2007 Rhif 3078 (Cy.265)

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 6(2), (3), (4), (5) a (9)(b) a 114 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 19981 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt2, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2007.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “ardal” (“area”) yw ardal llywodraeth leol yng Nghymru;

  • ystyr “arian partneriaeth” (“partnership monies”) yw arian a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru a'r awdurdodau cyfrifol ar gyfer ei wario yn unol â chyfarwyddiadau'r grwp strategaeth er mwyn cynnal llunio a gweithredu'r asesiad strategol a'r cynllun partneriaeth;

  • ystyr “asesiad strategol” (“strategic assessment”) yw asesiad a gaiff ei baratoi yn unol â rheoliadau 5, 6 a 7;

  • ystyr “awdurdodau cyfrifol” (“responsible authorities”) yw'r awdurdodau cyfrifol dros ardal;

  • ystyr “blwyddyn” (“year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ebrill;

  • ystyr “camddefnyddio sylweddau” (“substance misuse”) yw camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill;

  • ystyr “cynllun partneriaeth” (“partnership plan”) yw cynllun partneriaeth a gaiff ei baratoi o dan reoliadau 8 a 9;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998;

  • ystyr “grŵ p strategaeth” (“strategy group”) yw grŵp a sefydlir yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “personau a chyrff sy'n cydweithredu” (“co-operating persons and bodies”) yw personau a chyrff sy'n cydweithredu wrth arfer swyddogaethau awdurdodau cyfrifol o dan adran 5(2)3 o Ddeddf 1998.

  • ystyr “personau a chyrff sy'n cymryd rhan” (“participating persons and bodies”) yw personau a chyrff a wahoddwyd i gymryd rhan wrth arfer swyddogaethau'r awdurdodau cyfrifol o dan adran 5(3)4 o Ddeddf 1998; ac

  • ystyr “pwyllgor trosedd ac anhrefn” (“crime and disorder committee”) yw pwyllgor a sefydlir yn unol ag adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 20065.

Swyddogaethau o ran llunio a gweithredu strategaeth3

1

Mae grwp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal a'i swyddogaethau fydd —

a

paratoi asesiadau strategol; a

b

paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth;

ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3) aelodau'r grwp strategaeth fydd un neu fwy o bersonau a benodwyd o bob awdurdod cyfrifol y mae'n rhaid i un ohonynt ddal swydd uwch yn yr awdurdod hwnnw.

3

Os bydd gan yr awdurdod cyfrifol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(a) o Ddeddf 1998 aelod etholedig sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol mae'r aelod hwnnw i fod yn un o'r personau a benodir o dan baragraff (2).

4

Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu penodiad cadeirydd, y cyfnod y mae person i wasanaethu fel cadeirydd a'r seiliau y ceir symud cadeirydd o'i swydd yn ystod y cyfnod hwnnw.

5

Rhaid i'r grwp strategaeth gyfarfod o dro i dro drwy gydol y flwyddyn fel y mae'n barnu sy'n briodol.

6

O ran cyfarfodydd y grwp strategaeth caiff personau eu mynychu sy'n cynrychioli personau a chyrff sy'n cydweithredu ac yn cymryd rhan ac unrhyw bersonau eraill y mae'r grwp strategaeth yn eu gwahodd.

7

Ar adeg benodol ym mhob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth ystyried a oes ganddo, a chan y personau hynny yn yr awdurdodau cyfrifol sy'n gweithio gyda'r grwp strategaeth, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

8

Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant yr arian partneriaeth ac er mwyn asesu cynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwariant o'r fath.

Rhannu Gwybodaeth4

1

Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau cyfrifol a rhaid iddo baratoi protocol sy'n nodi'r trefniadau hynny.

2

Rhaid i'r protocol rhannu gwybodaeth ymwneud â rhannu gwybodaeth—

a

o dan adran 17A o Ddeddf 19986;

b

o dan adran 115 o Ddeddf 19987; ac

c

fel arall at ddibenion llunio a gweithredu asesiad strategol a chynllun partneriaeth ar gyfer yr ardal.

3

Rhaid i bob awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r protocol a baratoir o dan baragraff (1) ac enwebu person sydd o fewn yr awdurdod hwnnw i hwyluso rhannu gwybodaeth o dan y protocol.

Asesiad Strategol

5

1

Yn ystod pob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth baratoi asesiad strategol ar ran yr awdurdodau cyfrifol.

2

Diben yr asesiad strategol yw er mwyn cynorthwyo'r grwp strategaeth i adolygu'r cynllun partneriaeth.

6

Wrth baratoi'r asesiad strategol rhaid i'r grwp strategaeth ystyried—

a

gwybodaeth a roddir iddo gan awdurdodau cyfrifol;

b

gwybodaeth a roddir iddo gan bersonau a chyrff sy'n cydweithredu;

c

gwybodaeth a roddir iddo gan bersonau a chyrff sy'n cymryd rhan;

ch

gwybodaeth a roddir iddo gan y pwyllgor trosedd ac anhrefn ar gyfer yr ardal;

d

y cynllun partneriaeth ar gyfer y flwyddyn honno; ac

dd

unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal a roddir i'r awdurdodau cyfrifol gan bersonau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

7

Rhaid i asesiad strategol gynnwys—

a

dadansoddiad o lefelau a phatrymau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal;

b

dadansoddiad o'r newidiadau yn y lefelau a'r patrymau hynny ers yr asesiad strategol blaenorol;

c

dadansoddiad o'r rhesymau paham mae'r newidiadau hynny wedi digwydd;

ch

y materion y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth arfer ei swyddogaethau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal;

d

y materion mae personau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn ystyried y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth arfer ei swyddogaethau i leihau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal; ac

dd

asesiad sy'n dangos i ba raddau y gweithredwyd y cynllun partneriaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Cynlluniau partneriaeth

8

1

Rhaid i'r grwp strategaeth baratoi cynllun partneriaeth ar gyfer yr ardal.

2

Cyn dechrau pob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth adolygu'r cynllun partneriaeth.

3

Pan adolygir y cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth ystyried yr asesiad strategol a luniwyd yn ystod y flwyddyn cyn y flwyddyn y cyfeirir ati ym mharagraff (2).

9

Rhaid i'r cynllun partneriaeth nodi —

a

strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2);

b

y blaenoriaethau a ganfyddwyd yn yr asesiad strategol a baratowyd yn ystod y flwyddyn cyn y flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2);

c

y camau y mae'r grwp strategaeth yn ystyried bod angen i'r awdurdodau cyfrifol eu cymryd i weithredu'r strategaeth honno a bodloni'r blaenoriaethau hynny;

ch

sut y mae'r grwp strategaeth yn ystyried y dylai'r awdurdodau cyfrifol ddyrannu a threfnu eu hadnoddau i weithredu'r strategaeth honno a bodloni'r blaenoriaethau hynny;

d

y camau y mae'n rhaid i bob awdurdod cyfrifol eu cymryd i fesur ei lwyddiant yn gweithredu'r strategaeth a bodloni'r blaenoriaethau hynny; ac

dd

y camau y mae'r grwp strategaeth yn bwriadu eu cymryd yn ystod y flwyddyn i gydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan reoliadau 10, 11 a 12.

Gweithio'n Agos gyda'r Gymuned

10

1

At ddibenion paratoi'r asesiad strategol a pharatoi a gweithredu'r cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth wneud trefniadau i gael barn personau a chyrff sy'n byw a gweithio yn yr ardal ynghylch–

a

y lefelau a'r patrymau o gamddefnyddio sylweddau yn yr ardal; a

b

y materion y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth iddo arfer ei swyddogaethau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal.

2

Rhaid i'r trefniadau o dan baragraff (1), i'r graddau y mae'n rhesymol, ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r canlynol—

a

personau y mae'n ymddangos i'r grwp strategaeth eu bod yn cynrychioli buddiannau cymaint o grwpiau neu bersonau gwahanol yn yr ardal ag sy'n rhesymol; a

b

personau y mae'n ymddangos i'r grwp strategaeth eu bod yn cynrychioli buddiannau'r grwpiau neu'r personau hynny yn yr ardal sy'n debygol yr effeithir arnynt yn benodol wrth weithredu'r cynllun partneriaeth.

3

Wrth wneud y trefniadau o dan baragraff (1) rhaid i'r grwp strategaeth roi sylw i unrhyw ymgynghoriad arall gyda phersonau sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal honno a hwnnw'n ymgynghoriad a gynhelir gan yr awdurdodau cyfrifol o ran y materion a bennir yn is-baragraffau 1(a) a (b) heblaw o dan y Rheoliadau hyn.

4

Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff (1) ddarparu—

a

bod y grwp strategaeth yn cynnal un cyfarfod cyhoeddus neu fwy yn ystod pob blwyddyn;

b

y mynychir y cyfarfodydd hynny gan bersonau sy'n dal swyddi uwch ym mhob un o'r awdurdodau cyfrifol;

c

bod yn rhaid i'r grwp strategaeth gymryd y camau hynny y mae'n barnu sy'n briodol i ddwyn i sylw personau sy'n byw a gweithio yn yr ardal, neu y gallai fel arall fod ganddynt ddiddordeb, wybodaeth ynghylch—

i

pryd y cynhelir y cyfarfodydd hynny; a

ii

yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfodydd hynny.

11

Wrth baratoi'r cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth ystyried i ba raddau y gall personau sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal gynorthwyo'r awdurdodau cyfrifol i leihau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal.

12

Rhaid i'r grwp strategaeth gyhoeddi yn yr ardal grynodeb o'r cynllun partneriaeth ar y ffurf y mae'n ystyried sy'n briodol, gan gofio bod angen ei ddwyn i sylw cymaint o grwpiau neu bersonau gwahanol yn yr ardal ag sy'n rhesymol.

Canllawiau13

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r awdurdodau cyfrifol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru .

Darpariaethau Trosiannol14

1

Hyd nes y bydd adran 19 (craffu gan awdurdod lleol ar faterion trosedd ac anhrefn) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 yn cychwyn bydd rheoliad 6 yn effeithiol fe pe bai paragraff (ch) wedi'i hepgor.

2

Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau 1 Ebrill 2008 yn lle'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adolygu'r cynllun partneriaeth rhodder cyfeiriadau at baratoi'r cynllun partneriaeth.

Brian GibbonsY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 5 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (“Deddf 1998”) yn rhoi i awdurdodau cyhoeddus penodol (“yr awdurdodau cyfrifol”) mewn ardaloedd llywodraeth leol swyddogaethau sy'n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Gyda'i gilydd yr enw ar yr awdurdodau hyn yng Nghymru yw Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (PDCau). Mae adran 6 o Ddeddf 1998 yn gosod rhwymedigaethau ar y PDCau i lunio a gweithredu strategaeth i leihau trosedd ac anhrefn a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach o ran llunio a gweithredu'r strategaeth i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod yn rhaid i'r PDCau ffurfio grwp strategaeth. Rôl y grwp strategaeth fydd paratoi asesiad strategol yn unol â rheoliadau 5 i 7 a pharatoi cynllun partneriaeth yn unol â rheoliadau 8 a 9. Dadansoddiad yw'r asesiad strategol o lefelau a phatrymau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal a'r blaenoriaethau y dylai'r PDCau eu mabwysiadu i fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae'r cynllun partneriaeth yn gosod strategaeth ar gyfer bodloni'r blaenoriaethau hynny a sut y dylai'r PDCau weithredu'r strategaeth honno.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaethau i hwyluso rhannu gwybodaeth yn y PDCau ac i sicrhau bod y PDCau wrth baratoi asesiad strategol a chynllun partneriaeth yn gweithio'n agos gyda'u cymunedau lleol. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth i'r awdurdodau cyfrifol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Cynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Margaret Hanson, Llywodraeth Cynulliad Cymru; ffôn 01685 72 9086; e-bost: Margaret.Hanson@Wales.gsi.gov.uk.