Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Testun rhagarweiniol

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/04/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Introductory Text. Help about Changes to Legislation

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 31 (Cy.5)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

10 Ionawr 2006

Yn dod i rym

11 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(3) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(4), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf Diogelwch Bwyd i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar Ùl ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o'r Ddeddf Safonau Bwyd.

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

Back to top

Options/Help