Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1532 (Cy.150)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

13 Mehefin 2006

Yn dod i rym

Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 2 Hydref 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn:

ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill ac yn gorffen ar 31 Mawrth;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

ystyr “gwaith” (“works”) yw gwaith stryd sy'n cynnwys cloddio neu adfer unrhyw ran o stryd;

mae i “pibell gyswllt” a “llinell gyswllt” yr ystyr sydd i “service pipe” a “service line” ym mharagraff 7(3) o Atodlen 4 i'r Ddeddf;

ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw ymgymerydd sy'n gwneud gwaith stryd yn rhinwedd hawl statudol.

Ffioedd Arolygu

3.—(1Rhaid i ymgymerydd dalu i'r awdurdod strydoedd ffi o £21 am bob tro y caiff gwaith ei arolygu am dâl gan yr awdurdod strydoedd.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, arolygu gwaith am dâl yw arolygu ar hap ddim llai na 10 y cant a dim mwy na 10.5 y cant o bob un o gyfnodau'r gwaith, a dim mwy na 30 y cant o gyfanswm nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn unrhyw flwyddyn.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, dyma beth yw uned arolygu:

(a)un darn a gloddir nad yw'n hirach na 200 metr o hyd; neu

(b)mwy nag un darn a gloddir ond nid mwy na phump ac, yn achos gwaith sy'n ymwneud â phibellau cyswllt a llinellau cyswllt, dim mwy na 10 darn a gloddir, ar yr amod ym mhob achos–

(i)bod pob darn a gloddir yn yr un stryd,

(ii)bod pob darn a gloddir yn rhan o'r un gwaith,

(iii)bod pob darn a gloddir yn cael ei gloddio o fewn cyfnod o 10 niwrnod gwaith,

(iv)bod pob darn a gloddir o fewn 500 metr i bob darn arall a gloddir; a

(v)nad yw hyd cyfan yr holl ddarnau a gloddir yn fwy na 200 metr gyda'i gilydd; neu

(c)yn achos cloddio darn sy'n fwy na 200 metr o hyd, pob darn a gloddir o 200 metr o hyd o fewn y darn hwnnw a gloddir neu falans y cyfryw ddarn.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cyfnodau gwaith:–

(a)y cyfnod y bydd y gwaith yn cael ei wneud, yn gorffen ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol;

(b)y cyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol; ac

(c)y cyfnod o dri mis yn union cyn diwedd–

(i)yn achos cloddio'n ddyfnach nag 1.5 metr o fesur i dop yr offer a hynny dros ddarn o 5 metr neu fwy, 3 blynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol,

(ii)mewn unrhyw achos arall, 2 flynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (6) isod, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn blwyddyn yw cyfartaledd nifer yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd fesul blwyddyn wedi'i gyfrifo dros y tair blynedd sy'n dod yn syth o flaen y flwyddyn honno.

(6Pan na fydd ymgymerydd eisoes wedi gwneud unrhyw waith stryd ar strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy ym mhob un o'r tair blynedd gyntaf yw nifer amcangyfrifedig yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd yn y flwyddyn honno.

(7At ddibenion gwneud yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r ymgymerydd, cyn cyflawni unrhyw waith mewn strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, ddarparu ar gyfer yr awdurdod strydoedd amcangyfrif o nifer yr unedau arolygu y mae'n arfaethu eu cynhyrchu y flwyddyn honno.

(8Pan fydd ymgymerydd yn methu darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd o fewn y cyfnod o amser y cyfeirir ato ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyflawni cymaint o arolygiadau ag y bydd yr awdurdod strydoedd o'r farn eu bod yn briodol a chodi ar yr ymgymerydd hwnnw ffi o £21 amdanynt, hyd oni fydd yr ymgymerydd yn darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, ac ar yr adeg honno bydd darpariaethau paragraff (9) isod yn gymwys.

(9Unwaith y bydd yr ymgymerydd y cyfeirir ato ym mharagraff (8) uchod wedi darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, bydd y darpariaethau ym mharagraff (6) uchod yn gymwys, a bernir y bydd y tair blynedd gyntaf, y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r amcangyfrif i law'r awdurdod strydoedd.

Dirymiadau

4.—(1Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992(3)i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(2Dirymir y Rheoliadau canlynol:

(a)Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001(4).

(b)Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002(5).

(c)Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004(6).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (“Rheoliadau 1992”) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”), Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) yn rhagnodi cynllun ar gyfer talu gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau strydoedd. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1992, Rheoliadau 2001, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2004 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru ac yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny i roi effaith i'r newidiadau a ganlyn:

(a)Diffinnir “uned arolygu am dâl”bellach, yn syml, fel arolygu ar hap lai na 10 y cant a dim mwy na 10.5 y cant o bob cyfnod o'r gwaith, a dim mwy na 30 y cant o gyfanswm nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn unrhyw flwyddyn: rheoliad 3(2).

(b)Ailddiffinnir “uned arolygu”, yn achos clystyrau o ddim mwy na 5 o ddarnau a gloddir (neu ddim mwy na 10 pan fo'r gwaith yn ymwneud â phibellau neu linellau cyswllt) fel y bo dau ofyniad, sef bod yr holl ddarnau a gloddir yn yr un stryd, a'u bod yn rhan o'r un gwaith, yn cael eu rhoi yn lle gofyniad blaenorol bod pob darn a gloddir yn yr achosion hyn yn ddarostyngedig i un hysbysiad o ddyddiad cychwyn: rheoliad 3(3).

(c)Yn lle'r pum “Cyfnod gwaith”a geir yn Rheoliadau 1992 ceir bellach dri: rheoliad 3(4).

(ch)Yn lle “niferoedd amcangyfrifedig yr unedau arolygu”ceir “nifer cyfrifadwy yr unedau arolygu”, sef nifer cyfartalog yr unedau arolygu cyfrifadwy ar gyfer yr ymgymerydd hwnnw yn ystod y tair blynedd flaenorol: rheoliad 3(5). Mae rheoliadau 3(6) a (7) yn darparu bod ymgymerwyr newydd i amcangyfrif nifer yr unedau arolygu y maent yn arfaethu eu cynhyrchu yn y tair blynedd gyntaf.

(1)

1991 p.22. Nid yw'r diwygiad a wneir i adran 75 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 gan adran 58(2) o Deddf Rheoli Traffig 2004 wedi'i ddwyn i rym eto.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1992/1688. Cafodd y Rheoliadau hyn eu dirymu o ran Lloegr gan O.S. 2002/2092.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources