Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Paragraff 8
Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 26/07/2018.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Paragraff 8.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
8. Yn yr Atodlen hon—LL+C
ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;
ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;
[mae “labelu” (“labelling”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys unrhyw eiriau, manylion, nod masnach, enw brand, deunydd darluniadol neu symbol sy’n ymwneud â’r bwyd ac yn ymddangos ar ddeunydd pacio’r bwyd neu ar unrhyw ddogfen, hysbysiad, label, cylch neu goler a gyflwynir gyda’r bwyd;]
ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;
ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;
ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Back to top