Rheoliad 30
ATODLEN 4LL+CGOFYNION RHEOLI TYMHEREDD
CwmpasLL+C
1. Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys o ran—
(a)unrhyw weithrediad busnes bwyd y mae Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddo; nac
(b)unrhyw weithrediad busnes bwyd sy'n cael ei gyflawni ar long neu awyren.
Gofynion cadw'n oerLL+C
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd—
(a)sy'n debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a
(b)y mae unrhyw weithrediad masnachol yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef,
ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd—
(a)yn debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a
(b)wrthi'n cael ei gludo neu sydd wedi'i gludo drwy'r post neu drwy gyfrwng cludwr preifat neu gyffredin i'r defnyddiwr olaf,
ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.
Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerLL+C
3. Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—
(a)bwyd—
(i)sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,
(ii)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a
(iii)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;
(b)bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;
(c)bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—
(i)pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a
(ii)pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;
(ch)bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;
(d)bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;
(dd)bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1906/90 yn gymwys iddo; ac
(e)bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1907/90 yn gymwys iddo.
Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.LL+C
4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—
(a)bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—
(i)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a
(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;
(b)bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;
(c)nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac
(ch)nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.
(2) Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—
(a)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a
(b)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,
onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.
Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerLL+C
5.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—
(a)bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;
(b)nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac
(c)wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.
(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—
(a)wrthi'n cael ei drosglwyddo—
(i)o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu
(ii)i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu
(b)wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—
(i)dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,
(ii)dadrewi'r cyfarpar, neu
(iii)y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,
a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.
Gofynion cadw'n dwymLL+C
6. Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63ºC unrhyw fwyd sydd—
(a)wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo;
(b)sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu; ac
(c)y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio,
yn euog o dramgwydd.
Amddiffyniadau cadw'n dwymLL+C
7.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—
(a)bod asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar dymereddau islaw 63ºC wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw risg i iechyd os, ar ôl ei goginio nei ei aildwymo, y mae'r bwyd yn cael ei gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu—
(i)ar dymheredd cadw sydd islaw 63ºC, a
(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag unrhyw gyfnod amser a bennir yn yr asesiad gwyddonol hwnnw; a
(b)bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.
(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—
(a)bod y bwyd wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na dwy awr; a
(b)nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac wedi'i arddangos i'w werthu gan y person hwnnw.
DehongliLL+C
8. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “oes silff” (“shelf life”)—
(a)
o ran bwyd y mae dangosiad parhauster lleiaf ar ei gyfer yn ofynnol yn unol â rheoliad 20 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996() (ffurf ar ddangos parhauster lleiaf), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y mae'n ofynnol ei gynnwys yn y dangosiad hwnnw;
(b)
o ran bwyd y mae dyddiad “use by” wedi'i neilltuo ar ei gyfer ar y ffurf sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 21 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (ffurf ar ddangos dyddiad “use by”), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad hwnnw; ac
(c)
o ran bwyd nad yw'n ofynnol iddo ddwyn dangosiad parhauster lleiaf na dyddiad “use by”, yw'r cyfnod y gellid disgwyl i'r bwyd aros yn ffit i'w werthu os yw'n cael ei gadw mewn modd sy'n cydweddu â diogelwch bwyd.
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1906/90” (“Council Regulation 1906/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod() fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1101/98 sy'n diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90 ynghylch safonau marchnata penodol ar gyfer cig dofednod();
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1907/90” (“Council Regulation 1907/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau() fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2052/2003 yn diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau();
ystyr “tymheredd a argymhellwyd (“recommended temperature”) yw tymheredd penodedig sydd wedi'i argymell yn unol â pharagraff 4(1)(a)(i);