2006 Rhif 1532 (Cy.150)
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 2 Hydref 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill ac yn gorffen ar 31 Mawrth;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
ystyr “gwaith” (“works”) yw gwaith stryd sy'n cynnwys cloddio neu adfer unrhyw ran o stryd;
mae i “pibell gyswllt” a “llinell gyswllt” yr ystyr sydd i “service pipe” a “service line” ym mharagraff 7(3) o Atodlen 4 i'r Ddeddf;
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw ymgymerydd sy'n gwneud gwaith stryd yn rhinwedd hawl statudol.
Ffioedd Arolygu3
1
Rhaid i ymgymerydd dalu i'r awdurdod strydoedd ffi o £21 am bob tro y caiff gwaith ei arolygu am dâl gan yr awdurdod strydoedd.
2
At ddibenion y rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, arolygu gwaith am dâl yw arolygu ar hap ddim llai na 10 y cant a dim mwy na 10.5 y cant o bob un o gyfnodau'r gwaith, a dim mwy na 30 y cant o gyfanswm nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn unrhyw flwyddyn.
3
At ddibenion y rheoliad hwn, dyma beth yw uned arolygu:
a
un darn a gloddir nad yw'n hirach na 200 metr o hyd; neu
b
mwy nag un darn a gloddir ond nid mwy na phump ac, yn achos gwaith sy'n ymwneud â phibellau cyswllt a llinellau cyswllt, dim mwy na 10 darn a gloddir, ar yr amod ym mhob achos–
i
bod pob darn a gloddir yn yr un stryd,
ii
bod pob darn a gloddir yn rhan o'r un gwaith,
iii
bod pob darn a gloddir yn cael ei gloddio o fewn cyfnod o 10 niwrnod gwaith,
iv
bod pob darn a gloddir o fewn 500 metr i bob darn arall a gloddir; a
v
nad yw hyd cyfan yr holl ddarnau a gloddir yn fwy na 200 metr gyda'i gilydd; neu
c
yn achos cloddio darn sy'n fwy na 200 metr o hyd, pob darn a gloddir o 200 metr o hyd o fewn y darn hwnnw a gloddir neu falans y cyfryw ddarn.
4
At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cyfnodau gwaith:–
a
y cyfnod y bydd y gwaith yn cael ei wneud, yn gorffen ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol;
b
y cyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol; ac
c
y cyfnod o dri mis yn union cyn diwedd–
i
yn achos cloddio'n ddyfnach nag 1.5 metr o fesur i dop yr offer a hynny dros ddarn o 5 metr neu fwy, 3 blynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol,
ii
mewn unrhyw achos arall, 2 flynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol.
5
At ddibenion y rheoliad hwn, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (6) isod, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn blwyddyn yw cyfartaledd nifer yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd fesul blwyddyn wedi'i gyfrifo dros y tair blynedd sy'n dod yn syth o flaen y flwyddyn honno.
6
Pan na fydd ymgymerydd eisoes wedi gwneud unrhyw waith stryd ar strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy ym mhob un o'r tair blynedd gyntaf yw nifer amcangyfrifedig yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd yn y flwyddyn honno.
7
At ddibenion gwneud yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r ymgymerydd, cyn cyflawni unrhyw waith mewn strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, ddarparu ar gyfer yr awdurdod strydoedd amcangyfrif o nifer yr unedau arolygu y mae'n arfaethu eu cynhyrchu y flwyddyn honno.
8
Pan fydd ymgymerydd yn methu darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd o fewn y cyfnod o amser y cyfeirir ato ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyflawni cymaint o arolygiadau ag y bydd yr awdurdod strydoedd o'r farn eu bod yn briodol a chodi ar yr ymgymerydd hwnnw ffi o £21 amdanynt, hyd oni fydd yr ymgymerydd yn darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, ac ar yr adeg honno bydd darpariaethau paragraff (9) isod yn gymwys.
9
Unwaith y bydd yr ymgymerydd y cyfeirir ato ym mharagraff (8) uchod wedi darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, bydd y darpariaethau ym mharagraff (6) uchod yn gymwys, a bernir y bydd y tair blynedd gyntaf, y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r amcangyfrif i law'r awdurdod strydoedd.
Dirymiadau4
1
Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 19923i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)