2007 Rhif 2810 (Cy.237)
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007
Wedi'i wneud
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) and (3) and 42(6) and (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt1, a hwythau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel yr ymddengys iddynt sydd yn briodol yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2007 a daw i rym ar 20 Hydref 2007.
2
Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 20052 fel a ganlyn.
3
1
Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder yn lle'r geiriau “89/48/EEC” y geiriau “2005/36/EC”.
2
Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “y Rheoliadau” (“the Regulations”) rhodder yn lle'r geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005” y geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)