xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliad 32

ATODLEN 6LL+CCYFYNGIADAU AR WERTHU LLAETH CRAI A FWRIEDIR AR GYFER EI YFED YN UNIONGYRCHOL GAN BOBL

1.  Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i baragraff 5, yn gwerthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn euog o dramgwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

[F11A.  Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7A yn cyflawni tramgwydd.LL+C

1B.  Bydd unrhyw berson sy’n gwerthu llaeth crai yn groes i baragraff 7B yn cyflawni tramgwydd.]LL+C

2.—(1Os bydd unrhyw berson heblaw meddiannydd daliad cynhyrchu neu ddosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.LL+C

(2Os bydd meddiannydd daliad cynhyrchu yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 3, bydd yn euog o dramgwydd.

(3Os bydd dosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 4, bydd yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

3.  Caiff meddiannydd daliad cynhyrchu ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C

(a)ar neu o fangre'r fferm lle mae'r anifeiliaid y cafwyd y llaeth ohonynt yn cael eu cynnal; a

(b)i'r canlynol—

(i)y defnyddiwr olaf ar gyfer yfed y llaeth hwnnw heblaw ar fangre'r fferm honno,

(ii)gwestai dros dro ym mangre'r fferm honno neu ymwelydd dros dro â mangre'r fferm honno fel pryd bwyd neu luniaeth neu fel rhan o bryd bwyd neu luniaeth, neu

(iii)dosbarthwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

4.  Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—LL+C

(a)y mae wedi'i brynu yn unol ag is-baragraff (b)(iii) o baragraff 3;

(b)yn y cynwysyddion y mae'n cael y llaeth ynddynt, a rhaid i ffasninau'r cynwysyddion fod heb eu torri;

(c)o gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon fel mangre siop; ac

(ch)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

5.  Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:LL+C

Cyfrifiad haenau ar 30ºC (cfu fesul ml)≤ 20,000
Colifformau (cfu fesul ml)< 100

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

6.  Mewn achos lle mae mangre fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff 3, rhaid i'r Asiantaeth gyflawni'r gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio'r llaeth, y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau a bennir ym mharagraff 5.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

7.  Mewn unrhyw achos lle mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio llaeth buchod crai yn unol â pharagraff 6, bydd ffi o £63 yn ddyledus i'r Asiantaeth gan feddiannydd y daliad cynhyrchu sy'n gwerthu'r llaeth, a honno'n ffi sy'n daladwy gan y meddiannydd i'r Asiantaeth pan fydd yr Asiantaeth yn gofyn amdani.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

[F27A.  Ac eithrio mewn achosion y mae paragraff 7B yn gymwys iddynt, rhaid i’r cynhwysydd y gwerthir unrhyw laeth crai ynddo fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r geiriau “This milk has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.LL+C

7B.  Yn achos unrhyw laeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo, rhaid i’r geiriau “Milk supplied in this establishment has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health. The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.” ymddangos ar—LL+C

(a)label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo, neu

(b)ar docyn neu hysbysiad, y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd, yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.

7C.  Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7A, caiff y marc neu’r label gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.LL+C

7D.  Yn ychwanegol at y testun Saesneg y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraff 7B, caiff y label, tocyn neu hysbysiad gynnwys y testun Cymraeg “Nid yw’r llaeth a ddarperir yn y sefydliad hwn wedi ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn neu’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.”.LL+C

7E.  Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn atal y canlynol rhag cael eu marcio neu eu labelu, fel y bo’n briodol, â thestun sy’n cyfateb i’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn rhinwedd paragraffau 7A a 7B mewn unrhyw iaith ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg—LL+C

(a)y cynhwysydd y gwerthir llaeth crai ynddo;

(b)yn achos llaeth crai nad yw wedi ei ragbecynnu ac a werthir mewn sefydliad arlwyo—

(i)label sydd ynghlwm wrth y cynhwysydd y gwerthir y llaeth hwnnw ynddo,

(ii)tocyn neu hysbysiad y gall darpar brynwr ei weld yn rhwydd yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y llaeth hwnnw.]

8.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;

ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;

[F3mae “labelu” (“labelling”), mewn perthynas â bwyd, yn cynnwys unrhyw eiriau, manylion, nod masnach, enw brand, deunydd darluniadol neu symbol sy’n ymwneud â’r bwyd ac yn ymddangos ar ddeunydd pacio’r bwyd neu ar unrhyw ddogfen, hysbysiad, label, cylch neu goler a gyflwynir gyda’r bwyd;]

ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;

ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1