2007 Rhif 2396 (Cy. 198)
Rheoliadau Tiroedd Comin (Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tiroedd Comin (Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2007.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Medi 2007.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cwmpas a Dehongli2
1
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wneir i awdurdod cofrestru o dan adran 15(1) neu (8) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref.
2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw awdurdod cofrestru tiroedd comin;
ystyr “awdurdod o dan sylw” (“concerned authority”), mewn perthynas â chais i awdurdod cofrestru, yw awdurdod lleol (heblaw'r awdurdod cofrestru) y mae unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn effeithio arno yn gorwedd yn ei ardal; ac ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
ystyr “ffurflen 44” (“form 44”) a “ffurflen 45” (“form 45”) yw'r ffurflenni sy'n dwyn y Rhif au hynny yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'r ffurflenni hynny ac unrhyw amrywiadau y mae eu hangen o dan yr amgylchiadau; ac
ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 19664; ac ystyr “Rheoliad Cyffredinol” (“General Regulation”) a Rhif ar ei ôl yw'r rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol.
3
Pan fo cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo at ddibenion cais, bernir bod unrhyw ofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru anfon unrhyw beth at “y ceisydd” wedi'i fodloni drwy ei anfon at y cyfreithiwr neu, os oes dau neu ragor o bersonau wedi gwneud cais ar y cyd ac nad oes cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo, at y person y gwelir ei enw yn gyntaf ar y ffurflen gais.
4
Mae gofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru stampio unrhyw ddogfen yn ofyniad iddo osod argraff ei stamp swyddogol arni yn unol â'r disgrifiad yn Rheoliad Cyffredinol 3, sef stamp swyddogol y mae'n rhaid iddo gynnwys y dyddiad a grybwyllir yn y gofyniad neu (os na chyfeirir at ddyddiad) y dyddiad y gosodwyd y stamp.
5
Caniateir i Ffurflen 44 fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg, neu yn y ddwy iaith.
6
Rhaid i Ffurflen 45 fod yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref3
1
Rhaid i gais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref gael ei wneud yn unol â'r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i gais—
a
cael ei wneud ar ffurflen 44;
b
cael ei lofnodi gan bob ceisydd sy'n unigolyn a chan ysgrifennydd pob ceisydd sy'n gorff corfforaethol neu anghorfforaethol neu ryw swyddog arall iddo sydd wedi'i awdurdodi'n briodol;
c
cael ei gyflwyno ynghyd â phob dogfen sy'n ymwneud â'r mater sydd ym meddiant y ceisydd neu o dan ei reolaeth, neu y mae gan y ceisydd hawl i'w dangos, neu ynghyd â chopi neu grynodeb digonol o bob dogfen o'r fath; ac
ch
cael ei ategu—
i
â datganiad statudol fel y'i nodir yn ffurflen 44, gydag unrhyw addasiadau y mae eu hangen yn ôl gofynion yr achos, a
ii
ag unrhyw dystiolaeth arall y mae'n rhesymol i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani, ar unrhyw adeg cyn iddo benderfynu'n derfynol ar y cais.
3
Rhaid i ddatganiad statudol i ategu cais gael ei wneud—
d
gan y ceisydd, neu gan un o'r ceiswyr os oes mwy nag un;
dd
gan y person a lofnododd y cais ar ran ceisydd sy'n gorff corfforaethol neu anghorfforaethol; neu
e
gan gyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran y ceisydd.
Y weithdrefn ar ôl i geisiadau ddod i law4
1
Ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—
a
rhoi Rhif adnabod i'r cais a'i farcio â'r Rhif hwnnw; a
b
stampio'r ffurflen gais i nodi'r dyddiad y daeth i law.
2
Rhaid i'r awdurdod cofrestru anfon derbynneb at y ceisydd ar gyfer y cais a honno'n cynnwys datganiad o'r Rhif a roddwyd iddo; ac mae Ffurflen 6, o'i defnyddio at y diben hwnnw, yn ddigonol.
3
Yn y rheoliad hwn, ystyr “Ffurflen 6” yw'r ffurflen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol.
Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau y mae adran 15(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys iddynt5
1
Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—
a
anfon hysbysiad, drwy'r post, ar ffurflen 45 at bob person (heblaw'r ceisydd) y mae gan yr awdurdod cofrestru reswm dros gredu (boed drwy wybodaeth a roddwyd gan y ceisydd neu fel arall) ei fod yn berchennog, prydleswr, tenant neu feddiannwr ar unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn effeithio arno, neu ei fod yn debyg o ddymuno gwrthwynebu'r cais;
b
cyhoeddi yn yr ardal o dan sylw, ac arddangos, yr hysbysiad a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a) ac anfon yr hysbysiad a chopi o'r cais at bob awdurdod o dan sylw; ac
c
gosod yr hysbysiad ar ryw wrthrych amlwg ar unrhyw ran o'r tir sy'n agored, heb ei gau a heb ei feddiannu, oni bai ei bod yn ymddangos i'r awdurdod cofrestru na fyddai gweithredu felly yn rhesymol ymarferol.
2
Rhaid i'r dyddiad sydd i'w fewnosod mewn hysbysiad o dan baragraff (1)(a) yn ddyddiad pryd y mae'n rhaid i ddatganiadau ysgrifenedig i wrthwynebu cais gael eu cyflwyno i'r awdurdod cofrestru ganiatáu cyfnod o nid llai na chwe wythnos ar ôl yr olaf o'r canlynol—
a
y dyddiad y mae'n rhesymol disgwyl i'r hysbysiad gael ei draddodi yng nghwrs arferol y post i'r personau y mae wedi'i anfon atynt o dan baragraff (1)(a); neu
b
y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad a'i arddangos gan yr awdurdod cofrestru.
3
Rhaid i bob awdurdod o dan sylw sy'n cael hysbysiad a chopi o gais o dan y rheoliad hwn—
a
arddangos copïau o'r hysbysiad ar unwaith; a
b
cadw'r copi o'r cais ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol nes i'r awdurdod cofrestru roi gwybod bod y cais wedi'i benderfynu.
4
Pan fo'n ymddangos i'r awdurdod cofrestru ar ôl ystyriaeth ragarweiniol nad yw cais wedi'i wneud yn briodol, caiff yr awdurdod ei wrthod heb gydymffurfio â pharagraff (1), ond, os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gallai unrhyw gam gan y ceisydd adfer y cais i drefn, rhaid i'r awdurdod beidio â gwrthod y cais o dan y paragraff hwn heb roi cyfle rhesymol yn gyntaf i'r ceisydd gymryd y cam hwnnw.
5
Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal o dan sylw” yw ardal sy'n cynnwys ardal pob un o'r awdurdodau o dan sylw.
6
Mae gofyniad i awdurdod cofrestru gyhoeddi hysbysiad mewn unrhyw ardal yn ofyniad iddo beri i'r ddogfen gael ei chyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn ddigonol i sicrhau cyhoeddusrwydd digonol iddo.
7
Mae gofyniad i arddangos hysbysiad neu gopïau o hysbysiadau yn ofyniad i'w drin, at ddibenion adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (hysbysiadau cyhoeddus)5, fel pe bai'n hysbysiad cyhoeddus o fewn ystyr yr adran honno.
Ystyried gwrthwynebiadau6
1
Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, cyn gynted ag y gellir ar ôl y dyddiad pryd y mae'n ofynnol i ddatganiadau sy'n gwrthwynebu cais gael eu cyflwyno, rhaid i'r awdurdod cofrestru fwrw ymlaen i ystyried y cais ymhellach, ac i ystyried y datganiadau (os oes rhai) sy'n gwrthwynebu'r cais hwnnw, yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
2
Mae'r awdurdod cofrestru—
a
yn gorfod ystyried pob datganiad ysgrifenedig sy'n gwrthwynebu cais ac sy'n dod i law cyn y dyddiad y mae'n bwrw ymlaen i ystyried y cais ymhellach o dan baragraff (1); a
b
yn cael ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath sy'n dod i law ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw a chyn iddo benderfynu'n derfynol ar y cais.
3
Rhaid i'r awdurdod cofrestru anfon copi at y ceisydd o bob datganiad y mae'n ofynnol o dan baragraff (2) i'r awdurdod cofrestru ei ystyried ac o bob datganiad y caniateir i'r awdurdod cofrestru ei ystyried ac y mae'n bwriadu ei ystyried.
4
Rhaid i'r awdurdod cofrestru beidio â gwrthod y cais heb roi cyfle rhesymol i'r ceisydd ymdrin-
a
â'r materion a gynhwyswyd mewn unrhyw ddatganiad yr anfonwyd copïau ohono at y ceisydd o dan baragraff (3); a
b
unrhyw fater arall mewn perthynas â'r cais y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn cynnig seiliau posibl dros wrthod y cais.
Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau y mae adran 15(8) o Ddeddf 2006 yn gymwys iddynt7
Pan wneir cais o dan adran 15(8) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, rhaid i'r awdurdod cofrestru ganiatáu'r cais ar yr amod bod yr awdurdod cofrestru wedi'i fodloni—
a
mai'r ceisydd yw perchennog y tir; a
b
bod unrhyw gydsyniadau y mae'n ofynnol eu sicrhau o dan adran 15(9) o Ddeddf 2006 wedi eu sicrhau.
Dull cofrestru8
1
Pan fo'r awdurdod cofrestru yn caniatáu cais, rhaid iddo wneud y gwaith cofrestru angenrheidiol, gan ddilyn mor agos ag y gellir Gofnod Enghreifftiol Rhif 4 gydag unrhyw amrywiadau ac addasiadau y mae eu hangen o dan yr amgylchiadau, ond gan roi yn lle'r geiriau “(Registration provisional.)”, y geiriau “(Registration under section 15 of the Commons Act 2006.)”.
2
Mae darpariaethau paragraffau (2) i (6) o Reoliad Cyffredinol 10 yn gymwys i gofrestru o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i gofrestru yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol gyda'r addasiadau canlynol—
a
ym mharagraff (2), ar ôl y geiriau “Form 2, and”, mewnosoder “, to the extent required,”; a
b
ym mharagraff (5), nid yw'r geiriau “for the Register of Common Land shall bear the prefix CL, and every such number” yn gymwys.
3
Mae darpariaethau rheoliad 9 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Gwrthwynebiadau a Mapiau) 19686 (newidiadau ynglyn â mapiau cofrestru dros dro) yn gymwys at ddibenion adran 15 o Ddeddf 2006 fel y maent yn gymwys at ddibenion adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 19657 gyda'r addasiadau canlynol—
a
nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys;
b
ystyr “new map” yw unrhyw fap a ddefnyddir at ddibenion y rheoliad hwn; ac
c
ym mharagraff (4), yn lle'r geiriau “six inches to one mile”, rhodder “1:2,500”.
4
Rhaid i bob map newydd a ddefnyddir gael ei stampio gan yr awdurdod cofrestru, a'i lofnodi ar ran yr awdurdod cofrestru, ac mae'n ffurfio rhan o'r gofrestr.
5
Pan fo'r tir sy'n destun cais eisoes wedi'i gofrestru yn dir comin yn y gofrestr o dir comin, rhaid i'r awdurdod cofrestru, hefyd,-
a
pan fo hawliau comin wedi'u cofnodi yn y gofrestr honno, wneud cofnod cyfatebol yn y gofrestr o feysydd tref neu bentref; a
b
addasu'r cofnod yn y gofrestr o diroedd comin fel bod y tir sy'n destun y cais yn peidio â chael ei gofrestru mwyach yn dir comin.
6
Pan fo awdurdod cofrestru wedi cofrestru o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo ffeilio'r ffurflen gais ac unrhyw gynllun a dychwelyd pob dogfen arall a gafwyd gyda'r cais i'r ceisydd.
7
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “Cofnod Enghreifftiol Rhif 4” (“Model Entry No.4”) yw'r cofnod enghreifftiol sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rhan I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyffredinol; a
b
mae “cofrestr o diroedd comin” (“register of common land”) a “chofrestr o feysydd tref neu bentref” (“register of town or village greens”) yn cyfeirio at y cofrestrau sy'n cael eu cynnal gan awdurdod cofrestru yn unol ag adran 3 o Ddeddf 19658.
Gwybodaeth am benderfynu ar geisiadau, a'r weithdrefn ar ôl i gais gael ei wrthod9
1
Pan fo'r awdurdod cofrestru wedi penderfynu ar gais ac, os yw wedi caniatáu'r cais, pan yw wedi gwneud y gwaith cofrestru angenrheidiol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ynglyn â'r ffaith—
a
i bob awdurdod o dan sylw;
b
i'r ceisydd; ac
c
i bob person y mae ei gyfeiriad yn hysbys i'r awdurdod cofrestru ac a wrthwynebodd y cais.
2
Rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys, pan fo'r awdurdod cofrestru wedi caniatáu'r cais, fanylion y cofrestru a, pan fo wedi gwrthod y cais, y rhesymau dros ei wrthod.
3
Bernir bod person wedi gwrthwynebu cais at ddibenion paragraff (1) os cyflwynodd y person hwnnw ddatganiad o wrthwynebiad i'r cais y bu'n ofynnol i'r awdurdod cofrestru ei ystyried o dan baragraff (2) o reoliad 6 neu a ystyriodd yr awdurdod cofrestru o dan y paragraff hwnnw.
4
Pan fo'r awdurdod cofrestru wedi gwrthod cais, rhaid iddo ddychwelyd y ffurflen gais a'r holl ddogfennau a gafwyd gyda hi i'r ceisydd.
Disgrifiadau tir10
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgrifiad unrhyw dir sy'n destun cais am gofrestru yn faes tref neu bentref.
2
Rhaid i dir gael ei ddisgrifio at ddibenion unrhyw gais—
a
drwy gyfrwng map Ordnans sy'n cyd-fynd â'r cais ac y cyfeirir ato yn y cais hwnnw; neu
b
yn achos tir sydd eisoes wedi'i gofrestru yn dir comin, os yw'r cais yn ymwneud â'r cyfan o'r tir mewn uned yn y gofrestr, drwy gyfeirio at yr uned honno yn y gofrestr.
3
Rhaid i unrhyw fap Ordnans sy'n cyd-fynd â chais—
a
bod ar raddfa o ddim llai nag 1:2,500;
b
dangos y tir sydd i'w ddisgrifio drwy gyfrwng lliw amlwg; ac
c
cael ei farcio fel arddangosyn i'r datganiad statudol o blaid y cais.
4
Yn y rheoliad hwn, mae i “uned yn y gofrestr” yr un ystyr ag sydd i “register unit” yn y Rheoliadau Cyffredinol.
ATODLENFfurflenni
FFURFLEN 45DEDDF TIROEDD COMIN 2006 — ADRAN 15(1)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)