RHAN IVDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL
Diwygiadau canlyniadol33.
(1)
I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, diwygir yr offerynnau a bennir yn Atodlen 7 i'r graddau a bennir yno.
(2)
Yn lle Nodyn 3 yn Atodlen 1 i Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 200318 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—
“3.
Llwyddir i breserfio'n cynhyrchion dynodedig—
(a)
drwy drin â gwres ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (ch) o golofn 1 yn yr Atodlen hon;
(b)
drwy ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o golofn 1 yn yr Atodlen hon; a
(c)
drwy ddadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.”.