Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2876 (Cy.250)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007

Gwnaed

3 Hydref 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Hydref 2007

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2007

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2007.

Rhestr o dribiwnlysoedd

2.  Mae'r tribiwnlysoedd a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn dribiwnlysoedd a restrir at ddibenion Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.

Rhodri Morgan

Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

3 Hydref 2007

YR ATODLENTRIBIWNLYSOEDD A RESTRIR

TribiwnlysDeddfwriaeth
Pwyllgorau Cymru.Adran 27 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p.10)(2).
Pwyllgorau Asesu Rhenti yng Nghymru.Adran 65 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p.42)(3).
Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru.Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41)(4).
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu Special Educational Needs Tribunal for WalesAdran 336ZA o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) (5).
Dyfarnwyr parcio yng Nghymru.Adran 73 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40)(6)(7).
Panelau apelau derbyn yng Nghymru.Adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)(8).
Tribiwnlys.Paragraff 10(2) o Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)(9).
Tribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim a dynnir o'r panel dyfarnu ar gyfer Cymru.Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)(10).
Panelau apelau yn erbyn gwaharddiadau.Paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227)(11).
Tribiwnlys.Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18)(12).
Panelau annibynnol yng Nghymru.Rheoliad 21(1) o Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3366)(13).
Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (1992/664).Adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Panelau annibynnol yng Nghymru.Rheoliad 4 o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3100)(14).
Panel o ganolwyr meddygol.Paragraff 3 of Atodiad 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072)(15).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 25(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15) (“y Ddeddf”). Mae'n diwygio'r rhestr o “dribiwnlysoedd a restrir” y darperir ar eu cyfer ym mharagraff 25(1) o'r Atodlen honno.

Mae adran 44 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd i ddisodli'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer aelodaeth y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd a'i bwyllgorau. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, megis adolygu'n barhaus faterion yn ymwneud â'r “tribiwnlysoedd a restrir”, eu hystyried ac adrodd arnynt, ac mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch rheolau ar gyfer y tribiwnlysoedd hynny.

Pan ddaeth y Ddeddf i rym y ddau dribiwnlys newydd y darparwyd ar eu cyfer ym mharagraff 25(1) o Atodlen 7 oedd yr unig “dribiwnlysoedd a restrir”, sef y Tribiwnlys Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y “tribiwnlysoedd a restrir” yr holl endidau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn “awdurdod priodol” mewn perthynas â hwy at ddibenion paragraff 25(2) o Atodlen 7 ac y mae'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd mewn perthynas â hwy yn adolygu materion yn barhaus, yn eu hystyried ac yn adrodd arnynt, er mwyn sicrhau bod y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn disodli'n briodol y Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Yn gyffredinol, mae paragraff 27 o Atodlen 7 yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am dribiwnlys os yw swyddogaethau'r tribiwnlys yn arferadwy o ran Cymru, a chan Weinidogion Cymru y mae'r unig bwer naill ai i benodi ei aelodau (neu, yn achos tribiwnlys sy'n arfer swyddogaethau o ran Cymru a mannau eraill, i benodi'r aelodau sy'n arfer swyddogaethau o'r fath o ran Cymru) neu i wneud rheolau gweithdrefnol ar gyfer y tribiwnlys neu i wneud y ddau beth hynny.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(5)

Mewnosodwyd adran 336ZA gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 1 a 5. Mae adran 336ZA (1) yn sefydlu Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae adran 336ZA yn darparu bod adrannau 333 i 336 o Ddeddf Addysg 2002 yn gymwys mewn perthynas â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru fel y maent yn gymwys i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, ond fel pe bai swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), fel pe bai cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at y Cynulliad, ac fel pe bai gofyniadau am gydsyniad y Trysorlys wedi eu hepgor. Mae swyddogaethau'r Cynulliad o dan adrannau 333 i 336 (fel y'u haddaswyd gan adran 336ZA(2)) wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(6)

Addaswyd adran 73 a darpariaethau eraill Deddf Traffig Ffyrdd 1991 er mwyn rhoi swyddogaethau gan Orchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Castell-nedd Port Talbot) 1999 (O.S. 1999/1288), Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gaerfyrddin) 2004 (O.S. 2004/104 (Cy.11)) erthygl 4 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ddinbych) 2004 (O.S. 2004/1608 (Cy.167)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeisdref Sirol Conwy) 2006 (O.S. 2006/1791 (Cy.187)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gwynedd) 2007 (O.S. 2007/714 (Cy.62)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4, a Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Ynys Môn) 2007 (O.S. 2007/1043 (Cy.103)) erthygl 5 ac Atodlen 1 paragraff 4 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Mae'r swyddogaethau hynny wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(7)

Diddymir adran 73, a darpariaethau eraill Deddf Traffig Ffyrdd 1991, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 98 ac Atodlen 12, Rhan 1. Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 wedi ei chychwyn yn rhannol o ran Cymru gan Orchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006 (O.S.2006/2826 (Cy.249)), erthygl 2, ond mae Rhan 1 o Atodlen 12 yn dal heb ei chychwyn o ran Cymru.

(8)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (O.S. 1999/672) Erthygl 2 ac Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.38), ac maent wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(9)

Gweler y troednodyn blaenorol.

(10)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(11)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11paragraff 30.

(12)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan Ddeddf Addysg 2005 wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(13)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(14)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Rheoliadau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.

(15)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) o dan y Gorchymyn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), Atodlen 11 paragraff 30.