Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Nodyn Esboniadol
Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Effaith y cynigion hyn yw y bydd dwy ardal yn cael eu trosglwyddo o gymuned Coety Uchaf i gymuned Bracla ac y bydd un ardal yn cael ei throsglwyddo o gymuned Bracla i gymuned Coety Uchaf wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Mae'r ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng nghymuned Coety Uchaf yn cael ei newid i gyfateb â'r ffin gymunedol newydd fel y'i dangosir ar y map ffiniau ac, ymhellach, caiff y ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety ei newid fel y dangosir ar y map ffiniau.
Mae printiau o'r map ffiniau yn dangos y ffiniau newydd wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen–y–bont ar Ogwr yn y Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen–y–bont ar Ogwr ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthyglau 1(2) a 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol yngly 246 n ag effaith a gweithredu gorchmynion megis y rhain.
Mae yna newidiadau canlyniadol i adrannau etholaethol Pendre a Bracla i gyfateb â'r ffin gymunedol newydd.
Back to top