Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3C

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/08/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ATODLEN 3C. Help about Changes to Legislation

Rheoliad 17(7)

[F1ATODLEN 3CLL+CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(7)

Y gofynion yw—

(a)bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(1);

(b)mai dim ond carnolion domestig sydd wedi eu cludo'n uniongyrchol o'r daliad gwreiddiol neu o farchnad y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn eu derbyn;

(c)bod y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r carnolion domestig yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

(ch)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c) am flwyddyn; a

(d)bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.]

(1)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help