Search Legislation

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2386 (W.197) (Cy.88)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

11 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r awdurdod cenedlaethol priodol(1) gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(2):

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965;(3);

ystyr “Ddeddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym at ddibenion penodol

2.—(1Mae darpariaethau Deddf 2006 a osodir ym mharagraff (2) yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud i'r graddau y maent yn rhoi pwer, neu'n gosod dyletswydd, ar Weinidogion Cymru—

(a)i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwyddynt;

(b)i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau; neu

(c)i wneud darpariaeth parthed arfer unrhyw bwer o'r fath neu parthed cyflawni dyletswydd o'r fath.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

  • adran 3(5);

  • adran 6(4);

  • adran 7(4);

  • adran 8(1) a (2);

  • adran 11(5) a (6);

  • adran 12(a);

  • adran 13(1)(a);

  • adran 14;

  • adran 17(3) a (10);

  • adran 19(6);

  • adran 20(2) a (3);

  • adran 21(2) a (3);

  • adrannau 22 i 25;

  • adran 29(1) a (6);

  • adran 31(6)(a);

  • adran 39(6);

  • adran 40;

  • adran 42(4);

  • adrannau 43 a 44;

  • adran 50(1) a (4) i (6);

  • paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 o Atodlen 2; a

  • paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5 ac 8(2) a (3) o Atodlen 3.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Medi 2007

3.  Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 yn dod i rym ar 6 Medi 2007—

(a)adran 4 (awdurdodau cofrestru tiroedd comin);

(b)adran 5 (tir y mae Rhan 1 yn gymwys iddo);

(c)adran 15 (cofrestru meysydd tref neu bentref);

(ch)adran 23 (trosiannol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (i) o'r erthygl hon;

(d)adran 24 (ceisiadau etc.) i'r graddau nad yw'n cael ei dwyn i rym gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn;

(dd)adran 44 (materion atodol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (j) o'r erthygl hon;

(e)adran 45 (pwerau awdurdodau lleol dros dir nas hawlwyd);

(f)adran 47 (cau tir gan y perchennig);

(ff)adran 49 (hysbysiad cau tir);

(g)adran 51 (mynediad i gerbydau);

(ng)adran 52 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (l) o'r erthygl hon;

(h)adran 53 (diddymiadau), i'r graddau y mae yn rhoi eu heffaith i baragraffau (ll) i (o) o'r erthygl hon;

(i)yn Atodlen 3 (cofrestru: darpariaeth drosiannol), paragraff 9;

(j)yn Atodlen 4 (gwaith: materion atodol), paragraff 6;

(l)yn Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)

(i)paragraff 4,

(ii)is-baragraff (a) o baragraff 6, a

(iii)is-baragraff (5) o baragraff 7 ac is-baragraff (1) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y mae yn ymwneud ag ef;

(ll)yn Rhan 1 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chofrestru), y cofnodion sy'n ymwneud ag—

(i)Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 i'r graddau y mae'n diddymu adrannau 8, 9 a 13(a) a (b)(4) o Ddeddf 1965,

(ii)adran 189(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5),

(iii)paragraff 10(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(6),

(iv)adran 8 o Ddeddf Tiroedd Comin Dartmoor 1985(7),

(v)Deddf Tiroedd Comin (Cywiro Cofrestrau) 1989(8),

(vi)adrannau 46(1) a 98 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(9), a

(vii)adran 33(1) o Ddeddf Tiroedd Comin Greenham a Crookham 2002(10);

(m)yn Rhan 2 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â gwaith), y cofnodion yn ymwneud ag

(i)adran 21 o Ddeddf y Tiroedd Comin Metropolitanaidd 1866(11),

(ii)adran 30 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876(12),

(iii)adran 21o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 (13), a

(iv)Atodlen 7 i Ddeddf Prynu Gorfodol 1965(14);

(n)yn Rhan 3 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chau tir gan y perchennog a chau tir), y cofnodion yn ymwneud â

(i)Deddf Tiroedd Comin 1285(15),

(ii)adran 31 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876, a

(iii)Deddf Diwygio Cyfraith Tiroedd Comin 1893(16); ac

(o)Rhan 5 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â mynediad i gerbydau).

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

4.—(1Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn caniatáu cais o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i gofrestru tir fel maes tref neu bentref cyn bod adran 1 o Ddeddf 2006 wedi dod i rym mewn perthynas â'r man lle lleolir y tir—

(a)rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r tir yn y gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi sy'n cael ei chadw ar gyfer y man hwnnw dan Ddeddf 1965; a

(b)hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â'r man hwnnw, mae Deddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â'r cofrestru megis petai wedi'i wneud yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965.

(2O ran unrhyw ardal o Gymru—

(a)mae cyfeiriadau yn adran 24 o Ddeddf 2006, ac mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, at gofrestru tiroedd comin neu neu feysydd trefi neu bentrefi, i'w cymryd, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel cyfeiriadau at gofrestr o'r fath a gedwir o dan Ddeddf 1965; a

(b)mae adran 13(b) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani(17), yn parhau i gael eu heffaith hyd nes y daw'r canlynol i rym—

(i)adran 6 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin ac eithrio yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad, a

(ii)adran 14 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.

(3Pan fo—

(a)cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965, i ddiwygio'r gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi o ganlyniad i fod tir wedi dod yn faes tref neu bentref, a

(b)nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,

rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(b) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.

(4O ran unrhyw ardal o Gymru, mae'r cyfeiriad yn adran 45(1) o Ddeddf 2006 at dir sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu faes tref neu bentref i'w ddarllen, hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel petai yn gyfeiriad at fod tir wedi'i gofrestru felly o dan Ddeddf 1965.

(5Pan fo Comisiynydd Tiroedd Comin, cyn 6 Medi 2007, yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 8(2) neu (3) o Ddeddf 1965 i awdurdod cofrestru gofrestru person fel perchennog tir, ond nad yw'r awdurdod cofrestru yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd cyn y dyddiad hwnnw-

(a)mae'r cyfarwyddyd yn parhau i fod yn effeithiol ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny er gwaethaf diddymiad adran 8(2) a (3) o Ddeddf 1965; a

(b)os mai'r cyfarwyddyd yw i awdurdod lleol gael ei gofrestru fel perchennog y tir, pan wneir y cofrestriad, bydd adran 8(4) o Ddeddf 1965 yn gymwys megis pe na bai wedi cael ei diddymu.

(6O ran unrhyw ardal o Gymru, mae adran 13(a) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani(18), yn parhau i gael eu heffaith, hyd nes daw adran 14 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.

(7Os, o ran unrhyw dir ac eithrio tir y cyfeirir ato ym mharagraff (6),—

(a)oes cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol â rheoliadau o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965, i dir gael ei dynnu oddi ar y gofrestr o ganlyniad i fod y tir hwnnw wedi peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref; a

(b)nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,

rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(a) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

11 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“y Ddeddf”) o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gyda'r bwriad cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau o Ddeddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno i rym ar 6 Medi 2007.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion yn ymwneud â'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

Ymhlith pethau eraill, mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 15 o Ddeddf 2006 i rym, sy'n gwneud darpariaeth newydd ynghylch cofrestru tir yng Nghymru fel maes tref neu bentref, ac sy'n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion—

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol, nes bod adran 1 o Ddeddf 2006 yn dod i rym o ran y man perthnasol, i faes a gofrestrwyd o dan adran 15 o Ddeddf 2006 gael ei gofnodi yn y cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”);

(b)sy'n sicrhau bod y darpariaethau presennol ar gyfer cofrestru meysydd a thiroedd comin newydd o dan adran 13(b) o Ddeddf 1965 yn aros mewn grym mewn achosion penodol (megis ar gyfnewid tir sy'n ganlyniad i orchymyn prynu gorfodol); ac

(c)sy'n cadw unrhyw gais i gofrestru maes a wnaed o dan Ddeddf 1965 cyn 6 Medi 2007, fel bod rhaid pennu ceisiadau o'r fath o dan Ddeddf 1965.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw'r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn www.opsi.gov.uk.

(1)

Gweler adran 61(1) o Ddeddf 2006 am ystyr “awdurdod cenedlaethol priodol” (“appropriate national authority”), y mae ei swyddogaethau bellach arferadwy, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

1965 p.64; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran189(2) a chan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p.9), Atodlen 11, paragraff 7(1) a (2); diwygiwyd adran 9 gan Ddeddf Cofrestru Tir 2000, Atodlen 11, paragraff 7(1) a (3); diwygiwyd adran 13 gan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1969 (p.59), Atodlen 2, Rhan I.

(10)

2002 p.i.

(12)

1876 p.56; diwygiwyd adran 30 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder (Apelau) 1934 (p.40), yr Atodlen, Rhan I a chan Ddeddf Diwygio'r Cyfansoddiad 2005 (p.4), Atodlen 11, Rhan 4, paragraff 13.

(13)

1899 p.30; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Adolygu Cyfraith Statud 1908 (p.49).

(14)

1965 p.56.

(16)

1893 p.57.

(17)

Mae rheoliad 28 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1969/1843 (mae yna offerynnau diwygio eraill, ond nid oes unrhyw un yn berthnasol), a Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) wedi'u gwneud o dan adran 13(b).

(18)

Mae rheoliad 27 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/658, yn gwneud darpariaeth o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources