Pwerau arolygwyr os ceir diffyg19
1
Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y byddai'r gofyniad yn cael ei fodloni, a'u cymryd ar draul y person hwnnw.
2
Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—
a
i'w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson gymryd neu beidio â chymryd camau penodedig mewn perthynas ag unrhyw le, anifail, aderyn, cerbyd, neu unrhyw beth arall; a
b
i gymryd unrhyw beth i'w feddiant a dal ei afael arno.