2007 Rhif 1712 (Cy.149)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Rheoli Traffig (Canllawiau ar Feini Prawf Ymyrryd) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 27 o Ddeddf Rheoli Traffig 20041 ac a freiniwyd ynddynt bellach2, yn gwneud y gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Traffig (Canllawiau ar Feini Prawf Ymyrryd) (Cymru) 2007, a daw i rym ar 10 Gorffennaf 2007, ac mae'n gymwys o ran Cymru3.

Canllawiau ar feini prawf ymyrryd2

Mae'r canllawiau ar feini prawf y bydd Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gweithredu er mwyn penderfynu p'un ai i ddyroddi hysbysiad ymyrryd neu wneud gorchymyn ymyrryd o dan Ran 2 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 wedi'u hatodi i'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Brian GibbonsY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

YR ATODLENDEDDF RHEOLI TRAFFIG 2004 DYLETSWYDDAU I REOLI'R RHWYDWAITH CANLLAWIAU AR FEINI PRAWF YMYRRYD AR GYFER CYMRU

Erthygl 2

CYFLWYNIAD

1

Cyflwynodd adran 16 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“y Ddeddf”) ddyletswydd i reoli rhwydwaith newydd ar gyfer awdurdodau traffig lleol. Mae'n ofynnol i awdurdodau o'r fath reoli eu rhwydwaith ffyrdd i sicrhau bod traffig yn symud yn hwylus ar y rhwydwaith hwnnw a hwyluso hynny ar rwydweithiau awdurdodau eraill.

2

Mae adran 17 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod traffig lleol (“awdurdod”) wneud trefniadau priodol ar gyfer cynllunio a chyflawni'r ddyletswydd a rhaid i'r trefniadau hyn gynnwys darpariaeth i benodi rheolwr traffig.

3

Mae adran 19 yn rhoi'r pŵ er i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod i roi iddynt, o fewn cyfnod penodedig, wybodaeth sy'n gysylltiedig ag unrhyw agwedd ar gyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 16 a 17.

4

Mae adran 20 yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi “hysbysiad ymyrryd” i awdurdod os ydynt o'r farn y gall fod yr awdurdod yn methu cyflawni unrhyw un o'i ddyletswyddau'n briodol o dan adrannau 16 a 17.

5

Mae adran 21 yn rhoi'r pŵ er i Weinidogion Cymru wneud “gorchymyn ymyrryd” sy'n darparu ar gyfer penodi cyfarwyddwr traffig neu mewn cysylltiad â hynny os ydynt wedi'u bodloni bod awdurdod yn methu â chyflawni unrhyw ddyletswydd o dan yr adrannau hynny'n briodol.

6

Yr hysbysiad ymyrryd yw'r cam ffurfiol cyntaf wrth orfodi'r dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith. Bydd yn rhoi manylion bras o'r rhesymau dros roi'r hysbysiad, bydd yn rhoi cyfle i'r awdurdod gyflwyno sylwadau neu gynigion a gall ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod roi gwybodaeth benodol.

7

Gall na fydd angen camau pellach ond os bydd, bydd ymyrryd yn yr ystyr fanylaf yn digwydd pan wneir darpariaeth drwy orchymyn ymyrryd ar gyfer penodi cyfarwyddwr traffig neu mewn cysylltiad â hynny. Rhoddir y cyfryw amcanion a phwerau i'r cyfarwyddwr traffig y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y byddant yn sicrhau cyflawni'r ddyletswydd o dan sylw yn briodol. Mae adran 21(5) yn gosod y pwerau cyffredinol a all gael eu rhoi i'r cyfarwyddwr traffig a bydd y rhain yn caniatáu iddo fonitro unrhyw fater a chyflwyno adroddiad arno, ymyrryd mewn gweithgareddau awdurdod a chyflawni unrhyw rai o'i swyddogaethau.

8

Ym mis Tachwedd 2006 cyhoeddodd y Cynulliad Cenedlaethol4 ganllawiau o dan adran 18 o'r Ddeddf sy'n dwyn yr enw “Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith”. Mae'n gosod canllawiau manylach am dechnegau rheoli'r rhwydwaith a materion eraill ynghylch cyflawni'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 16 a 17. Yn benodol mae Atodiad A i'r canllawiau, sy'n dwyn y pennawd “Cyngor ar Arferion Da am Dechnegau ac Agwedd”, yn disgrifio sut y gall awdurdod gyflawni gwelliannau effeithiol drwy reoli rhwydweithiau ffyrdd. Wrth gyflawni'r dyletswyddau o dan adrannau 16 a 17, rhaid i awdurdodau roi sylw i'r canllawiau hyn.

9

Mae adran 27 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru4, roi canllawiau am y meini prawf y mae'n bwriadu eu cymhwyso er mwyn penderfynu a ddylid rhoi hysbysiad ymyrryd neu wneud gorchymyn ymyrryd i atodi'r canllawiau hynny i orchymyn a gaiff ei wneud drwy wneud offeryn statudol. Mae'r Atodlen hon yn gosod y canllawiau a fydd yn gymwys o ran pob awdurdod yng Nghymru. Dylid ei darllen ar y cyd â Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith a Rhan 2 o'r Ddeddf.

Y CYD-DESTUN

10

Mae symud yn effeithiol ar ein rhwydweithiau ffyrdd yn hanfodol ar gyfer cymdeithas ac ar gyfer economi lwyddiannus. Cytunwyd ar nifer o flaenoriaethau a rennir sy'n rhoi ffocws i'r llywodraeth ganolog a llywodraeth leol o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus ac, o ran trafnidiaeth, sy'n lleihau problemau tagfeydd. Os bydd angen mynd i'r afael â materion rhwydwaith, gall y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol gydweithio, yn eu rolau perthnasol, i gyflawni polisïau a rhaglenni sy'n effeithiol yn rheoli neu'n lliniaru effeithiau tagfeydd ar lefel leol.

11

Mae'r Ddeddf ei hun, a welir fel sbardun i gael gwell rheolaeth ar y rhwydwaith ffyrdd, yn darparu cyfle sydd ymhlyg ynddi ar gyfer cymryd rhan ac adfer, drwy alluogi awdurdod i weithio gyda Gweinidogion Cymru, mewn cyfnod cynnar, gyda'r bwriad o wneud gwelliannau. Dim ond ar ôl gwneud ymdrech ddifrifol i godi safonau awdurdod nad yw efallai'n rheoli ei rwydwaith ffyrdd yn briodol y bydd gorchymyn ymyrryd i benodi cyfarwyddwr traffig yn cael ei wneud.

12

Gobeithir y bydd y posibilrwydd y gellir ymyrryd yn annog awdurdodau i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith. Er hynny, os bydd pryderon yn codi nad yw awdurdod yn ysgwyddo'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 16 a 17 o'r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdod hwnnw, drwy broses o gymryd rhan, i annog yr awdurdod i adfer er mwyn osgoi'r sefyllfa lle bo'n rhaid penodi cyfarwyddwr traffig. Er hynny, os daw'n eglur nad oes adferiad, neu os nad oes dewis, i'r graddau y maent wedi'u bodloni bod awdurdod yn methu cyflawni unrhyw ddyletswydd yn briodol, cânt wneud gorchymyn ymyrryd sy'n darparu ar gyfer penodi cyfarwyddwr traffig neu mewn cysylltiad â hynny.

EGWYDDORION SYLFAENOL

13

Mae'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith, fel y'i gosodir yn adran 16 o'r Ddeddf, yn cael ei hamodi i'r graddau bod gan bob awdurdod rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill y mae'n rhaid iddo hefyd fynd i'r afael â hwy. Yn unol â hynny, ni ddylai'r ddyletswydd gael blaenoriaeth dros bopeth arall y mae'n ei wneud. Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod pob awdurdod yn wynebu sialensau gwahanol a bod ganddo'i rwymedigaethau, polisïau ac amcanion ei hunan y bydd yn rhaid eu hystyried wrth gyflawni'r ddyletswydd. Yn ychwanegol, wrth asesu perfformiad awdurdod unigol, byddant hefyd yn ystyried y dull o ysgwyddo'r ddyletswydd yn yr amgylchiadau ehangach o ran y traffig a geir ar ei rwydwaith. Y math o amgylchiadau a ragwelir fyddai prosiectau sy'n ymwneud ag adfywio economaidd, adeiladu tai neu ddigwyddiadau arbennig. Ni fydd Gweinidogion Cymru yn disgwyl i bob awdurdod fynd ati i ysgwyddo'r ddyletswydd yn union yn yr un ffordd.

14

O dan y Ddeddf, penderfyniad yr awdurdodau unigol fydd sut y byddant yn gosod y ddyletswydd o fewn ystod ehangach eu cyfrifoldebau. Er enghraifft, ni ddylai danseilio amcanion yr awdurdod o ran diogelwch ar y ffyrdd. Mewn gwirionedd, dylai awdurdodau gynllunio bod pob traffig yn symud yn hwylus ac yn ddiogel, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr. Dylai pob awdurdod osod ei amcanion ei hunan bod traffig yn symud hwylus yng nghyd-destun ei rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill.

15

Yn rhinwedd adran 17 o'r Ddeddf, rhaid i awdurdod wneud y trefniadau hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol ar gyfer cynllunio a chyflawni'r camau i'w cymryd wrth gyflawni'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith. Rhaid rhoi'r trefniadau hyn ar waith, beth bynnag fo rhwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill yr awdurdod, a rhaid iddynt gynnwys darpariaeth ar nifer o faterion a bennir yn yr adran honno a rhaid adolygu'n gyson eu heffeithiolrwydd.

16

Dylai pob awdurdod anelu at ddangos bod ei ddull o fynd ati i sicrhau bod traffig yn symud yn hwylus, ar ei rwydwaith ei hunan ac ar rwydweithiau awdurdodau eraill, yn her ond yn realistig. Bydd Gweinidogion Cymru yn disgwyl i bob awdurdod ddangos strategaeth gadarn sy'n integreiddio'i gyfrifoldebau eraill a bod y strategaeth honno wedi cael ei mabwysiadu lle bynnag y mae'n berthnasol ar draws ei drefniadaeth.

17

O ran blaenoriaethau ar gyfer cadw'r rhwydwaith i symud yn effeithiol, ni ddisgwylir yr un lefel o weithgaredd ynglŷn â phob ffordd yn ardal awdurdod. Nid oes angen i awdurdodau ganolbwyntio ar ffyrdd lle y mae cymharol ychydig o symudiad traffig a lle y mae hyn yn annhebygol o newid yn y dyfodol agos. Er hynny, dylai pob awdurdod wybod pa rai o'i ffyrdd sy'n perthyn i'r categori hwn a pha ffyrdd sy'n bwysig ar gyfer symudiadau pobl a nwyddau. Dylai awdurdodau roi sylw gofalus i'r categori olaf drwy, er enghraifft, hwyluso symudiad traffig yn effeithiol ar lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol a thrwy sicrhau bod gweithredu unrhyw fesurau blaenoriaeth ar gyfer bysiau (megis lonydd bysiau) yn dioddef cyn lleied o drafferth â phosibl.

DYLETSWYDDAU I REOLI'R RHWYDWAITH18

1

Gosodir y dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith yn adrannau 16 a 17 o'r Ddeddf ac at ddibenion penderfynu natur a rhychwant pob dyletswydd dylid dibynnu ar eiriad manwl y ddeddfwriaeth yn unig. Er hynny, gallai fod o gymorth i edrych ar y dyletswyddau yn fanylach ac yn unol â hynny gosodir hwy fel a ganlyn mewn fformat ychydig yn ehangach.

2

O dan adran 16 (dyletswydd i reoli'r rhwydwaith), rhaid i awdurdod reoli ei rwydwaith ffyrdd er mwyn cyflawni dau amcan, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol gan gofio am ei rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill. Dyma'r ddau amcan-

a

diogelu bod traffig yn symud yn hwylus ar y rhwydwaith hwnnw, a

b

hwyluso traffig i symud yn hwylus ar rwydweithiau ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arnynt.

3

Mae adran 17 (trefniadau ar gyfer rheoli'r rhwydwaith) yn gosod nifer o ddyletswyddau ychwanegol ar awdurdod sy'n ddyletswyddau unigol at ddibenion adrannau 20 a 21 ond sydd er hynny wrth wraidd y brif ddyletswydd o dan adran 16. Gosodir y rhain yn fanylach yn yr is-baragraffau canlynol.

4

Mae gan awdurdod ddyletswydd i wneud y trefniadau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol ar gyfer—

a

cynllunio'r camau sydd i'w cymryd wrth gyflawni'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith, a

b

cyflawni'r camau hynny.

5

Mae gan awdurdod ddyletswydd i sicrhau bod y trefniadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer penodi rheolwr traffig.

6

Mae gan awdurdod ddyletswydd i sicrhau bod y trefniadau hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu proses i sicrhau (i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol) ei fod yn—

a

dynodi'r pethau sy'n peri—

i

tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu

ii

amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw;

b

dynodi'r pethau (gan gynnwys digwyddiadau yn y dyfodol) a allai beri—

i

tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu

ii

amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw; ac

c

ystyried unrhyw gamau posibl y gellid eu cymryd—

i

wrth ymateb i, neu

ii

wrth rag-weld,

unrhyw beth felly a ddynodwyd,

ond nid yw hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddynodi neu ystyried unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn cael effaith ddi-nod (neu effaith bosibl) ar symudiad traffig ar ei rwydwaith.

7

Mae gan awdurdod ddyletswydd i sicrhau bod y trefniadau hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau ei fod yn—

a

penderfynu polisïau neu amcanion penodol o ran—

i

ffyrdd gwahanol yn ei rwydwaith ffyrdd, neu

ii

dosbarthau gwahanol o ffordd yn y rhwydwaith hwnnw;

b

monitro effeithiolrwydd—

i

ei drefniadaeth,

ii

ei broses benderfynu, a

iii

gweithredu ei benderfyniadau; ac

c

asesu ei berfformiad wrth reoli ei rwydwaith.

8

Mae gan awdurdod ddyletswydd bellach i adolygu'n gyson effeithiolrwydd y trefniadau sydd ganddo ar waith o dan adran 17 o'r Ddeddf.

PROSESAU A CHANLYNIADAU

19

Mae adran 17 o'r Ddeddf yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwneud trefniadau ar gyfer rheoli'r rhwydwaith. Mae'r pwyslais ar broses yn adlewyrchu'r ffaith nad yw rheoli'r rhwydwaith ffyrdd yn rhywbeth y dylai awdurdod ei ychwanegu'n ffwrdd â hi at ei weithrediadau presennol, ond dylai ei integreiddio'n ddi-dor o fewn ei drefniadau ehangach i fynd i'r afael â thagfeydd.

20

Yn ogystal, nid yw bob amser yn bosibl i ddynodi cysylltiadau uniongyrchol rhwng camau unigol gan awdurdod drwy'r trefniadau a'r prosesau sydd ganddo ar waith a chanlyniad y camau hynny o ran perfformiad y rhwydwaith. Mewn rhai achosion, efallai y gallai'r canlyniadau fod wedi bod yn waeth oni bai am gamau'r awdurdod, ac mewn achosion eraill byddai digwyddiadau yn llwyr y tu hwnt i'w reolaeth. Beth bynnag, dylai awdurdod sicrhau bod ei drefniadau a'i drefn adolygu ar waith, fel sy'n ofynnol o dan adran 17.

21

Pan ddaeth Rhan 2 o'r Ddeddf yn effeithiol gyntaf, y camau cyntaf oedd gosod trefniadau ar gyfer datblygu'r dyletswyddau. Rhoddwyd sylw yn y cyfnod cychwynnol hwn ar p'un oedd awdurdod wedi sefydlu'r trefniadau a'r adolygiad sy'n ofynnol o dan adran 17. Mae'r rhain bob amser yn ofynnol, beth bynnag yw'r amgylchiadau lleol.

22

Er hynny, mae'r Ddeddf yn dangos y caiff awdurdodau gymryd unrhyw gamau i osgoi, diddymu neu leihau tagfeydd neu amhariad arall i symudiad traffig ar y rhwydwaith. Gall camau o'r fath olygu arfer unrhyw bŵ er i reoleiddio neu gydgysylltu'r defnydd a wneir o unrhyw ffordd (neu ran o ffordd) yn y rhwydwaith ffyrdd (p'un a chafodd y pwer ei roi iddynt yn eu swyddogaeth fel awdurdod traffig ai peidio). Canlyniadau'r camau a gymrwyd sy'n bwysig yn y tymor hir, yn enwedig fel y cytunir ar ddangosyddion perfformiad a'u mabwysiadu'n ehangach. Dylai awdurdodau wneud pob ymdrech i ganolbwyntio ar gymryd camau newydd yn ôl y gofyn, mabwysiadu dangosyddion perfformiad priodol, p'un a chawsant eu datblygu'n ganolog neu'n lleol ac i wella canlyniadau cyn gynted ag y bydd amgylchiadau'n caniatáu.

23

Craidd y ddyletswydd yw bod awdurdodau'n rheoli eu rhwydwaith yn well drwy fynd i'r afael â thagfeydd ar y ffyrdd. Mae hyn yn bwysig mewn ardaloedd trefol mawr ac mewn llawer o leoliadau eraill hefyd. Er mwyn gallu dangos perfformiad a gwelliannau, dylai awdurdodau fabwysiadu'r dangosyddion gorfodol a ddefnyddir yn y broses Cynllun Trafnidiaeth Lleol/Rhanbarthol. Datblygir dangosyddion perfformiad yn gyson yn ganolog gyda chyngor gan lywodraeth leol; er enghraifft, y rheini sy'n gysylltiedig â thagfeydd. Disgwylir i bob awdurdod wybod am y polisïau trafnidiaeth cenedlaethol a'r dangosyddion a ddatblygwyd yn ganolog fel y cânt eu cyhoeddi. Dylai awdurdodau fabwysiadu targedau a dangosyddion sy'n dangos ystod llawn eu perfformiad yn erbyn eu dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith. I rai awdurdodau bydd hyn yn golygu y bydd nifer o'u dangosyddion perfformiad yn cael eu penderfynu yn lleol.

24

Bydd Gweinidogion Cymru yn disgwyl gweld tystiolaeth, yn y broses adroddiadau, bod awdurdodau'n cyflawni eu targedau, neu o leiaf eu bod wrthi'n gwneud hynny. Er hynny, cydnabyddir hyd yn oed os gellir mesur canlyniadau, bydd y camau y bydd awdurdod yn eu cymryd yn amrywio yn ôl anghenion lleol.

DANGOS PERFFORMIAD DYLETSWYDDAU I REOLI'R RHWYDWAITH

25

Mae adran 18(2) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi sylw i'r Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith. Mae paragraff 47 o'r canllawiau'n gorfodi awdurdod i adlewyrchu'r trefniadau a wnaeth ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (“CTRh”)5.

26

Dylai awdurdod gyflwyno adroddiad ar sut y mae'n rheoli ei rwydwaith ac yn mynd i'r afael â thagfeydd yn y gweithdrefnau cyfredol ar gyflwyno adroddiadau. Dylid adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer rheoli'r rhwydwaith a thystiolaeth gysylltiedig nid yn unig yn y CTRh, ond hefyd yn unrhyw adroddiadau monitro interim. Er bod y canllawiau hyn o anghenraid yn adlewyrchu'r drefn gyfredol ar gyflwyno adroddiadau, gall dulliau gwahanol i gyflwyno adroddiadau ddatblygu yn y dyfodol.

27

Y bwriad yw na ddylai unrhyw broses o gyflwyno adroddiadau osod baich diangen ar awdurdodau. Nid oes disgwyl iddynt ddatblygu cynlluniau arunig ar reoli'r rhwydwaith i'w cyflwyno i Weinidogion Cymru, er cydnabod y bydd rhai awdurdodau'n cael hynny'n ddefnyddiol at eu dibenion eu hunain i lunio cynllun o'r fath.

28

Cyfrifoldeb pob awdurdod yw darparu tystiolaeth glir fod ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith yn cael ei chyflawni'n briodol a dylai hyn gynnwys manylion o'r cynnydd a wnaed o ran y blaenoriaethau a osododd yr awdurdod ar ei gyfer ei hun. Mae'r broses o gyflwyno adroddiadau yn darparu cyfleoedd i'r awdurdodau ddangos eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith a'u llwyddiant wrth wneud hynny.

29

Os bydd awdurdodau'n cymryd rhan mewn CTRh ar y cyd, dylai pob un ohonynt sicrhau bod tystiolaeth effeithiol wedi cael ei chyflwyno i ddangos ei fod yn cyflawni pob un o'i ddyletswyddau i reoli'r rhwydwaith yn briodol.

ASESU TYSTIOLAETH30

Bydd Gweinidogion Cymru yn asesu adroddiadau oddi wrth awdurdodau, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol, i benderfynu sut y maent wedi cyflawni eu dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith. Byddant hefyd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw fater difrifol ynghylch symudiadau traffig ar rwydwaith ffyrdd, y daw'n ymwybodol ohono drwy ddulliau heblaw cyflwyno adroddiadau arferol. Wrth gynnal yr asesiad, bydd Gweinidogion Cymru, yn benodol, yn ymwneud â phum prif gwestiwn fel a ganlyn. O ran pob un o'r prif gwestiynau, er nad yw hyn yn hollgynhwysfawr, mae paragraffau 31 i 43 yn gosod enghreifftiau o is-gwestiynau y gall Weinidogion Cymru eu hystyried.

I BA RADDAU Y MAE AWDURDOD WEDI RHOI SYLW I'R CANLLAWIAU AR Y DDYLETSWYDD I REOLI'R RHWYDWAITH WRTH IDDO GYFLAWNI EI DDYLETSWYDDAU I REOLI'R RHWYDWAITH? (Gweler adran 18(2) o'r Ddeddf)31

1

Bydd amgylchiadau lleol yn cael dylanwad arwyddocaol nid yn unig ar sut y mae awdurdod yn rheoli ei rwydwaith, ond hefyd ar sut y mae'n mynd o'i chwmpas hi i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd honno a pha dechnegau rheoli traffig y bydd yn dewis eu mabwysiadu. Gan hynny, mater i bob awdurdod unigol yw penderfynu sut y mae'n cynllunio i gyflawni ei ddyletswyddau o ran rheoli traffig.

2

Er hynny, mae rhai nodweddion ar y Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith yn gyffredin i bob awdurdod, ond i raddau gwahanol. Mae angen rhoi sylw i bob un o'r ystyriaethau canlynol fel y dangosydd lleiaf bod awdurdod yn rhoi sylw i'r Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith (“NMDG”)—

a

ystyried anghenion pob defnyddiwr ffordd;

b

cydgysylltu a chynllunio gwaith a digwyddiadau hysbys;

c

casglu a darparu anghenion gwybodaeth;

ch

rheoli digwyddiadau a chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau;

d

delio â thwf traffig;

dd

gweithio gyda rhanddeiliaid — mewnol ac allanol;

e

sicrhau cydraddoldeb ag eraill; a

f

darparu tystiolaeth i ddangos rheolaeth y rhwydwaith.

Ystyried anghenion pob defnyddiwr ffordd. (Gweler NMDG paragraffau 26, 51, 76-79 a 117)32

1

Sut fydd awdurdod yn rheoli gofod ffyrdd i bawb?

2

A ydyw'r awdurdod wedi gosod dealltwriaeth glir o'r problemau sy'n wynebu gwahanol rannau o'i rwydwaith?

3

A yw'n ymwybodol o anghenion gwahanol ddefnyddwyr y ffyrdd?

4

A ydyw wedi cydbwyso polisïau ar gyfer delio gyda'r problemau a'r anghenion hyn?

5

A ydyw'r awdurdod lleol wedi dynodi a grwpio ffyrdd yn unol â'u lleoliad a'r gweithgareddau sydd arnynt?

6

A ydyw'r awdurdod wedi dangos ei fod wedi cydbwyso galwadau gwahanol sy'n hawlio sylw tra bydd yn dal ati i reoli ei rwydwaith yn effeithiol?

7

Wrth wneud penderfyniadau ar alwadau gwahanol sy'n hawlio sylw, a ydyw wedi ystyried ei bolisïau ac amgylchiadau arbennig ar y rhan o'r rhwydwaith sydd o dan sylw?

8

A ydyw'r awdurdod yn cydweithio â busnesau lleol, manwerthwyr, cynrychiolwyr o'r diwydiant cario llwythi a chludo ar y ffyrdd, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac ymgymerwyr statudol?

9

A ydyw'n datblygu dulliau i sicrhau gwasanaethau economaidd ac effeithiol i fangreoedd a chyflenwi, gan liniaru problemau niweidiol?

Cydgysylltu a chynllunio gwaith a digwyddiadau hysbys. (Gweler NMDG paragraff 27)33

1

I ba raddau mae'r awdurdod wedi hybu cydgysylltiad rhagweithiol o'r gweithgareddau ar y rhwydwaith?

2

I ba raddau mae wedi mabwysiadu agwedd a gynlluniwyd, dan arweiniad tystiolaeth i ddigwyddiadau hysbys?

3

A ydyw'n datblygu, neu wedi datblygu, cynlluniau ar gyfer digwyddiadau na ragwelwyd?

Casglu a darparu anghenion gwybodaeth. (Gweler NMDG paragraffau 28, 89, 90, 126 a 127)34

1

Pa mor effeithiol yw'r trefniadau sydd gan yr awdurdod ar waith i gasglu gwybodaeth gywir am waith a digwyddiadau a gynlluniwyd?

2

Sut mae'r awdurdod yn trefnu gwaith a digwyddiadau a gynlluniwyd i gael yr effaith leiaf a chytuno ar amseriad neu bennu amseriad i gael yr effaith orau?

3

A ydyw'r awdurdod yn darparu mynediad pan ofynnir amdano at wybodaeth, o systemau'r awdurdod ar gyfer cofnodi a chydgysylltu gwaith cyfleustodau a gwaith ffyrdd, i gwmnïau cyfleustodau, contractwyr ac awdurdodau cyfagos?

4

A oes gan yr awdurdod, neu a ydyw'n bwriadu cael, ffynhonnell dda ac amserol o wybodaeth am deithio ar gyfer defnyddwyr ffyrdd a'r gymuned?

5

A ydyw hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr y ffyrdd ddewis llwybr teithio gwahanol neu ddull gwahanol o deithio neu oedi neu ohirio eu taith?

6

A ydyw'r awdurdod yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr gwybodaeth teithio ac a ydynt yn cyfathrebu drwy ystod eang o sianelau?

7

Pa dystiolaeth a roddwyd i ddangos pa mor dda y mae awdurdod yn darparu gwybodaeth i awdurdodau strydoedd eraill a bodloni rhwymedigaethau statudol presennol megis ei ddyletswydd i gadw cofrestr gwaith stryd?

Rheoli digwyddiadau a chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau. (Gweler NMDG paragraffau 29 a 50)35

1

A ydyw'r awdurdod wedi sefydlu cynlluniau ar gyfer hapddigwyddiadau i fynd i'r afael â sefyllfaoedd y tu allan i reolaeth yr awdurdod yn brydlon ac yn effeithiol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol?

2

A ydyw'r awdurdod wedi darparu tystiolaeth i ddangos ei fod wedi sicrhau yr ymgynghorwyd neu yr ymgynghorir yn llawn â'r partïon sy'n cymryd rhan i wneud i'r trefniadau hyn ar gyfer hapddigwyddiadau weithio yn ystod eu datblygiad?

3

A ydyw'r wybodaeth y mae angen amdani gan y partïon hyn i roi'r cynlluniau ar waith yn gyflym?

Delio â thwf traffig. (Gweler NMDG paragraff 30)36

1

Pa dystiolaeth a roddwyd i ddangos bod yr awdurdod wedi dynodi tueddiadau mewn twf traffig ar lwybrau teithio penodol?

2

Pa bolisïau sydd ar waith ar gyfer rheoli newidiadau cynyddrannol?

Gweithio gyda rhanddeiliaid — mewnol ac allanol. (Gweler y Ddeddf a NMDG paragraffau 31 i 33 a 57 i 62)37

1

Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod y rhai sy'n gyfrifol yn yr awdurdod am arfer unrhyw bŵer i reoleiddio neu gydgysylltu'r defnydd a wneir o unrhyw ffordd neu ran o ffordd yn y rhwydwaith ffyrdd yn ymwybodol o gyfrifoldebau'r awdurdod sy'n codi o ran y ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith ac yn eu gweithredu?

2

A ydyw'r awdurdodau sydd mewn ardaloedd dwy haen yn cysylltu â phob adran berthnasol yn y cyrff ail haen y mae eu gwaith yn effeithio ar y rhwydwaith ffyrdd?

3

A ydyw awdurdodau'n sicrhau bod cyrff eraill (e.e. awdurdodau cynllunio) yn ymwybodol o'u dyletswydd a'u heffaith ar symudiad traffig?

4

Pa dystiolaeth sydd ar gael bod awdurdod yn cymryd camau sy'n cynnwys ymgynghori ar fentrau, rhannu gwybodaeth sydd ei hangen i gyflawni'r ddyletswydd, prosesau ar gyfer sicrhau bod polisïau'n gyson a chytuno ar drefniadau gweithio ar y cyd, gan gynnwys yn benodol gyda Gweinidogion Cymru.

5

A ydyw'r awdurdod wedi sicrhau bod rhan gan yr heddlu, ymgymerwyr statudol, Gweithrediaeth Cludo Teithwyr, gweithredwyr bysiau, y Comisiynwyr Traffig, preswylwyr a busnesau lleol a defnyddwyr gwahanol y ffyrdd pan fydd hynny'n briodol yn y broses o wneud penderfyniadau?

Sicrhau cydraddoldeb ag eraill. (Gweler NMDG paragraffau 67 a 88)38

1

A ydyw'r awdurdod yn cymhwyso'r un safonau ac agweddau at ei weithgareddau ei hun ag y mae'n gwneud i eraill ac a ydyw'n darparu tystiolaeth o hyn, yn enwedig o ran gwaith cyfleustodau strydoedd a gwaith datblygwyr.

2

A ydyw'n defnyddio dangosyddion a benderfynwyd yn lleol a phan fo hynny'n berthnasol unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol a benderfynwyd yn ganolog?

Darparu tystiolaeth i ddangos rheolaeth y rhwydwaith. (Gweler NMDG paragraff 47)39

1

A gafodd y trefniadau a sefydlwyd gan awdurdod i gyflawni'r ddyletswydd eu hadlewyrchu yn ei CTRh neu yn unrhyw adroddiad monitro interim?

2

A ydyw'r adroddiadau am y ddyletswydd a gyflawnir gan awdurdod yn rhoi tystiolaeth glir i ddangos sut y mae'n rheoli ei rwydwaith ffyrdd?

I BA RADDAU MAE'R AWDURDOD TRAFFIG LLEOL WEDI YSTYRIED A PHAN FYDD YN BRIODOL WEDI CYMRYD CAMAU FEL A RAGWELIR GAN ADRAN 16(2) O'R DDEDDF?40

1

A ydyw'r adroddiad gan yr awdurdod am ei berfformiad yn dangos pa gamau mae'r awdurdod wedi'u hystyried er mwyn cyflawni'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith a chanlyniadau'r ystyriaethau hynny?

2

A ydyw'r awdurdod wedi dangos tystiolaeth ei fod wedi cymryd camau y mae'n ystyried fydd yn cyfrannu at ddefnydd mwy effeithiol o'i rwydwaith ffyrdd neu osgoi, diddymu neu leihau tagfeydd neu amhariad arall i symudiad traffig ar ei rwydwaith ffyrdd neu ar rwydwaith ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arno?

3

A ydyw'r awdurdod wedi dangos tystiolaeth ei fod wedi cymryd unrhyw gamau eraill y mae'n ystyried eu bod yn berthnasol?

I BA RADDAU MAE'R AWDURDOD TRAFFIG LLEOL WEDI ARFER UNRHYW BŴ ER SY'N CEFNOGI'R CAMAU HYN?41

1

A ydyw'r adroddiad yn dangos pa bwerau a gafodd eu hystyried i gefnogi camau a gymrwyd i gyflawni'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?

2

A arferwyd unrhyw bŵer i reoleiddio neu gydgysylltu'r defnydd a wneir o unrhyw ffordd, neu ran o ffordd yn y rhwydwaith ffyrdd, p'un a oedd y pŵ er wedi cael ei roi i'r awdurdod yn ei swyddogaeth fel awdurdod traffig ai peidio?

I BA RADDAU Y CAFODD DANGOSYDDION A THARGEDAU I LEIHAU TAGFEYDD EU DEFNYDDIO?42

1

A ydyw'r awdurdod wedi sefydlu dangosyddion perfformiad a thargedau perthnasol sy'n ei alluogi i fesur bod traffig yn symud yn hwylus?

2

A ydyw wedi sefydlu systemau monitro effeithiol?

3

A oes tystiolaeth bod awdurdod wedi defnyddio dangosyddion, targedau a systemau o'r fath i ddatblygu ei gynlluniau, sbarduno'i waith cyflenwi ac adrodd ar ei berfformiad?

I BA RADDAU MAE AMGYLCHIADAU UNIGOL YN GYFRIFOL AM FETHIANT YMDDANGOSIADOL MEWN DYLETSWYDD?43

I ba raddau mae methiant ymddangosiadol mewn dyletswydd yn ganlyniad —

a

bod yr awdurdod wedi rhoi sylw i'w rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill (gweler adran 16(1) o'r Ddeddf);

b

camau neu ddiffyg camau awdurdod arall (gweler adran 16(1)(b) o'r Ddeddf); neu

c

camau, neu ddiffyg camau, y gellid ystyried eu bod yn rhesymol pan gânt eu cymharu â sampl o—

i

awdurdodau cyfagos,

ii

awdurdodau o fath tebyg,

iii

awdurdodau gydag amgylchiadau tebyg, neu

iv

pob awdurdod?

CAIS AM WYBODAETH

44

Os bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i fynd i'r afael yn llwyr â chwestiwn penodol, cânt gysylltu ag awdurdod yn anffurfiol a gofyn am fwy o wybodaeth o fewn cyfnod penodedig.

45

Mae'n debyg mai'r agwedd anffurfiol fydd y prif ddull o gael gwybodaeth bellach, mae adran 19 o'r Ddeddf er hynny'n galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdod yn ffurfiol i'w darparu, o fewn cyfnod penodedig, â gwybodaeth benodedig sy'n gysylltiedig ag unrhyw agwedd ar gyflawni ei ddyletswyddau i reoli'r rhwydwaith. Gellir arfer y pŵ er hwn ar unrhyw adeg ond mae'n fwy tebygol o gael ei ddefnyddio os bydd awdurdod yn methu â darparu gwybodaeth ddigonol neu foddhaol, neu os na fydd yn ymateb i gais anffurfiol o fewn unrhyw gyfnod a bennir.

46

Gellir rhoi cyfarwyddyd o dan adran 19 i awdurdod unigol, i ddau awdurdod neu fwy neu i awdurdodau a ddisgrifir yn benodol yn y cyfarwyddyd a dylai awdurdodau ymateb o fewn y cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

MEINI PRAWF AR GYFER PENDERFYNU A DDYLID RHOI HYSBYSIAD YMYRRYD47

Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymhwyso'r meini prawf canlynol er mwyn penderfynu a yw awdurdod yn methu cyflawni'n briodol unrhyw rai o'i ddyletswyddau o dan adrannau 16 a 17 o'r Ddeddf ac a ddyliasant roi hysbysiad ymyrryd.

MAEN PRAWF Rhif 1 (Dyletswyddau Adran 17)

48

I ba raddau—

a

mae'r dystiolaeth (gweler paragraffau 31 i 43 uchod) bod awdurdod wedi neu ddim wedi—

i

rhoi sylw i'r Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith wrth gyflawni ei ddyletswyddau i reoli'r rhwydwaith;

ii

ystyried a phan fo'n briodol wedi cymryd camau fel a ragwelir gan adran 16(2) o'r Ddeddf;

iii

arfer unrhyw bŵer yn cefnogi'r camau hynny;

iv

mabwysiadu dangosyddion;

v

bodloni targedau i leihau tagfeydd; a

vi

bod yn destun amgylchiadau unigol sy'n gyfrifol am fethiant ymddangosiadol mewn dyletswydd;

b

mae unrhyw wybodaeth benodol a gafwyd o dan adran 19 o'r Ddeddf; ac

c

mae unrhyw dystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael,

yn tueddu dangos i Weinidogion Cymru hwyrach nad yw'r awdurdod wedi cydymffurfio ag un neu fwy o ofynion adran 17 o'r Ddeddf ac o ganlyniad gall fod yr awdurdod yn methu cyflawni unrhyw un o'i ddyletswyddau'n briodol o dan yr adran honno.

49

Wrth gymhwyso'r maen prawf hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol.

a

A ydyw'r awdurdod wedi ystyried pa drefniadau a all fod yn briodol ar gyfer—

i

cynllunio'r camau sydd i'w cymryd i gyflawni'r ddyletswydd o dan adran 16 o'r Ddeddf; a

ii

cyflawni'r camau hynny;

ac os yw'n ystyried bod hynny'n briodol a ydyw wedi gwneud trefniadau o'r fath? (Gweler adran 17(1)).

b

A ydyw'r trefniadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer penodi rheolwr traffig? (Gweler adran 17(2)).

c

A ydyw'r trefniadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu proses i sicrhau, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, fod yr awdurdod yn-

i

dynodi'r pethau sy'n peri tagfeydd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw;

ii

dynodi'r pethau (gan gynnwys digwyddiadau y dyfodol) y mae'r potensial ynddynt i beri tagfeydd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw; a

iii

ystyried unrhyw gamau posibl y gellir eu cymryd wrth ymateb i, neu wrth rag-weld, unrhyw beth felly a ddynodwyd? (Gweler adran 17(4)).

Wrth fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn ni fydd Gweinidogion Cymru yn disgwyl gweld darpariaeth ar gyfer sefydlu proses i ystyried neu ddynodi unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn cael effaith ddi-nod yn unig (neu effaith bosibl) ar symudiad traffig ar rwydwaith yr awdurdod.

ch

A ydyw'r trefniadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod yr awdurdod yn—

iv

penderfynu polisïau neu amcanion penodol o ran gwahanol ffyrdd neu wahanol ddosbarthau o ffyrdd yn ei rwydwaith ffyrdd;

v

monitro effeithiolrwydd ei drefniadaeth a'r prosesau o wneud penderfyniadau a gweithredu ei benderfyniadau; a

vi

asesu ei berfformiad wrth reoli ei rwydwaith? (Gweler adran 17(5)).

d

A ydyw'r awdurdod wedi adolygu'n gyson effeithiolrwydd y trefniadau hyn? (Gweler adran 17(6)).

MAEN PRAWF Rhif 2 (Adran 16 — y ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith)

50

I ba raddau—

a

mae'r dystiolaeth (gweler paragraffau 31 i 43 uchod) bod awdurdod wedi neu ddim wedi—

i

rhoi sylw i'r Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith wrth gyflawni ei ddyletswyddau i reoli'r rhwydwaith;

ii

ystyried a phan fo'n briodol wedi cymryd camau fel a ragwelir gan adran 16(2) o'r Ddeddf;

iii

arfer unrhyw bŵer yn cefnogi'r camau hynny;

iv

mabwysiadu dangosyddion;

v

bodloni targedau i leihau tagfeydd; a

vi

bod yn destun amgylchiadau unigol sy'n gyfrifol am fethiant ymddangosiadol mewn dyletswydd;

b

mae unrhyw wybodaeth benodol a gafwyd o dan adran 19 o'r Ddeddf;

c

mae'r casgliadau y daethpwyd iddynt ar ôl cymhwyso Maen Prawf Rhif 1; ac

ch

mae unrhyw dystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael,

yn tueddu dangos i'r Cynulliad Cenedlaethol hwyrach nad yw'r awdurdod yn rheoli ei rwydwaith ffyrdd er mwyn cyflawni, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol wrth gofio am ei rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill, yr amcanion o sicrhau bod traffig yn symud yn hwylus ar ei rwydwaith ffyrdd a hwyluso traffig i symud yn hwylus ar rwydweithiau ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arnynt ac o ganlyniad gall fod yn methu cyflawni'n briodol ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith o dan adran 16 o'r Ddeddf.

51

Wrth gymhwyso'r maen prawf hwn bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol.

a

Pa gamau, os oes rhai, mae'r awdurdod yn cynllunio eu cymryd wrth gyflawni ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?

b

Pa gamau, os oes rhai, mae'r awdurdod wedi'u cymryd mewn gwirionedd wrth gyflawni ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?

c

Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod yr awdurdod yn ystyried y camau hynny a fydd yn cyfrannu at sicrhau—

i

defnydd mwy effeithiol o'i rwydwaith; neu

ii

osgoi, diddymu neu leihau tagfeydd neu amhariad arall i symudiad traffig ar ei rwydwaith ffyrdd neu ar rwydwaith ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arno?

ch

Pa bwerau ar gyfer rheoleiddio neu gydgysylltu'r defnydd a wneir o unrhyw ffordd (neu ran o ffordd) yn y rhwydwaith ffyrdd, os oes rhai, mae'r awdurdod yn bwriadu eu harfer fel rhan o unrhyw gamau cynllunio?

d

A ydyw'r awdurdod wedi arfer unrhyw bwerau o'r fath fel rhan o unrhyw gamau a gymrwyd?

dd

A ydyw'r awdurdod wedi penodi rheolwr traffig?

e

Os felly, a ydyw'r rheolwr traffig yn cyflawni'r tasgau hynny y mae'r awdurdod yn ystyried y byddant yn gymorth iddo i gyflawni ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?

f

Pa bethau mae'r awdurdod wedi eu dynodi sy'n peri—

i

tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd; neu

ii

amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw?

ff

Pa bethau mae'r awdurdod wedi'u dynodi (gan gynnwys digwyddiadau yn y dyfodol) y mae ynddynt y potensial i beri—

iii

tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd; neu

iv

amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw?

g

Pa gamau posibl mae'r awdurdod wedi'u hystyried y gellid eu cymryd wrth ymateb i, neu wrth rag-weld, unrhyw beth felly a ddynodwyd?

ng

I ba raddau mae unrhyw gamau o'r fath wedi'u cymryd?

h

Pa bolisïau neu amcanion penodol mae'r awdurdod wedi penderfynu arnynt o ran gwahanol ffyrdd neu wahanol ddosbarthau o ffyrdd yn ei rwydwaith ffyrdd?

i

Beth yw canlyniad monitro'r awdurdod ar effeithiolrwydd—

i

ei drefniadaeth;

ii

ei brosesau penderfynu; a

iii

gweithredu ei benderfyniadau?

j

Beth yw canlyniad asesiad yr awdurdod ar ei berfformiad wrth reoli ei rwydwaith ffyrdd?

l

Beth yw canlyniad adolygiad yr awdurdod ar effeithiolrwydd y trefniadau sydd ganddo ar waith o dan adran 17 o'r Ddeddf?

MEINI PRAWF AR GYFER PENDERFYNU A DDYLID GWNEUD GORCHYMYN YMYRRYD52

Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymhwyso'r meini prawf canlynol er mwyn penderfynu a yw awdurdod yn methu cyflawni'n briodol unrhyw rai o'i ddyletswyddau o dan adrannau 16 a 17 o'r Ddeddf ac a ddylai wneud gorchymyn ymyrryd.

MAEN PRAWF Rhif 1 (dyletswyddau Adran 17)

53

I ba raddau—

a

mae'r dystiolaeth (gweler paragraffau 31 i 43 uchod) bod awdurdod wedi neu ddim wedi—

i

rhoi sylw i'r Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith wrth gyflawni ei ddyletswyddau i reoli'r rhwydwaith;

ii

ystyried a phan fo'n briodol wedi cymryd camau fel a ragwelir gan adran 16(2) o'r Ddeddf;

iii

arfer unrhyw bwer yn cefnogi'r camau hynny;

iv

mabwysiadu dangosyddion;

v

bodloni targedau i leihau tagfeydd; a

vi

bod yn destun amgylchiadau unigol sy'n gyfrifol am fethiant ymddangosiadol mewn dyletswydd;

b

mae unrhyw wybodaeth benodol a gafwyd o dan adran 19 o'r Ddeddf;

c

mae unrhyw sylwadau neu gynigion a wnaed, ac unrhyw wybodaeth benodol a roddwyd, wrth ymateb i hysbysiad ymyrryd; a

ch

mae unrhyw dystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael,

yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol nad yw'r awdurdod wedi cydymffurfio ag un neu fwy o ofynion adran 17 o'r Ddeddf ac, o ganlyniad, yn methu cyflawni unrhyw un o'i ddyletswyddau'n briodol o dan yr adran honno ac yn annhebygol o allu cywiro'r methiant hwnnw mewn amser rhesymol.

54

Wrth gymhwyso'r maen prawf hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i'r afael â'r cwestiynau a osodir ym mharagraff 49.

MAEN PRAWF Rhif 2 (Adran 16 — y ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith)

55

I ba raddau—

a

mae'r dystiolaeth (gweler paragraffau 31 i 43 uchod) bod yr awdurdod wedi neu ddim wedi—

i

rhoi sylw i'r Canllawiau ar y Ddyletswydd i Reoli'r Rhwydwaith wrth gyflawni ei ddyletswyddau i reoli'r rhwydwaith;

ii

ystyried a phan fo'n briodol wedi cymryd camau fel a ragwelir gan adran 16(2) o'r Ddeddf;

iii

arfer unrhyw bŵer yn cefnogi'r camau hynny;

iv

mabwysiadu dangosyddion;

v

bodloni targedau i leihau tagfeydd; a

vi

bod yn destun amgylchiadau unigol sy'n gyfrifol am fethiant ymddangosiadol mewn dyletswydd;

b

mae unrhyw wybodaeth benodol a gafwyd o dan adran 19 o'r Ddeddf;

c

mae unrhyw sylwadau neu gynigion a wnaed, ac unrhyw wybodaeth benodol a roddwyd, wrth ymateb i hysbysiad ymyrryd;

ch

mae'r casgliadau y daethpwyd iddynt ar ôl cymhwyso Maen Prawf Rhif 1 ym mharagraff 53; a

d

mae unrhyw dystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael,

yn bodloni Gweinidogion Cymru nad yw'r awdurdod yn rheoli ei rwydwaith ffyrdd er mwyn cyflawni, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol wrth gofio am ei rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill, yr amcanion o sicrhau bod traffig yn symud yn hwylus ar ei rwydwaith ffyrdd a hwyluso traffig i symud yn hwylus ar rwydweithiau ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arnynt ac, o ganlyniad, yn methu cyflawni'n briodol ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith o dan adran 16 o'r Ddeddf ac yn annhebygol o allu cywiro'r methiant mewn amser rhesymol.

56

Wrth gymhwyso'r maen prawf hwn bydd Gweinidogion Cymru yn ail fynd i'r afael â'r cwestiynau a osodir ym mharagraff 51.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Fel rhan o'r broses i orfodi dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith a osodwyd gan adrannau 16 a 17 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“y Ddeddf”), caniateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ymyrryd os ydynt o'r farn bod awdurdod traffig lleol yng Nghymru yn methu â chyflawni unrhyw un o'r dyletswyddau hynny'n briodol.

Os ydynt wedi'u bodloni bod awdurdod traffig lleol o'r fath yn methu â chyflawni unrhyw un o'r dyletswyddau hynny'n briodol cânt wneud gorchymyn ymyrryd sy'n darparu ar gyfer penodi cyfarwyddwr traffig neu mewn cysylltiad â hynny.

Yn unol ag adran 27 o'r Ddeddf, mae'r Gorchymyn hwn yn gosod, o ran Cymru, ganllawiau am y meini prawf y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymhwyso er mwyn penderfynu p'un ai rhoi hysbysiad ymyrryd neu wneud gorchymyn ymyrryd.

Mae Asesiad Effaith Reoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Mae hwn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.