Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gwnaed
14 Medi 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Medi 2007
Yn dod i rym
12 Hydref 2007
1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007 a daw i rym ar 12 Hydref 2007.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 6 (symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir), ym mharagraff (2), yn lle “o'r man cynhyrchu” rhodder “o fewn y Gymuned Ewropeaidd”.
(3) Yn erthygl 15 (tramgwyddau)—
(a)yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1) rhodder-
“(a)yn ddarostyngedig i baragraff (1A), yn mynd yn groes i erthyglau 3, 4, 5(1), 6, 7(1) neu (3), 8(1) neu 11(1) neu'n methu cydymffurfio â hwy;”; a
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Ni fydd paragraff (1)(a) yn gymwys pan fo unrhyw fath o beth yn cael ei lanio ym Mhrydain Fawr yn groes i waharddiad yn y Gorchymyn hwn.”(4)
(4) Yn lle Atodlen 1, rhodder—
Erthyglau 4(a) a 10(1)
Deunydd sy'n dueddol o gael y pla | Gofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla (“y dystysgrif”) |
---|---|
Acer macrophyllum Pursh. Acer pseudoplatanus L. Adiantum aleuticum (Rupr.) Paris Adiantum jordanii C. Muell. Aesculus californica (Spach) Nutt. Aesculus hippocastanum L. Arbutus menziesii Pursch. Arbutus unedo L. Arctostaphylos spp. Adans Calluna vulgaris (L.) Hull Camellia spp. L. Castanea sativa Mill. Fagus sylvatica L. Frangula californica (Eschsch.) Gray Frangula purshiana (DC.) Cooper Fraxinus excelsior L. Griselinia littoralis (Raoul) Hamamelis virginiana L. Heteromeles arbutifolia (Lindley) M. Roemer Kalmia latifolia L. Laurus nobilis L. Leucothoe spp. D. Don Lithocarpus densiflorus (Hook. & Arn.) Rehd. Lonicera hispidula (Lindl.) Dougl. ex Torr. & Gray Magnolia spp. L. Michelia doltsopa Buch.-Ham. ex DC Nothofagus obliqua (Mirbel) Blume Osmanthus heterophyllus (G. Don) P. S. Green Parrotia persica (DC) C.A. Meyer Photinia x fraseri Dress Pieris spp. D. Don Pseudotsuga menziesii (Mirbel) Franco Quercus spp. L. Rhododendron spp. L., other than Rhododendron simsii Planch. Rosa gymnocarpa Nutt. Salix caprea L. Sequoia sempervirens (Lamb. ex D. Don) Endl. Syringa vulgaris L. Taxus spp. L. Trientalis latifolia (Hook) Umbellularia californica (Hook. & Arn.) Nutt. Vaccinium ovatum Pursh Viburnum spp. L.”. | (a)Naill ai— (i)rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni (“y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol”) yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorumyn, ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan “tarddle”; neu (ii)rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol, o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd oPhytophthora ramorum, na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a (b)rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i samplau cynrychioliadol gael eu cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi eu profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaid o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd “additional decleration” y datganiad “tested and found free from non-European isolates of Phytophthora ramorum”. |
(5) Yn ail golofn Atodlen 2—
(a)ym mharagraff (b), yn lle “unwaith” rhodder “ddwywaith”; a
(b)ym mharagraff (c)—
(i)yn is-baragraff (i), ar ôl “ac unrhyw ddeunydd arall sy'n dueddol o gael y pla” mewnosoder “, gan gynnwys cyfryngau tyfu cysylltiedig a gweddillion planhigion,”;
(ii)hepgor “a” yn union ar ôl is-baragraff (ii); a
(iii)ar ddiwedd paragraff (iii) ychwaneger—
“; a
(iv) bod mesurau ffytoiechydol priodol wedi eu cymryd o fewn radiws o ddau fetr o'r fan lle bu planhigion heintiedig yn gorwedd”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Medi 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344) (“y Gorchymyn”) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/201/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/757/EC ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i rwystro dod â Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in 't Veld sp. nov (O.J. Rhif L 90, 30.3.2007, t.83) i'r Gymuned ac i rwystro'i ledaenu o fewn y Gymuned ac i wneud mân newidiadau eraill. Y prif newidiadau a wneir yw—
(a)diwygio'r rhestr o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddi (erthygl 2(4));
(b)cyflwyno gofynion ychwanegol ar symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, yn benodol bod mesurau ffytoiechydol priodol yn cael eu cymryd o fewn radiws o ddau fetr o'r fan lle bu planhigion heintiedig yn gorwedd.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.
1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48).
Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny oedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan OS 1999/672 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32.
Mae adrannau 49 a 50 o Ddeddf Reoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.2) yn darparu yn eu trefn ar gyfer fforffediad nwyddau a fewnforiwyd yn amhriodol ac ar gyfer cosbau am fewnforio nwyddau'n amhriodol.