Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2316 (Cy.187)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

4 Awst 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Awst 2007

Yn dod i rym

1 Medi 2007

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 1 Medi 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongliad

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod gwasanaethau plant;

ystyr “awdurdod esgobaethol priodol” (“appropriate diocesan authority”), o ran un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig, yw—

(i)

y Bwrdd Cyllid Esgobaethol, neu berson arall sydd wedi ei ddynodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 142 (1) o Ddeddf 1998 (yn ôl y digwydd), ar gyfer pob esgobaeth o'r Eglwys yng Nghymru, a

(ii)

esgob pob esgobaeth o'r Eglwys Gatholig,

y mae unrhyw ran o'i hardal (yn y ddau achos) yn gorwedd oddi mewn i ardal yr awdurdod;

ystyr “Cynllun Plant a Phobl Ifanc” (“Children and Young People’s Plan”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 3 (2);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Plant 2004;

ystyr “Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc” (“Children and Young People’s Partnership”) yw'r bartneriaeth rhwng yr awdurdod, pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod, a phersonau neu gyrff eraill sy'n arfer swyddogaethau neu'n ymwneud â gweithgareddau o ran plant a phobl ifanc yn ardal yr awdurdod;

mae i “partneriaid perthnasol” (“relevant partners”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 25 o Ddeddf 2004;

mae i “personau ifanc perthnasol” (“relevant young persons”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 26 (6) o Ddeddf 2004;

mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” (“school maintained by a local education authority”) (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod penodol) yr ystyr a roddir iddo gan adran 142 (1) o Ddeddf 1998.

mae i “ysgol yr Eglwys Gatholig” (“Roman Catholic Church school”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 142 (1) o Ddeddf 1998;

mae i “ysgol yr Eglwys yng Nghymru” (“Church in Wales school”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 142 (1) o Ddeddf 1998;

Y gofyniad i baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant a Phobl Ifanc

3.—(1Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Cynllun Plant a Phobl Ifanc” yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26 (1) o Ddeddf 2004, yn datgan strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau o ran plant ac o ran personau ifanc perthnasol.

Cyfnod y cynllun

4.—(1Bydd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc cyntaf yn cael effaith am y cyfnod sy'n cychwyn ar 1 Awst 2008 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2011.

(2Bydd yr ail Gynllun Plant a Phobl Ifanc, a'r rhai dilynol, yn cael effaith am y cyfnod o dair blynedd sy'n cychwyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fydd cyfnod y cynllun blaenorol yn dod i ben.

Amseriad cyhoeddi'r cynllun

5.—(1Rhaid cyhoeddi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc cyntaf ar neu cyn 30 Medi 2008.

(2Rhaid cyhoeddi'r ail Gynllun Plant a Phobl Ifanc, a'r rhai dilynol, ar neu cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fydd cyfnod y cynllun dan sylw'n cychwyn yn unol â rheoliad 4 (2).

Y dull o gyhoeddi'r cynllun

6.  Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc drwy—

(a)ei osod ar wefan yr awdurdod;

(b)trefnu bod copïau o'r cynllun ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd—

(i)yn swyddfeydd yr awdurdod; a

(ii)mewn unrhyw fan priodol arall.

Ymgynghoriad

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r ymgynghoriad y mae'n ofynnol ar bob awdurdod i'w gynnal wrth lunio'u Cynllun Plant a Phobl Ifanc.

(2Rhaid ymgynghori â'r canlynol ynglŷn â'r cynllun pan fydd hwnnw ar ei ffurf ddrafft—

(a)pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod;

(b)y Bwrdd Lleol Diogelu Plant ar gyfer ardal yr awdurdod;

(c)Gweinidogion Cymru;

(ch)pennaeth a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod;

(d)prifathro pob coleg addysg bellach yn ardal yr awdurdod;

(dd)yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer unrhyw un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion yr Eglwys Gatholig a gynhelir gan yr awdurdod;

(e)Comisiynydd Plant Cymru

(f)Bwrdd yr Iaith Gymraeg (yn yr ystyr a roddir i'r term hwnnw yn adran 1 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(4));

(ff)yr awdurdod cynllunio lleol (o fewn ystyr adran 1(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5));

(g)Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(ng)aelodau o'r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc, heblaw'r aelodau y mae gofyn ymgynghori â hwy yn unol â'r rheoliad hwn, gan gynnwys plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a chyrff sydd yn eu cynrychioli;

(h)unrhyw is-grŵp o'r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc;

(i)y Bartneriaeth Leol Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (yn yr ystyr a roddir i'r term hwnnw yn adran 119 o Ddeddf 1998);

(j)y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (yn yr ystyr a roddir i'r term hwnnw yn adran 390 o Ddeddf Addysg 1996(6));

(l)Partneriaethau Diogelwch Cymunedol os oes rhai'n bodoli yn ardal yr awdurdod;

(ll)Partneriaethau Cymunedau'n Gyntaf os oes rhai'n bodoli yn ardal yr awdurdod;

(m)y Bartneriaeth Strategaeth Gymunedol os oes un yn bodoli yn ardal yr awdurdod;

(n)y Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles os oes un yn bodoli yn ardal yr awdurdod;

(o)y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol os oes un yn bodoli yn ardal yr awdurdod;

(p)cyrff sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg;

(ph)y Gwasanaeth Tân ac Achub;

(r)tîm iechyd cyhoeddus lleol y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol;

(rh)darparwyr Addysg Bellach a darparwyr dysg sydd wedi eu lleoli yn y gweithle;

(s)Cynghorau ysgol;

(t)Fforymau ieuenctid lleol;

(th)Estyn;

(u)cyrff gwirfoddol sydd yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc;

(w)pa bynnag bersonau neu gyrff eraill sy'n ymddangos yn rhai priodol ym marn yr awdurdod.

(3Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ff) i (th) o baragraff (2), dim ond cyrff sy'n gwasanaethu ardal gyfan yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni, yr ymgynghorir â hwy.

(4Rhaid i'r awdurdod ymgynghori ynglŷn â'r cynllun drafft am gyfnod o ddim llai na deuddeng wythnos.

(5Rhaid i'r awdurdod gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon drafft o'r cynllun at bob ymgynghorai, gan wahodd sylwadaethau arno o fewn cyfnod penodedig.

(6Gellir bodloni'r gofyniad ym mharagraff (5) i anfon drafft o'r cynllun at yr ymgynghoreion drwy anfon copïau drwy bost electronig.

Adolygu'r cynllun

8.—(1Rhaid i'r awdurdod adolygu eu Cynllun Plant a Phobl Ifanc erbyn 30 Hydref bob blwyddyn, gan gychwyn yn 2009.

(2Wrth gynnal adolygiad o'r fath, rhaid i'r awdurdod ymgynghori â pha bynnag bersonau sy'n briodol yn eu barn hwy, gan roi sylw i'r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 26 (5) o Ddeddf 2004.

(3Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad, mewn modd sy'n briodol yn eu barn hwy, gan roi sylw i'r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 26 (5) o Ddeddf 2004.

Jane E Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

4 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod pob awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru yn paratoi cynllun plant a phobl ifanc, yn ymgynghori yn ei gylch, ac yn ei gyhoeddi a'i adolygu. Rhaid i gynllun o'r fath ddatgan strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau o ran plant a phersonau ifanc. Nid yw cynnwys y cynllun yn cael ei ragnodi gan y Rheoliadau, ond bydd yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod gan roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru.

Bydd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn disodli'r Cynllun Addysg Sengl yr oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ei baratoi a'i gyhoeddi o dan Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 (OS 2006/877). Nid yw'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 am nad oes dyletswydd sy'n parhau i gyhoeddi Cynllun Addysg Sengl ar ôl cyhoeddi'r cyfryw gynllun ar 1 Medi 2006 ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ar 31 Awst 2008.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer paratoi a chyhoeddi cynlluniau bob tair blynedd. Bydd y cynllun cyntaf mewn grym o 1 Awst 2008 ymlaen ac yn cael ei gyhoeddi erbyn 30 Medi 2008.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y modd y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi; mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ymgynghori ynglyn â'r cynllun drafft; ac mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer adolygiad blynyddol o'r cynllun gan yr awdurdod, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ymgynghori pellach.

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu rhoi i Weinidogion Cymru gan weithrediad adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.