2007 Rhif 2753 (Cy.232)
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 17(1) a (2), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Hydref 2007.
Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 19952
1
Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 19953 yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
2
Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi)—
a
ym mharagraff (1) mewnosoder ar y dechrau y geiriau “Subject to paragraph (2B),”; a
b
yn syth ar ôl paragraff (2A) ychwaneger y paragraff canlynol—
2B
A person shall not be considered to have contravened or failed to comply with the provisions contained in regulation 2 where the sale which would otherwise have constituted a contravention of or a failure to comply with those provisions is the sale of an infant formula falling within the derogation set out in Article 1 of Commission Regulation (EC) No. 1609/2006 authorising the placing on the market of infant formulae based on hydrolysates of whey protein derived from cows' milk protein for a two-year period4.
Diwygio Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 19973
1
Diwygir Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 19975 yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
2
Yn rheoliad 4 (labelu, hysbysebu a chyflwyno) hepgorer y geiriau “or to a reduction in the sense of hunger or an increase in the sense of satiety”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 20004
1
Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 20006 yn unol â pharagraff (2).
2
Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig7 fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodaeth y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd8 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania9;
Diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 20025
1
Diwygir Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 200210 yn unol â pharagraff (2).
2
Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) yn lle'r geiriau “1 Ionawr 2007” rhodder y geiriau “1 Ionawr 2010”.
Diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 20046
1
Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 200411 yn unol â pharagraff (2).
2
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—
“ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc12;
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)