2007 Rhif 2597 (Cy.220)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt1 gan adran 19(1) o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 19652:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2007.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1966” (“the 1966 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 19663.

Dirymu

2

Mae'r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau 1966 wedi eu dirymu—

a

rheoliad 32 (chwiliadau swyddogol a thystysgrifau swyddogol);

b

rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol);

c

yn Atodlen 1 (ffurflenni), Ffurflen 21 a'r dyblygiad ohoni; ac

ch

yn Atodlen 3 (ffioedd ar gyfer chwiliadau etc.), yr eitem gyntaf a'r ail eitem yn y tabl.

3

Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu —

a

Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 19824;

b

Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 19895; ac

c

Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 20036.

Diwygio Rheoliadau 19664

Yn rheoliad 34(1) o Reoliadau 1966, yn lle “for searches and official certificates of search, and for certified copies and extracts”, rhodder “ for certified copies and extracts”.

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu, ar 1 Hydref 2007, y darpariaethau yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) (“Rheoliadau 1966”) sy'n ymwneud â chwiliadau swyddogol o gofrestrau'r tiroedd comin a thystysgrifau chwiliad swyddogol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran Cymru ac maent yn gwneud diwygiad cysylltiedig i'r Rheoliadau hynny.

Bydd modd gwneud chwiliad o gofrestrau'r tiroedd comin yn hytrach drwy'r cwestiwn newydd a ychwanegwyd at Ran II o'r Ffurflen Ymholiadau Atodol i Awdurdod CON 29O ddiwygiedig.

Mae Rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol) o Reoliadau 1966 hefyd wedi ei ddirymu oherwydd nad yw'r trefniadau i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (Y Llyfrfa gynt) gyflenwi'r ffurflenni a bennir yn y rheoliad hwnnw yn parhau.

Cyhoeddwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar effaith y newid yn y trefniadau ar gyfer chwiliadau o gofrestrau'r tiroedd comin ar gyfer Deddf Tiroedd Comin 2006 (p.26). Gellir gweld yr asesiad ar wefan Defra yn www.defra.gov.uk.