Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2794 (Cy.234)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2007

Gwnaed

19 Medi 2007

Yn dod i rym

1 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran nau 216(2) a 232(5) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Hydref 2007.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Cyrff sy'n Cael eu Rhestru

2.  Yr holl gyrff hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn dod am y tro o fewn adran 216(3) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yw'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004(3) a Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005(4).

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

19 Medi 2007

Erthygl 2

YR ATODLEN

RHAN ICyrff sy'n Darparu Cyrsiau sy'n Arwain at Radd

Adran 1Yn gyffredinol

Adran 2O ran graddau sylfaen yn unig

RHAN IISefydliadau Prifysgol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru enw pob corff nad yw'n gorff sy'n cael ei gydnabod o fewn adran 216(4) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ond sy'n gorff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod naill ai —

a)yn darparu cwrs sy'n arwain at radd i'w rhoi gan gorff cydnabyddedig o'r fath ac a gymeradwyir gan neu ar ran y corff hwnnw; neu

b)yn un o golegau, ysgolion, neu neuaddau cyfansoddol prifysgol sy'n gorff cydnabyddedig o'r fath neu'n sefydliad arall sy'n perthyn i brifysgol sy'n gorff cydnabyddedig o'r fath.

Ystyr “cyrff cydnabyddedig” yw prifysgolion, colegau neu gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau, a chyrff eraill y mae'r cyrff hynny'n caniatáu iddynt am y tro weithredu ar eu rhan wrth roi graddau.

Mae'r Gorchymyn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff a geir yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3095), fel y'i diwygir gan Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005. Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2004 a Gorchymyn 2005.

Mae Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn rhestru pob un o'r cyrff hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn darparu cyrsiau sy'n arwain at radd, p'un ai'n gyffredinol, fel a restrir yn adran 1, neu mewn cysylltiad â gradd sylfaen yn unig, fel a restrir yn adran 2. Mae Rhan 2 o'r Atodlen yn rhestru pob un o'r cyrff hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn golegau, yn ysgolion, neu'n neuaddau cyfansoddol prifysgol neu'n sefydliadau eraill sy'n perthyn i brifysgol.

Hepgorir o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn nifer o gyrff a restrwyd mewn Gorchmynion blaenorol ond nad ydynt bellach yn darparu cyrsiau a gymeradwyir gan neu ar ran corff cydnabyddedig. Mae'r Atodlen yn cynnwys cyrff na chawsant eu rhestru mewn Gorchmynion blaenorol ond sydd bellach yn darparu cyrsiau a gymeradwyir gan neu ar ran corff cydnabyddedig ac mae'n ymgorffori mân ddiwygiadau eraill a newidiadau i enwau. Mae'r Atodlen yn adlewyrchu'r ffaith bod Prifysgol Cymru o fod yn sefydliad ffederal wedi'i hailstrwythuro'n sefydliad heb fod yn un ffederal, sy'n golygu nad oes ganddi mwyach aelodau cyfansoddol ar y rhestr a geir yn Rhan 2 o'r Atodlen.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.