Search Legislation

Rheoliadau Tiroedd Comin (Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2396 (Cy. 198)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Rheoliadau Tiroedd Comin (Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

12 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Awst 2007

Yn dod i rym

6 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwer a roddwyd i'r awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 24 a 59 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1) ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol(3):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tiroedd Comin (Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Medi 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cwmpas a Dehongli

2.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wneir i awdurdod cofrestru o dan adran 15(1) neu (8) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw awdurdod cofrestru tiroedd comin;

ystyr “awdurdod o dan sylw” (“concerned authority”), mewn perthynas â chais i awdurdod cofrestru, yw awdurdod lleol (heblaw'r awdurdod cofrestru) y mae unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn effeithio arno yn gorwedd yn ei ardal; ac ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

ystyr “ffurflen 44” (“form 44”) a “ffurflen 45” (“form 45”) yw'r ffurflenni sy'n dwyn y Rhif au hynny yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'r ffurflenni hynny ac unrhyw amrywiadau y mae eu hangen o dan yr amgylchiadau; ac

ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966(4); ac ystyr “Rheoliad Cyffredinol” (“General Regulation”) a Rhif ar ei ôl yw'r rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol.

(3Pan fo cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo at ddibenion cais, bernir bod unrhyw ofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru anfon unrhyw beth at “y ceisydd” wedi'i fodloni drwy ei anfon at y cyfreithiwr neu, os oes dau neu ragor o bersonau wedi gwneud cais ar y cyd ac nad oes cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo, at y person y gwelir ei enw yn gyntaf ar y ffurflen gais.

(4Mae gofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru stampio unrhyw ddogfen yn ofyniad iddo osod argraff ei stamp swyddogol arni yn unol â'r disgrifiad yn Rheoliad Cyffredinol 3, sef stamp swyddogol y mae'n rhaid iddo gynnwys y dyddiad a grybwyllir yn y gofyniad neu (os na chyfeirir at ddyddiad) y dyddiad y gosodwyd y stamp.

(5Caniateir i Ffurflen 44 fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg, neu yn y ddwy iaith.

(6Rhaid i Ffurflen 45 fod yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref

3.—(1Rhaid i gais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref gael ei wneud yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i gais—

(a)cael ei wneud ar ffurflen 44;

(b)cael ei lofnodi gan bob ceisydd sy'n unigolyn a chan ysgrifennydd pob ceisydd sy'n gorff corfforaethol neu anghorfforaethol neu ryw swyddog arall iddo sydd wedi'i awdurdodi'n briodol;

(c)cael ei gyflwyno ynghyd â phob dogfen sy'n ymwneud â'r mater sydd ym meddiant y ceisydd neu o dan ei reolaeth, neu y mae gan y ceisydd hawl i'w dangos, neu ynghyd â chopi neu grynodeb digonol o bob dogfen o'r fath; ac

(ch)cael ei ategu—

(i)â datganiad statudol fel y'i nodir yn ffurflen 44, gydag unrhyw addasiadau y mae eu hangen yn ôl gofynion yr achos, a

(ii)ag unrhyw dystiolaeth arall y mae'n rhesymol i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani, ar unrhyw adeg cyn iddo benderfynu'n derfynol ar y cais.

(3Rhaid i ddatganiad statudol i ategu cais gael ei wneud—

(d)gan y ceisydd, neu gan un o'r ceiswyr os oes mwy nag un;

(dd)gan y person a lofnododd y cais ar ran ceisydd sy'n gorff corfforaethol neu anghorfforaethol; neu

(e)gan gyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran y ceisydd.

Y weithdrefn ar ôl i geisiadau ddod i law

4.—(1Ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—

(a)rhoi Rhif adnabod i'r cais a'i farcio â'r Rhif hwnnw; a

(b)stampio'r ffurflen gais i nodi'r dyddiad y daeth i law.

(2Rhaid i'r awdurdod cofrestru anfon derbynneb at y ceisydd ar gyfer y cais a honno'n cynnwys datganiad o'r Rhif a roddwyd iddo; ac mae Ffurflen 6, o'i defnyddio at y diben hwnnw, yn ddigonol.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “Ffurflen 6” yw'r ffurflen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol.

Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau y mae adran 15(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys iddynt

5.—(1Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—

(a)anfon hysbysiad, drwy'r post, ar ffurflen 45 at bob person (heblaw'r ceisydd) y mae gan yr awdurdod cofrestru reswm dros gredu (boed drwy wybodaeth a roddwyd gan y ceisydd neu fel arall) ei fod yn berchennog, prydleswr, tenant neu feddiannwr ar unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn effeithio arno, neu ei fod yn debyg o ddymuno gwrthwynebu'r cais;

(b)cyhoeddi yn yr ardal o dan sylw, ac arddangos, yr hysbysiad a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a) ac anfon yr hysbysiad a chopi o'r cais at bob awdurdod o dan sylw; ac

(c)gosod yr hysbysiad ar ryw wrthrych amlwg ar unrhyw ran o'r tir sy'n agored, heb ei gau a heb ei feddiannu, oni bai ei bod yn ymddangos i'r awdurdod cofrestru na fyddai gweithredu felly yn rhesymol ymarferol.

(2Rhaid i'r dyddiad sydd i'w fewnosod mewn hysbysiad o dan baragraff (1)(a) yn ddyddiad pryd y mae'n rhaid i ddatganiadau ysgrifenedig i wrthwynebu cais gael eu cyflwyno i'r awdurdod cofrestru ganiatáu cyfnod o nid llai na chwe wythnos ar ôl yr olaf o'r canlynol—

(a)y dyddiad y mae'n rhesymol disgwyl i'r hysbysiad gael ei draddodi yng nghwrs arferol y post i'r personau y mae wedi'i anfon atynt o dan baragraff (1)(a); neu

(b)y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad a'i arddangos gan yr awdurdod cofrestru.

(3Rhaid i bob awdurdod o dan sylw sy'n cael hysbysiad a chopi o gais o dan y rheoliad hwn—

(a)arddangos copïau o'r hysbysiad ar unwaith; a

(b)cadw'r copi o'r cais ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol nes i'r awdurdod cofrestru roi gwybod bod y cais wedi'i benderfynu.

(4Pan fo'n ymddangos i'r awdurdod cofrestru ar ôl ystyriaeth ragarweiniol nad yw cais wedi'i wneud yn briodol, caiff yr awdurdod ei wrthod heb gydymffurfio â pharagraff (1), ond, os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gallai unrhyw gam gan y ceisydd adfer y cais i drefn, rhaid i'r awdurdod beidio â gwrthod y cais o dan y paragraff hwn heb roi cyfle rhesymol yn gyntaf i'r ceisydd gymryd y cam hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal o dan sylw” yw ardal sy'n cynnwys ardal pob un o'r awdurdodau o dan sylw.

(6Mae gofyniad i awdurdod cofrestru gyhoeddi hysbysiad mewn unrhyw ardal yn ofyniad iddo beri i'r ddogfen gael ei chyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn ddigonol i sicrhau cyhoeddusrwydd digonol iddo.

(7Mae gofyniad i arddangos hysbysiad neu gopïau o hysbysiadau yn ofyniad i'w drin, at ddibenion adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (hysbysiadau cyhoeddus)(5), fel pe bai'n hysbysiad cyhoeddus o fewn ystyr yr adran honno.

Ystyried gwrthwynebiadau

6.—(1Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, cyn gynted ag y gellir ar ôl y dyddiad pryd y mae'n ofynnol i ddatganiadau sy'n gwrthwynebu cais gael eu cyflwyno, rhaid i'r awdurdod cofrestru fwrw ymlaen i ystyried y cais ymhellach, ac i ystyried y datganiadau (os oes rhai) sy'n gwrthwynebu'r cais hwnnw, yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Mae'r awdurdod cofrestru—

(a)yn gorfod ystyried pob datganiad ysgrifenedig sy'n gwrthwynebu cais ac sy'n dod i law cyn y dyddiad y mae'n bwrw ymlaen i ystyried y cais ymhellach o dan baragraff (1); a

(b)yn cael ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath sy'n dod i law ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw a chyn iddo benderfynu'n derfynol ar y cais.

(3Rhaid i'r awdurdod cofrestru anfon copi at y ceisydd o bob datganiad y mae'n ofynnol o dan baragraff (2) i'r awdurdod cofrestru ei ystyried ac o bob datganiad y caniateir i'r awdurdod cofrestru ei ystyried ac y mae'n bwriadu ei ystyried.

(4Rhaid i'r awdurdod cofrestru beidio â gwrthod y cais heb roi cyfle rhesymol i'r ceisydd ymdrin-

(a)â'r materion a gynhwyswyd mewn unrhyw ddatganiad yr anfonwyd copïau ohono at y ceisydd o dan baragraff (3); a

(b)unrhyw fater arall mewn perthynas â'r cais y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn cynnig seiliau posibl dros wrthod y cais.

Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau y mae adran 15(8) o Ddeddf 2006 yn gymwys iddynt

7.  Pan wneir cais o dan adran 15(8) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, rhaid i'r awdurdod cofrestru ganiatáu'r cais ar yr amod bod yr awdurdod cofrestru wedi'i fodloni—

(a)mai'r ceisydd yw perchennog y tir; a

(b)bod unrhyw gydsyniadau y mae'n ofynnol eu sicrhau o dan adran 15(9) o Ddeddf 2006 wedi eu sicrhau.

Dull cofrestru

8.—(1Pan fo'r awdurdod cofrestru yn caniatáu cais, rhaid iddo wneud y gwaith cofrestru angenrheidiol, gan ddilyn mor agos ag y gellir Gofnod Enghreifftiol Rhif 4 gydag unrhyw amrywiadau ac addasiadau y mae eu hangen o dan yr amgylchiadau, ond gan roi yn lle'r geiriau “(Registration provisional.)”, y geiriau “(Registration under section 15 of the Commons Act 2006.)”.

(2Mae darpariaethau paragraffau (2) i (6) o Reoliad Cyffredinol 10 yn gymwys i gofrestru o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i gofrestru yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol gyda'r addasiadau canlynol—

(a)ym mharagraff (2), ar ôl y geiriau “Form 2, and”, mewnosoder “, to the extent required,”; a

(b)ym mharagraff (5), nid yw'r geiriau “for the Register of Common Land shall bear the prefix CL, and every such number” yn gymwys.

(3Mae darpariaethau rheoliad 9 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Gwrthwynebiadau a Mapiau) 1968(6) (newidiadau ynglyn â mapiau cofrestru dros dro) yn gymwys at ddibenion adran 15 o Ddeddf 2006 fel y maent yn gymwys at ddibenion adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965(7) gyda'r addasiadau canlynol—

(a)nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys;

(b)ystyr “new map” yw unrhyw fap a ddefnyddir at ddibenion y rheoliad hwn; ac

(c)ym mharagraff (4), yn lle'r geiriau “six inches to one mile”, rhodder “1:2,500”.

(4Rhaid i bob map newydd a ddefnyddir gael ei stampio gan yr awdurdod cofrestru, a'i lofnodi ar ran yr awdurdod cofrestru, ac mae'n ffurfio rhan o'r gofrestr.

(5Pan fo'r tir sy'n destun cais eisoes wedi'i gofrestru yn dir comin yn y gofrestr o dir comin, rhaid i'r awdurdod cofrestru, hefyd,-

(a)pan fo hawliau comin wedi'u cofnodi yn y gofrestr honno, wneud cofnod cyfatebol yn y gofrestr o feysydd tref neu bentref; a

(b)addasu'r cofnod yn y gofrestr o diroedd comin fel bod y tir sy'n destun y cais yn peidio â chael ei gofrestru mwyach yn dir comin.

(6Pan fo awdurdod cofrestru wedi cofrestru o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo ffeilio'r ffurflen gais ac unrhyw gynllun a dychwelyd pob dogfen arall a gafwyd gyda'r cais i'r ceisydd.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “Cofnod Enghreifftiol Rhif 4” (“Model Entry No.4”) yw'r cofnod enghreifftiol sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyffredinol; a

(b)mae “cofrestr o diroedd comin” (“register of common land”) a “chofrestr o feysydd tref neu bentref” (“register of town or village greens”) yn cyfeirio at y cofrestrau sy'n cael eu cynnal gan awdurdod cofrestru yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1965(8).

Gwybodaeth am benderfynu ar geisiadau, a'r weithdrefn ar ôl i gais gael ei wrthod

9.—(1Pan fo'r awdurdod cofrestru wedi penderfynu ar gais ac, os yw wedi caniatáu'r cais, pan yw wedi gwneud y gwaith cofrestru angenrheidiol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ynglyn â'r ffaith—

(a)i bob awdurdod o dan sylw;

(b)i'r ceisydd; ac

(c)i bob person y mae ei gyfeiriad yn hysbys i'r awdurdod cofrestru ac a wrthwynebodd y cais.

(2Rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys, pan fo'r awdurdod cofrestru wedi caniatáu'r cais, fanylion y cofrestru a, pan fo wedi gwrthod y cais, y rhesymau dros ei wrthod.

(3Bernir bod person wedi gwrthwynebu cais at ddibenion paragraff (1) os cyflwynodd y person hwnnw ddatganiad o wrthwynebiad i'r cais y bu'n ofynnol i'r awdurdod cofrestru ei ystyried o dan baragraff (2) o reoliad 6 neu a ystyriodd yr awdurdod cofrestru o dan y paragraff hwnnw.

(4Pan fo'r awdurdod cofrestru wedi gwrthod cais, rhaid iddo ddychwelyd y ffurflen gais a'r holl ddogfennau a gafwyd gyda hi i'r ceisydd.

Disgrifiadau tir

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgrifiad unrhyw dir sy'n destun cais am gofrestru yn faes tref neu bentref.

(2Rhaid i dir gael ei ddisgrifio at ddibenion unrhyw gais—

(a)drwy gyfrwng map Ordnans sy'n cyd-fynd â'r cais ac y cyfeirir ato yn y cais hwnnw; neu

(b)yn achos tir sydd eisoes wedi'i gofrestru yn dir comin, os yw'r cais yn ymwneud â'r cyfan o'r tir mewn uned yn y gofrestr, drwy gyfeirio at yr uned honno yn y gofrestr.

(3Rhaid i unrhyw fap Ordnans sy'n cyd-fynd â chais—

(a)bod ar raddfa o ddim llai nag 1:2,500;

(b)dangos y tir sydd i'w ddisgrifio drwy gyfrwng lliw amlwg; ac

(c)cael ei farcio fel arddangosyn i'r datganiad statudol o blaid y cais.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “uned yn y gofrestr” yr un ystyr ag sydd i “register unit” yn y Rheoliadau Cyffredinol.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Awst 2007

Rheoliad 2(2)

ATODLENFfurflenni

FFURFLEN 45DEDDF TIROEDD COMIN 2006 — ADRAN 15(1)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“2006 Act”) yn darparu sail ddiwygiedig dros ofyn am gofrestru tir yn faes tref neu bentref.

Yn rhannol yn unig y daethpwyd â Rhan I o Ddeddf 2006 i rym. Yn benodol, nid yw adrannau 1 i 3 mewn grym eto. Nes i hynny ddigwydd, nid oes modd cynnwys meysydd newydd yn y gofrestr o feysydd tref neu bentref sydd i'w chynnal yn unol â 2006 Act. Tan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi'r awdurdodau cofrestru i gofrestru tir, sy'n bodloni'r meini prawf cofrestru sydd wedi'u nodi yn adran 15(1) neu 15(8) o Ddeddf 2006, yn y gofrestr o feysydd tref neu bentref sy'n cael ei chynnal yn unol â Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu—

(a)y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref (rheoliad 3);

(b)y weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gofrestru (rheoliadau 4 i 7); ac

(c)dull cofrestru tir yn faes tref neu bentref ar ôl i gais gael ei ganiatáu (rheoliad 8).

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r darpariaethau perthnasol yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) (“Rheoliadau 1969”) ar gyfer cofrestru meysydd tref neu bentref newydd o dan Ddeddf 1965. Er hynny, mae Rheoliadau 1969 yn parhau mewn grym er mwyn i feysydd newydd a thiroedd comin newydd gael eu cofrestru at y dibenion a bennir yn yr arbedion a geir yn erthygl 4(1) o Orchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88).

(3)

Gweler adran 61(1) o Ddeddf 2006 i gael ystyr “awdurdod cenedlaethol priodol” (“appropriate national authority”), y mae ei swyddogaethau yn arferadwy erbyn hyn, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(6)

O.S. 1968/989, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1969/1843, 1970/384 a 1990/311.

(8)

Yn ôl erthygl 4(1) o Orchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88), mae maes sy'n cydymffurfio â'r meini prawf o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i'w gofnodi yn y gofrestr sy'n cael ei chynnal gan awdurdod cofrestru yn unol â Deddf 1965.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources