Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 26/07/2018.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ATODLEN 5. Help about Changes to Legislation

Rheoliad 31

ATODLEN 5LL+CY MODD Y MAE'R CYNHYRCHYDD YN CYFLENWI'N UNIONGYRCHOL FEINTIAU BACH O GIG O DDOFEDNOD A LAGOMORFFIAID A GIGYDDWYD AR Y FFERM

CwmpasLL+C

1.  Mae gofynion yr Atodlen hon yn gymwys i'r modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GofynionLL+C

2.—(1Pan fydd cynhyrchydd yn cyflenwi cig yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 1, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dwyn label neu farc arall sy'n dangos yn glir enw a chyfeiriad y fferm lle cafodd yr anifail y mae'r cig yn tarddu ohono ei gigydda.

(2Rhaid i'r cynhyrchydd—

(a)cadw cofnod ar ffurf ddigonol i ddangos nifer yr adar a nifer y lagomorffiaid sy'n cael eu derbyn i'w fangre, a meintiau'r cig ffres sy'n cael eu hanfon ohoni, yn ystod pob wythnos;

(b)cadw'r cofnod am gyfnod o flwyddyn; ac

(c)trefnu bod y cofnod ar gael i swyddog awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

TramgwyddLL+C

3.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help