Pwerau arolygwyr
18.—(1) Caiff arolygydd sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn—
(a)marcio unrhyw aderyn neu unrhyw beth arall at ddibenion ei adnabod; a
(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, pan fyddant yn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—
(a)glanhau a diheintio unrhyw ran o fangre neu unrhyw beth yn y fangre honno;
(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o fangre neu unrhyw beth yn y fangre honno;
(c)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednyn neu aderyn caeth arall—
(i)yn cadw neu'n ynysu unrhyw ddofednyn, aderyn caeth arall neu anifail mewn lle penodedig;
(ii)yn gwahanu unrhyw ddofednyn, aderyn caeth arall neu anifail oddi wrth unrhyw anifail arall neu aderyn arall.
(3) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—
(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);
(b)adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod);
(c)adran 64A() (pwerau arolygwyr ynglŷn â rhwymedigaethau Cymunedol), ac
(ch)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal gafael ar lestri ac awyrennau).