 sydd wedi'u rhestru yn y tabl isod eu dwyn i rym yng Nghymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Mae'r darpariaethau a gychwynnwyd gan O.S. 2003/3346 ac O.S. 2004/759 wedi'u cychwyn o ran Cymru a Lloegr. Mae'r darpariaethau a gychwynnwyd gan O.S.2004/480 (Cy.49) ac O.S.2004/873 (Cy.88) wedi'u cychwyn o ran Cymru.

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 11.4.20042004/759
Adrannau 2 i 41.1.20042003/3346
Adrannau 5 i 201.4.20042004/759
Adrannau 22 i 351.4.20042004/759
Adran 361.1.20042003/3346
Adrannau 37 i 391.4.20042004/759
Adran 401.1.20042003/3346
Adran 418.1.20042003/3346
Adran 4311.3.20042004/759
Adran 441.4.20042004/759
Adrannau 45 a 461.4.20042004/759
Adran 47 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adrannau 48 a 491.4.20042004/759
Adran 50(1) (yn rhannol)1.4.20042004/759
Adran 50(1) (yn rhannol)1.4.20062004/759
Adran 50(2) a (3)1.4.20052004/759
Adran 50(4)1.4.20062004/759
Adran 50(5)1.4.20042004/759
Adran 51(1) i (3) a (6)1.4.20042004/759
Adran 51(4)1.4.20052004/759
Adran 52(1) i (4), (6) a (7)1.4.20052004/759
Adran 52(5)1.4.20052004/759
Adrannau 53 i 571.4.20042004/759
Adrannau 60 a 611.4.20042004/759
Adrannau 64 i 681.4.20042004/759
Adrannau 70—75 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adrannau 92—101, o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 1021.4.20042004/759
Adran 1031.4.20042004/759
Adran 1061.4.20042004/759
Adran 1081.4.20042004/759
Adran 109 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 1111.4.20042004/759
Adrannau 118 a 1191.6.20042004/759
Adrannau 120 a 1211.4.20042004/759
Adran 1231.4.20042004/759
Adran 1241.4.20042004/759
Adran 1261.4.20042004/759
Adran 1281.4.20042004/759
Adran 1301.4.20042004/759
Adran 1321.4.20042004/759
Adran 1341.4.20042004/759
Adrannau 136 i 1381.4.20042004/759
Adran 1401.4.20042004/759
Adrannau 142 i 145 o ran Cymru1.4.20042004/873 (Cy.88)
Adran 1461.4.20042004/759
Adran 147 (yn rhannol)8.1.20042003/3346
Adran 147 o ran Lloegr (yn rhannol)11.3.20042004/759
Adran 147 (yn rhannol)1.4.20042004/759
Adran 147 (yn rhannol)1.6.20042004/759
Adran 1481.1.20042003/3346
Adran 174 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Adran 174 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Adran 175 o ran Cymru28.2.20042004/480
Adran 176 o ran Cymru28.2.20042004/480
Adran 179(1) o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Adran 179(2) o ran Cymru28.2.20042004/480
Adran 180 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Adran 189(1)1.4.20042004/759
Adran 196 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Adran 196 (yn rhannol)1.4.20042004/759
Atodlen 11.4.20042004/759
Atodlen 21.1.20042003/3346
Atodlenni 3 i 51.4.20042004/759
Atodlen 68.1.20042003/3346
Atodlen 811.3.20042004/759
Atodlen 9
Paragraffau 1, 3, 5 i 8, 13 a 31 (yn rhannol)8.1.20042003/3346
Paragraffau 2, 14, 16 i 20, 22, 23(a), 25, 29 a 301.4.20042004/759
Paragraffau 9 ac 111.6.20042004/759
Paragraffau 10, 21, 24, 26 i 28 a 32 o ran Lloegr1.4.20042004/759
Paragraff 12 (yn rhannol)11.3.20042004/759
Atodlen 11
Paragraff 1 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 2 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 3(2)(a) a (3) i (5) a 3(1) o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 4 i 6 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 7 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Paragraff 7 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 8 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 9 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 10 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 13 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 20 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 21(2) o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 22(1) o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 22(2) a 22(3)(a), (5)(b) a (7) i (9) o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraffau 22(8)(b) a (9) o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 23 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Paragraff 23 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 24(a) o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraffau 25 i 27 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 36(a) o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 37 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 38 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Paragraff 39 o ran Cymru (yn rhannol)28.2.20042004/480
Paragraff 40 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 41 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraffau 42 i 44 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 45 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 46(1) o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 46(2)(a) a (3)(a) o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraffau 47 i 49 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 51 i 52 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 53 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraff 55 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraffau 56 i 59 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 60 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 61 i 64 o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraffau 65 a 67(a) o ran Cymru1.4.20042004/480
Paragraff 69 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Paragraffau 70 i 74 o ran Cymru1.4.20042004//480
Atodlen 14 o ran Cymru (yn rhannol)1.4.20042004/480
Atodlen 14 Rhan 11.4.20042004/759
(1)

2003 p. 43. Rhoddir y pwerau i'r awdurdod priodol. Gweler adran 199(2) am y diffiniad o “appropriate authority” at ddibenion adran 199(1).

(2)

Gweler adran 199(4) o Ddeddf 2003.