Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Mehefin 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mehefin 2007
Yn dod i rym
10 Gorffennaf 2007
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£24.00”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
13 Mehefin 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 er mwyn codi'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau hynny.
Mae'r ffi am arolygiadau o'r fath, a newidiwyd ddiwethaf yn Ebrill 2004, yn codi o 14.3% o £21 i £24.
Cafodd Asesiad Effaith Rheoliadol ei baratoi ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Mae hwn ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 75 a 104(1) eu trosglwyddo, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Amnewidiwyd adran 75 yn rhagolygol gan adran 58(2) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau 75 a 104(1) dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.