- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gwnaed
4 Medi 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Medi 2007
Yn dod i rym
1 Hydref 2007
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1966” (“the 1966 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966(3).
2. Mae'r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau 1966 wedi eu dirymu—
(a)rheoliad 32 (chwiliadau swyddogol a thystysgrifau swyddogol);
(b)rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol);
(c)yn Atodlen 1 (ffurflenni), Ffurflen 21 a'r dyblygiad ohoni; ac
(ch)yn Atodlen 3 (ffioedd ar gyfer chwiliadau etc.), yr eitem gyntaf a'r ail eitem yn y tabl.
3. Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu —
(a)Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1982(4);
(b)Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1989(5); ac
(c) Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003(6).
4. Yn rheoliad 34(1) o Reoliadau 1966, yn lle “for searches and official certificates of search, and for certified copies and extracts”, rhodder “ for certified copies and extracts”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu, ar 1 Hydref 2007, y darpariaethau yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) (“Rheoliadau 1966”) sy'n ymwneud â chwiliadau swyddogol o gofrestrau'r tiroedd comin a thystysgrifau chwiliad swyddogol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran Cymru ac maent yn gwneud diwygiad cysylltiedig i'r Rheoliadau hynny.
Bydd modd gwneud chwiliad o gofrestrau'r tiroedd comin yn hytrach drwy'r cwestiwn newydd a ychwanegwyd at Ran II o'r Ffurflen Ymholiadau Atodol i Awdurdod CON 29O ddiwygiedig.
Mae Rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol) o Reoliadau 1966 hefyd wedi ei ddirymu oherwydd nad yw'r trefniadau i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (Y Llyfrfa gynt) gyflenwi'r ffurflenni a bennir yn y rheoliad hwnnw yn parhau.
Cyhoeddwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar effaith y newid yn y trefniadau ar gyfer chwiliadau o gofrestrau'r tiroedd comin ar gyfer Deddf Tiroedd Comin 2006 (p.26). Gellir gweld yr asesiad ar wefan Defra yn www.defra.gov.uk.
O ran Cymru, cafodd swyddogaethau'r Gweinidog eu trosglwyddo i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan Orchymyn y Weinyddiaeth Tir ac Adnoddau Naturiol (Diddymu) 1967 (O.S. 1967/156). Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1965 p.64. Gweler adran 22(1) ar gyfer y diffiniadau o “the Minister” ac o “prescribed”.
O.S. 1966/1471; mae O.S. 1980/1195 (a ddirymwyd gan O.S. 1989/2167), 1982/210, 1989/2167 a 2003/994 (Cy.143) yn offerynnau diwygio perthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: