2007 Rhif 1713 (Cy.150)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 19911, ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach 2, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Rhagarweiniol2

Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 20063 fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 3 (ffioedd arolygu)3

Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£24.00”.

Brian GibbonsY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 er mwyn codi'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau hynny.

Mae'r ffi am arolygiadau o'r fath, a newidiwyd ddiwethaf yn Ebrill 2004, yn codi o 14.3% o £21 i £24.

Cafodd Asesiad Effaith Rheoliadol ei baratoi ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Mae hwn ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.