2007 Rhif 2876 (Cy.250)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 25(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 20071:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2007.

Rhestr o dribiwnlysoedd2

Mae'r tribiwnlysoedd a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn dribiwnlysoedd a restrir at ddibenion Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.

Rhodri MorganPrif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENTRIBIWNLYSOEDD A RESTRIR

Tribiwnlys

Deddfwriaeth

Pwyllgorau Cymru.

Adran 27 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p.10)2.

Pwyllgorau Asesu Rhenti yng Nghymru.

Adran 65 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p.42)3.

Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru.

Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41)4.

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu Special Educational Needs Tribunal for Wales

Adran 336ZA o Ddeddf Addysg 1996 (p.56)5.

Dyfarnwyr parcio yng Nghymru.

Adran 73 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40)67.

Panelau apelau derbyn yng Nghymru.

Adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)8.

Tribiwnlys.

Paragraff 10(2) o Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)9.

Tribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim a dynnir o'r panel dyfarnu ar gyfer Cymru.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)10.

Panelau apelau yn erbyn gwaharddiadau.

Paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227)11.

Tribiwnlys.

Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18)12.

Panelau annibynnol yng Nghymru.

Rheoliad 21(1) o Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3366)13.

Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (1992/664).

Adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

Panelau annibynnol yng Nghymru.

Rheoliad 4 o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3100)14.

Panel o ganolwyr meddygol.

Paragraff 3 of Atodiad 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072)15.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 25(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15) (“y Ddeddf”). Mae'n diwygio'r rhestr o “dribiwnlysoedd a restrir” y darperir ar eu cyfer ym mharagraff 25(1) o'r Atodlen honno.

Mae adran 44 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd i ddisodli'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer aelodaeth y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd a'i bwyllgorau. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, megis adolygu'n barhaus faterion yn ymwneud â'r “tribiwnlysoedd a restrir”, eu hystyried ac adrodd arnynt, ac mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch rheolau ar gyfer y tribiwnlysoedd hynny.

Pan ddaeth y Ddeddf i rym y ddau dribiwnlys newydd y darparwyd ar eu cyfer ym mharagraff 25(1) o Atodlen 7 oedd yr unig “dribiwnlysoedd a restrir”, sef y Tribiwnlys Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y “tribiwnlysoedd a restrir” yr holl endidau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn “awdurdod priodol” mewn perthynas â hwy at ddibenion paragraff 25(2) o Atodlen 7 ac y mae'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd mewn perthynas â hwy yn adolygu materion yn barhaus, yn eu hystyried ac yn adrodd arnynt, er mwyn sicrhau bod y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn disodli'n briodol y Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Yn gyffredinol, mae paragraff 27 o Atodlen 7 yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am dribiwnlys os yw swyddogaethau'r tribiwnlys yn arferadwy o ran Cymru, a chan Weinidogion Cymru y mae'r unig bwer naill ai i benodi ei aelodau (neu, yn achos tribiwnlys sy'n arfer swyddogaethau o ran Cymru a mannau eraill, i benodi'r aelodau sy'n arfer swyddogaethau o'r fath o ran Cymru) neu i wneud rheolau gweithdrefnol ar gyfer y tribiwnlys neu i wneud y ddau beth hynny.