Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/08/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Paragraff 4. Help about Changes to Legislation

Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.LL+C

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

(a)bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—

(i)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a

(ii)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;

(b)bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;

(c)nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac

(ch)nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.

(2Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—

(a)ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a

(b)am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,

onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help