2006 Rhif 42 (Cy.8)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 31A a 121B o Ddeddf Priffyrdd 1980 (“Deddf 1980”)1 ac adran 53B o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“Deddf 1981”)2, ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol3, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Ionawr 2006.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod” (“authority”), o ran—

    1. a

      cofrestr adran 31A, yw'r cyngor priodol;

    2. b

      cofrestr adran 53B, yw'r awdurdod mesur tir; ac

    3. c

      cofrestr adran 121B, yw'r cyngor;

  • ystyr “cofrestr” (“register”) yw, yn ôl y digwydd, cofrestr adran 31A, cofrestr adran 53B a chofrestr adran 121B;

  • ystyr “cofrestr adran 31A” (“section 31A register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod ei chadw o dan adran 31A o Ddeddf 1980 (cofrestr o fapiau, datganiadau a mynegiadau);

  • ystyr “cofrestr adran 53B” (“section 53B register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod ei chadw o dan adran 53B o Ddeddf 1981 (cofrestr o geisiadau o dan adran 53); ac

  • ystyr “cofrestr adran 121B” (“section 121B register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod ei chadw o dan adran 121B o Ddeddf 1980 (cofrestr o geisiadau).

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso2

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru fel a nodir yn y rheoliad hwn.

2

O ran cofrestr adran 31A, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo map a datganiad—

a

yn cael eu hadneuo gyda'r awdurdod, neu pan fo mynegiad yn cael ei gyflwyno iddo, o dan adran 31(6) o Ddeddf 1980 ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006;

b

wedi'u hadneuo gyda'r awdurdod cyn 1 Gorffennaf 2006 a bod mynegiad sy'n ymwneud â hwy wedi'i gyflwyno yr un pryd (neu'n ddiweddarach) a hwnnw'n ddatganiad sy'n parhau i gael effaith ar 1 Gorffennaf 2006.

3

O ran cofrestr adran 53B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 53(5) o Ddeddf 1981—

a

ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006;

b

cyn 1 Gorffennaf 2006, os nad yw gweithdrefnau o dan Atodlen 15 i Ddeddf 1981 wedi'u cwblhau erbyn 1 Gorffennaf 2006.

4

O ran cofrestr adran 121B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais y mae adran 121B o Ddeddf 1980 yn gymwys iddo.

Y dogfennau a'r wybodaeth sydd i'w cynnwys ar gofrestr3

1

Pan fo map a datganiad y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cael eu hadneuo gydag awdurdod, neu fod mynegiad y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn cael ei gyflwyno, neu fod cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn cael ei wneud, i awdurdod, mae'r awdurdod hwnnw—

a

yn gorfod cofnodi yn y gofrestr y dogfennau a'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraff (2) ac hefyd, pan fo rheoliad 4 neu 5 yn gymwys, yr wybodaeth a ragnodir yn y rheoliad hwnnw; a

b

yn cael cofnodi yn y gofrestr honno unrhyw wybodaeth arall y gwêl yn dda.

2

Rhaid i'r gofrestr gynnwys—

a

copi o'r map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais (ynghyd ag unrhyw fap a gyflwynwyd gyda'r cais);

b

disgrifiad o effaith arfaethedig y map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais;

c

disgrifiad o leoliad daearyddol y tir y mae'r map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais yn ymwneud ag ef, a rhaid i'r disgrifiad hwnnw gynnwys—

i

cyfeirnod grid chwe-Rhif yr Arolwg Ordnans ar gyfer pob pen o'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig,

ii

cyfeiriad a chod post y tir lle mae'r rhan berthnasol o'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig,

iii

enwau'r prif ddinasoedd, trefi a phentrefi agosaf at y tir hwnnw,

iv

unrhyw enw y gwyddys amdano yn lleol ar gyfer y lleoliad hwnnw, a

v

enw unrhyw gyngor cymuned neu gyngor tref a sefydlwyd ar gyfer yr ardal lle mae'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig;

ch

yn ddarostyngedig i reoliad 7, enw, cyfeiriad a chod post y person a adneuodd y map a'r datganiad, a gyflwynodd y mynegiad neu a wnaeth y cais;

d

y dyddiad y daeth y map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais i law'r awdurdod;

dd

y Rhif cyfeirnod a neilltuwyd gan yr awdurdod ar gyfer map a datganiad a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw, ar gyfer mynegiad a gyflwynwyd iddo, neu ar gyfer cais a wnaed iddo; ac

e

disgrifiad o deitl swydd y person yn yr awdurdod sy'n gyfrifol am ymdrin â'r mater, ynghyd â Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yr awdurdod.

Y gofrestr adran 53B4

1

Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 53B—

a

Rhif y llwybr, pan fo'r ffordd eisoes wedi'i chofnodi ar y map diffiniol;

b

unrhyw ddyddiad a bennwyd gan yr awdurdod ar gyfer penderfynu'r cais;

c

y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais;

ch

dyfarniad yr awdurdod ar ôl penderfynu'r cais;

d

pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi—

i

cyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981 (cais yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r awdurdod i benderfynu cais o fewn cyfnod penodedig), neu

ii

cyflwyno hysbysiad o apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981,

datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad yn nodi'r penderfyniad a thelerau unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd;

dd

pan fo'n ymarferol, dyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad arfaethedig; ac

e

pan fo gorchymyn yn cael ei wneud gan yr awdurdod, datganiad ynghylch a yw'r gorchymyn wedi'i gadarnhau neu beidio (boed hynny gydag addasiadau neu beidio) a phan fo'n cael ei gadarnhau, y dyddiad cadarnhau.

2

O ran cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—

a

pan nad yw'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol, rhaid i'r awdurdod ddal ei afael, yn ei gofrestr adran 53B, ar yr wybodaeth a gofnodwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn;

b

pan fo'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol (boed ar y ffurf y gofynnwyd amdano yn y cais neu fel yr addaswyd y gorchymyn hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol), caiff yr awdurdod ddal ei afael ar yr wybodaeth gofnodedig cyhyd ag y gwêl yn dda a rhaid iddo wneud hynny am o leiaf 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r map diffiniol a'r datganiad yn cael eu haddasu.

Y gofrestr adran 121B5

1

Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i'r awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 121B—

a

y dyddiad erbyn pryd y mae'r awdurdod yn bwriadu penderfynu'r cais (os yw'n gymwys);

b

y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais;

c

dyfarniad yr awdurdod;

ch

y dyddiad y mae gorchymyn yn cael ei wneud, a phan fo'n gymwys, yn cael ei gadarnhau;

d

pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 121D o Ddeddf 1980, datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad o ganlyniad yr apêl; ac

dd

pan fo'n ymarferol, dyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad arfaethedig.

Fformat y cofrestrau6

1

Rhaid i gofrestr gael ei chadw ar ffurf electronig ac ar ffurf papur.

2

Rhaid i'r fersiwn bapur o'r gofrestr honno gael ei chadw ym mhrif swyddfa'r awdurdod.

3

O ran cofrestr—

a

rhaid iddi gynnwys mynegai sy'n galluogi person i ganfod unrhyw gofnod yn y gofrestr ac, yn achos y fersiwn electronig o'r gofrestr, rhaid iddi gynnwys cyfleuster chwilio sy'n ei gwneud yn bosibl i chwiliadau am godau post ac allweddeiriau gael eu gwneud; a

b

caniateir iddi gael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—

i

yn ymwneud â thir o fewn un o ardaloedd penodol yr awdurdod y mae cyngor cymuned neu gyngor tref wedi'i sefydlu ar ei chyfer, a

ii

yn cynnwys y manylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y gofrestr o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r tir hwnnw.

4

O ran y fersiwn electronig o'r gofrestr, rhaid i'r awdurdod—

a

trefnu bod y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio ar wefan yr awdurdod neu ar wefan y mae'r awdurdod yn ei chynnal at y diben hwnnw; a

b

darparu modd i'r gofrestr gael ei harchwilio ym mhrif swyddfa'r awdurdod.

5

Rhaid i awdurdod gadw'r gofrestr mewn ffordd sy'n addas i ganiatáu i gopi o unrhyw rai o'r manylion sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr gael ei gymryd gan neu ar gyfer unrhyw berson sy'n gofyn am gopi yn bersonol ym mhrif swyddfa'r awdurdod.

Atal gwybodaeth o'r cofrestrau7

Pan fo'r awdurdod wedi'i fodloni bod cynnwys neu gadw enw a chyfeiriad person yn y gofrestr yn achosi, neu'n debygol o achosi, niwed sylweddol neu ofid sylweddol i'r person hwnnw neu i berson arall, rhaid i'r awdurdod dynnu'r manylion hynny oddi ar y gofrestr, neu beidio â'u cynnwys ynddo, a rhaid iddo eu tynnu allan o unrhyw ddogfennau sydd wedi'u cynnwys, neu a gaiff eu cynnwys, yn y gofrestr.

Diweddaru'r cofrestrau8

Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy'n ymwneud â materion a nodwyd yn rheoliad 3 gael ei wneud cyn pen 28 diwrnod ar ôl—

a

1 Gorffennaf 2006; neu

b

os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y mae'r awdurdod yn cael map, datganiad, mynegiad neu gais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo,

a rhaid i'r gofrestr gael ei diweddaru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 1 Gorffennaf 2006 beth bynnag) i gymryd i ystyriaeth unrhyw un o'r materion a nodwyd ym mharagraffau rheoliadau 4 a 5.

Cywiro gwallau9

Rhaid i awdurdod ddiwygio'r gofrestr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os yw wedi'i fodloni bod y gofrestr yn cynnwys gwall o bwys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cynnwys yr wybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau, mynegiadau a dogfennau cysylltiedig o ran hawliau tramwy cyhoeddus ac sydd i'w chadw, a'r ffordd y mae'r wybodaeth honno i'w chadw, ar gofrestrau a sefydlir ac a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“Deddf 1981”) (fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf CGHT”)) a Deddf Priffyrdd 1980 (“Deddf 1980”) (fel y'i mewnosodwyd gan baragraffau 4 a 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT).

Bydd y cofrestrau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau a wnaed, a mynegiadau a gyflwynwyd, i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol dros hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal o dan sylw, ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â dogfennau a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw.

O dan adran 31A o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth am fapiau a datganiadau a adneuwyd, a datganiadau a gyflwynwyd, gan berchenogion tir mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir. Mae mapiau, datganiadau a mynegiadau o'r fath yn galluogi perchenogion tir i gydnabod yn ffurfiol fodolaeth hawliau tramwy cyhoeddus dros eu tir ac, wrth wneud hynny, yn creu rhagdybiaeth nad oes bwriad i gyflwyno unrhyw lwybrau pellach dros eu tir.

O dan adran 53B o Ddeddf 1981 (a fewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo ac sy'n gofyn am newidiadau i'w fap diffiniol neu ddatganiad, sef y dogfennau hynny sy'n ffurfio cofnod swyddogol yr awdurdod o'i hawliau tramwy cyhoeddus.

O dan adran 121B o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo gan berchenogion, lesddeiliaid neu feddianwyr unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ar gyfer bridio neu gadw ceffylau, ar gyfer gorchmynion dileu llwybrau cyhoeddus a gorchmynion gwyro.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chofnodi ar bob un o'r tair cofrestr.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chofnodi mewn perthynas â chofrestr adran 53B a chofrestr adran 121B yn ôl eu trefn.

Mae rheoliadau 6 i 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y ffordd y mae'r cofrestrau i'w cadw, gan gynnwys y ddyletswydd sydd ar awdurdod i dynnu oddi ar gofrestr enw a chyfeiriad unrhyw berson os byddai peidio â gwneud hynny yn achosi niwed neu ofid (rheoliad 7).

Diben y cofrestrau yw cynyddu gwybodaeth ymhlith perchenogion tir a'r cyhoedd am faterion a allai arwain at newidiadau i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus; osgoi dyblygu pan fo mwy nag un person efallai yn ystyried gwneud cais i awdurdod lleol am yr un newid i'r map diffiniol a'r datganiad; cynyddu sicrwydd ynghylch pa lwybrau neu ffyrdd y mae perchenogion tir yn bwriadu eu cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus; a chynorthwyo awdurdodau lleol i reoli eu swyddogaethau o ran hawliau tramwy cyhoeddus.