Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2597 (Cy.220)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007

Gwnaed

4 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Medi 2007

Yn dod i rym

1 Hydref 2007

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1966” (“the 1966 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966(3).

Dirymu

2.  Mae'r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau 1966 wedi eu dirymu—

(a)rheoliad 32 (chwiliadau swyddogol a thystysgrifau swyddogol);

(b)rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol);

(c)yn Atodlen 1 (ffurflenni), Ffurflen 21 a'r dyblygiad ohoni; ac

(ch)yn Atodlen 3 (ffioedd ar gyfer chwiliadau etc.), yr eitem gyntaf a'r ail eitem yn y tabl.

3.  Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu —

(a)Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1982(4);

(b)Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1989(5); ac

(c) Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003(6).

Diwygio Rheoliadau 1966

4.  Yn rheoliad 34(1) o Reoliadau 1966, yn lle “for searches and official certificates of search, and for certified copies and extracts”, rhodder “ for certified copies and extracts”.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu, ar 1 Hydref 2007, y darpariaethau yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) (“Rheoliadau 1966”) sy'n ymwneud â chwiliadau swyddogol o gofrestrau'r tiroedd comin a thystysgrifau chwiliad swyddogol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran Cymru ac maent yn gwneud diwygiad cysylltiedig i'r Rheoliadau hynny.

Bydd modd gwneud chwiliad o gofrestrau'r tiroedd comin yn hytrach drwy'r cwestiwn newydd a ychwanegwyd at Ran II o'r Ffurflen Ymholiadau Atodol i Awdurdod CON 29O ddiwygiedig.

Mae Rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol) o Reoliadau 1966 hefyd wedi ei ddirymu oherwydd nad yw'r trefniadau i Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (Y Llyfrfa gynt) gyflenwi'r ffurflenni a bennir yn y rheoliad hwnnw yn parhau.

Cyhoeddwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar effaith y newid yn y trefniadau ar gyfer chwiliadau o gofrestrau'r tiroedd comin ar gyfer Deddf Tiroedd Comin 2006 (p.26). Gellir gweld yr asesiad ar wefan Defra yn www.defra.gov.uk.

(1)

O ran Cymru, cafodd swyddogaethau'r Gweinidog eu trosglwyddo i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan Orchymyn y Weinyddiaeth Tir ac Adnoddau Naturiol (Diddymu) 1967 (O.S. 1967/156). Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

1965 p.64. Gweler adran 22(1) ar gyfer y diffiniadau o “the Minister” ac o “prescribed”.

(3)

O.S. 1966/1471; mae O.S. 1980/1195 (a ddirymwyd gan O.S. 1989/2167), 1982/210, 1989/2167 a 2003/994 (Cy.143) yn offerynnau diwygio perthnasol.