Search Legislation

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 310 (Cy.27)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(2)(a), (f)(ii) a (5), 59(2) a (3), 104(1) a (4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraffau 12, 13 a 14 o Atodlen 2, paragraff 4(1)(a) o Atodlen 4, paragraff 7(1)(a) o Atodlen 5 a pharagraff 10(1)(a) o Atodlen 6 iddi yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007:

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “achos gofal” (“care case”) yw achos pan fo'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, ac mae'n cynnwys gorchymyn gofal dros dro;

ystyr “yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer” (“the area in which the child is ordinarily resident”) yw ardal yr awdurdod lleol lle mae cartref y plentyn;

ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) mewn perthynas â phlentyn sy'n cael ei leoli neu sydd i gael ei leoli gan un awdurdod lleol, yw yr awdurdod lleol y mae'r plentyn i gael ei leoli yn ei ardal;

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—

(a)

mewn perthynas â lleoliad gan awdurdod lleol (gan gynnwys un pan fo'r plentyn yn cael llety a chynhaliaeth mewn cartref gwirfoddol neu gartref preifat i blant), yw yr awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn,

(b)

mewn perthynas â lleoliad gan gorff gwirfoddol o blentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol, y corff gwirfoddol sy'n lleoli'r plentyn, ac

(c)

mewn perthynas â lleoliad mewn cartref preifat i blant o blentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan gorff gwirfoddol, y person sy'n cadw'r cartref;

ystyr “darparydd gofal iechyd” (“health care provider”) yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol, neu yn achos lleoliad yn Lloegr, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, ac yn y naill achos neu'r llall, pan yn briodol ymddiriedolaeth gwasanaeth iechyd gwladol ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad lle mae'r plentyn i gael ei leoli;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref i blant o safle uwch priodol gyda chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol a thros gyd-gysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yn ddarostyngedig i reoliad 14 yw—

(a)

darparu llety a chynhaliaeth gan awdurdod lleol i unrhyw blentyn sy'n derbyn ei ofal drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn adran 23(2)(a), (aa) neu (f) o'r Ddeddf (llety a chynhaliaeth plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol);

(b)

darparu llety i blentyn gan gorff gwirfoddol drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn adran 59(1)(a), (aa) neu (f) o'r Ddeddf (darparu llety gan gyrff gwirfoddol), ac

(c)

darparu llety i blentyn mewn cartref preifat i blant,

(ch)

a rhaid dehongli'r ymadroddion “lleoli” (“place”) ac “wedi'i leoli” (“placed”) yn unol â hynny;

ystyr “nyrs gofrestredig” (“regisrered nurse”) yw person a gofrestrwyd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(2);

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o'r fath asiantaethiau ag a ddichon gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio lleoliad plentyn ac wrth gyfarfod anghenion y plentyn hwnnw yn ystod cyfnod y lleoliad;

ystyr “wedi'i leoli i'w fabwysiadu” (“placed for adoption”) yw wedi'i leoli yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3) neu, os yw'n gymwys, â Deddf Mabwysiadu 1976(4);

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymareferydd meddygol cofrestredig—

(a)

sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(5)

(b)

sy'n ymgymryd â gwasanaethau meddygol personol sy'n gysylltiedig â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Cychwynnol) 1977(6); neu

(c)

sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Rhan II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol 1977, ac eithrio'n unol â'r Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person wedi'i gofrestru'n llawn o fewn ystyr Deddf Feddygol 1983(7).

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

Cymhwyso'r Rheoliadau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i leoliadau—

(a)gan awdurdod lleol ar gyfer unrhyw blentyn;

(b)gan gorff gwirfoddol ar gyfer plentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol;

(c)mewn cartref preifat i blant ar gyfer plentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan gorff gwirfoddol, gan y person sy'n cadw'r cartref.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i leoli plentyn, ac eithrio gan awdurdod lleol neu gorff gwirfoddol mewn ysgol sy'n gartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(8)

(3Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw leoli plentyn i'w fabwysiadu.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwneud trefniadau

4.—(1Cyn lleoli plentyn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, wneud trefniadau ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y lleoliad hwnnw, ac ar gyfer hybu lles y plentyn sydd i'w leoli.

(2Pan na fo'n ymarferol gwneud y trefniadau hynny cyn y lleoli, rhaid i'r awdurdod cyfrifol eu gwneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.

(3Yn achos plentyn y mae adran 20(11) o'r Ddeddf yn gymwys iddo rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod wedi cytuno ar y trefniadau gyda'r plentyn cyn gwneud lleoliad ac os nad yw hynny'n ymarferol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.

(4Mewn unrhyw achos arall pan fo plentyn yn derbyn gofal neu lety ond nad yw mewn gofal rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod wedi cytuno ar y trefniadau—

(a)gyda pherson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; neu

(b)os nad oes y fath berson, gyda'r person sy'n gofalu am y plentyn cyn y lleoli ac os nad yw hynny'n ymarferol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.

(5Rhaid i unrhyw drefniadau a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan y rheoliad hwn gael eu cofnodi yn ysgrifenedig.

Materion i'w hystyried wrth wneud trefniadau a'u cynnwys

5.—(1Yr ystyriaethau y mae'r awdurdod cyfrifol i roi sylw iddynt i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol wrth wneud y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 ym mhob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 1, yr ystyriaethau ynghylch iechyd y plentyn a bennir yn Atodlen 2, yr ystyriaethau ynghylch addysg plentyn a bennir yn Atodlen 3 a'r ystyriaethau ym mharagraff (2) i (5).

(2Pan fo awdurdod cyfrifol yn ystyried lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer rhaid iddo gyfeirio achos y plentyn at banel—

(a)cyn gwneud y lleoliad; neu

(b)pan nad yw'n ymarferol cyfeirio'r achos at banel cyn gwneud y lleoliad, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny a sut bynnag heb fod yn hwyrach na 25 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud.

(3Pan na chyfeirir achos plentyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddo gan yr awdurdod cyfrifol at banel cyn gwneud y lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ddarparu rhesymau ysgrifenedig, wedi'u hardystio gan uwch swyddog yr awdurdod cyfrifol, dros beidio â gwneud hynny.

(4Rhaid i'r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi oni bai ei fod wedi'i fodloni naill ai—

(a)nad oes lleoliad ar gael yn yr ardal honno sy'n gallu diwallu anghenion y plentyn; neu

(b)y byddai lleoliad y tu allan i'r ardal honno yn fwy cydnaws â lles y plentyn nag unrhyw leoliad sydd ar gael o fewn yr ardal honno.

(5Rhaid i unrhyw benderfyniad i leoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'n preswylio ynddi fel arfer, gyda rhesymau drosto, gael ei gofnodi'n ysgrifenedig a bod wedi ei ardystio gan uwch swyddog o'r awdurdod cyfrifol.

(6Rhaid i gofnod ysgrifenedig a wneir yn unol â pharagraff (3) neu (5) fod ar gael ar ffurf addas—

(a)pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, i'r aelod arweiniol dros wasanaethau plant o fewn yr awdurdod hwnnw; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, i uwch swyddog o'r awdurdod lleol dros yr ardal lle mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac i uwch swyddog o'r awdurdod ardal.

(7Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn y tu allan i Gymru rhaid iddo sicrhau, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod yna gydymffurfiaeth â'r gofynion a fuasai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn petai'r plentyn wedi cael ei leoli yng Nghymru.

(8Ac eithrio mewn achos gofal, rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 gynnwys, pan fo hynny'n ymarferol, drefniadau ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 4.

Hysbysiad o drefniadau

6.—(1Rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol ac yn gydnaws â lles y plentyn, hysbysu'r personau a ganlyn yn ysgrifenedig o'r trefniadau i leoli plentyn, cyn gwneud y lleoliad—

(a)unrhyw berson y ceisiwyd arwydd ganddo o'i ddymuniadau a'i deimladau o dan adran 22(4), adran 61(2) neu adran 64(2) o'r Ddeddf (ymgynghori cyn gwneud penderfyniad mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sy'n cael llety gan gorff gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant);

(b)y darparydd gofal iechyd dros yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac, os yw'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'r ardal honno, dros yr ardal y mae'r plentyn i gael ei leoli ynddi;

(c)yr awdurdod addysg lleol dros yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac, os yw'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'r ardal honno, dros yr ardal y mae'r plentyn i gael ei leoli ynddi;

(ch)ymarferydd cyffredinol y plentyn ac, os yw'n briodol, unrhyw ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn i gael ei gofrestru gydag ef wedi i'r lleoliad gael ei wneud;

(d)os yw'n briodol, yr awdurdod ardal;

(dd)unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn yn union cyn bod y trefniadau'n cael eu gwneud;

(e)ac eithrio mewn achos gofal, unrhyw berson sydd â gorchymyn cyswllt mewn grym o'i blaid mewn perthynas â'r plentyn, ac

(f)mewn achos gofal, unrhyw berson sy'n cael cyswllt â'r plentyn yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf (cyswllt â phlentyn mewn gofal gan rieni etc ) neu o dan orchymyn o dan yr adran honno.

(2Pan nad yw'n ymarferol rhoi'r hysbysiad cyn gwneud y lleoliad, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny a sut bynnag dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith o ddyddiad gwneud y lleoliad.

(3Rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon copi o'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 neu o'r rhan honno o'r trefniadau na fydd yn ei farn ef yn rhagfarnu lles y plentyn, gyda'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ond yn achos hysbysiad i'r rheini a bennir ym mharagraff (1)(b) i (f) dim ond manylion o'r rhan honno o'r trefniadau sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol i'r personau hynny wybod amdanynt y mae'n rhaid iddo'u hanfon.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn achos hysbysiad i unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (1)(c) ac (ch), rhaid i'r awdurdod cyfrifol roi i'r person hwnnw neu'r corff hwnnw gopïau o unrhyw adroddiad neu asesiad perthnasol sydd ar gael ar adeg gwneud y lleoliad neu a geir wedi hynny yn ystod y lleoliad.

(5Pan fo plentyn yn cael ei leoli mewn ardal wahanol i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi, pan yn hysbysu'r personau neu'r cyrff hynny a bennir ym mharagraff 1(b) i (ch) o'r trefniadau, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ofyn ar yr un pryd i'r personau neu'r cyrff a bennir felly pan fo'n gymwys, geisio trosglwyddiad cofnodion cyn i'r lleoliad gael ei wneud, neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.

(6Rhaid i'r awdurdod cyfrifol barhau i adolygu unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (5) hyd nes ei fod wedi'i fodloni bod trosglwyddo'r cofnodion—

(a)naill ai wedi digwydd; neu

(b)nad oes angen iddo ddigwydd bellach.

Trefniadau ar gyfer cyswllt

7.  Wrth weithredu'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 o Atodlen 4, rhaid i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant ymdrechu i hybu cyswllt rhwng y plentyn a'r personau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, oni bai bod gwneud hynny yn anymarferol yn rhesymol neu'n anghydnaws â lles y plentyn.

Gofal ac asesiadau iechyd

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), rhaid i awdurdod cyfrifol —

(a)cyn gwneud lleoliad neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud, drefnu i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig gynnal asesiad, a gaiff gynnwys archwiliad corfforol, o gyflwr iechyd y plentyn;

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (a) sy'n cynnal asesiad i baratoi adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad sy'n trafod y materion a restrir yn Atodlen 2, gan gyfeirio'n benodol at gyflwr iechyd meddwl y plentyn;

(c)sicrhau bod copi o unrhyw adroddiad sy'n cael ei baratoi yn unol ag is-baragraff (b) ac unrhyw adroddiad o asesiad sy'n cael ei baratoi o dan y rheoliad hwn yn ystod y lleoliad, yn cael ei anfon ymlaen i'r personau a bennir ym mharagraff (1)(ch) o reoliad (6), pan fônt yn wahanol i'r personau a bennir yn is-baragraff (a); ac

(ch)o ystyried y materion a restrir yn Atodlen 2 ac, oni bai bod paragraff (6) yn gymwys, unrhyw adroddiadau o asesiadau, paratoi cynllun ar gyfer gofal iechyd y plentyn yn y dyfodol os nad oes un eisoes yn bod.

(2Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau fod pob plentyn yn ystod y lleoliad yn cael—

(a)gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol ac iechyd meddwl; a

(b)cyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd yn unol ag anghenion y plentyn.

(3Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau fod y plentyn—

(a)wedi ei gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol a pha un bynnag heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud; a

(b)wedi ei osod dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig cyn gynted ag y bo'n ymarferol a pha un bynnag heb fod yn hwyrach na 20 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud.

(4Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, fod plentyn yn parhau i fod wedi'i gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig drwy gydol y lleoliad.

(5Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw iechyd y plentyn wedi cael ei asesu o fewn y cyfnod o dri mis yn union cyn y lleoliad a bod adroddiad o'r asesiad wedi cael ei baratoi yn unol â'r paragraff hwnnw.

(6Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (1) yn gymwys os yw'r plentyn, ac yntau a'i ddealltwriaeth yn ddigonol iddo wneud hynny, yn gwrthod cydsynio â'r asesiad.

(7Os cafodd plentyn ei leoli cyn 1 Gorffennaf 2007, ac y byddai'r rheoliad hwn fel arall yn gymwys iddo, ac na wnaed asesiad o iechyd y plentyn, neu os na chafodd y plentyn ei gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol neu ei osod dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae'r rheoliad hwn yn gymwys megis petai'r lleoliad wedi ei wneud ar 1 Gorffennaf 2007.

Sefydlu cofnodion

9.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol sefydlu, a chynnal cofnod achos ysgrifenedig mewn perthynas â phob plentyn y mae yn ei leoli.

(2Rhaid i'r cofnod gynnwys—

(a)copi o'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4;

(b)copi o unrhyw adroddiad ysgrifenedig sy'n eu meddiant ynghylch lles y plentyn;

(c)copi o unrhyw ddogfen a ystyriwyd neu o unrhyw gofnod a sefydlwyd yn ystod neu o ganlyniad i adolygiad o achos y plentyn;

(ch)manylion o drefniadau ar gyfer cyswllt, o orchmynion cyswllt ac o orchmynion llys eraill yn ymwneud â'r plentyn;

(d)manylion o unrhyw drefniadau lle gweithredir person arall ar ran yr awdurdod lleol neu'r sefydliad a leolodd y plentyn; ac

(dd)rhesymau ysgrifenedig a ddarperir yn unol â pharagraff (3) neu baragraff (5) o reoliad 5.

Cadwraeth cofnodion a'u cyfrinachedd

10.—(1Rhaid i gofnod achos sy'n ymwneud â phlentyn a leolir gael ei gadw gan yr awdurdod cyfrifol hyd bymthegfed blwyddiant a thrigain dyddiad geni'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef neu, os bydd farw'r plentyn cyn cyrraedd 18 mlwydd oed, am gyfnod o 15 mlynedd sy'n dechrau gyda dyddiad ei farwolaeth.

(2Cydymffurfir â gofynion paragraff (1) naill ai drwy ddal gafael ar y cofnod ysgrifenedig gwreiddiol, neu ar gopi ohono, neu drwy gadw'r holl wybodaeth o gofnod o'r fath mewn rhyw ffurf arall y gellir cael ato (megis drwy gyfrifiadur).

(3Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ynddynt yn cael ei drin yn gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i—

(a)unrhyw ddarpariaeth a wneir o fewn statud neu oddi tani neu yn ei rhinwedd y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath;

(b)unrhyw orchymyn llys y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath;

Y Gofrestr

11.—(1Rhaid i awdurdod lleol, mewn perthynas â phob plentyn a leolir yn ardal yr awdurdod hwnnw (ganddo ef ei hun a chan unrhyw awdurdod cyfrifol arall) ac mewn perthynas â phob plentyn a leolir ganddo ef ei hun y tu allan i'w ardal, gofnodi mewn cofrestr sydd i'w chadw at y diben hwnnw—

(a)y manylion a bennir ym mharagraff (3), a

(b)y rheini o'r manylion a bennir ym mharagraff (4) a ddichon fod yn briodol.

(2Rhaid i gorff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, mewn perthynas â phob plentyn a leolir ganddynt, gofnodi mewn cofrestr sydd i'w chadw at y diben hwnnw—

(a)y manylion a bennir ym mharagraff (3), a

(b)y rheini o'r manylion a bennir ym mharagraff (4) a ddichon fod yn briodol.

(3Dyma'r manylion sydd i'w cofnodi yn y gofrestr yn unol â pharagraffau (1) neu (2)—

(a)enw, rhyw, dyddiad geni, Rhif gwasanaeth iechyd gwladol ac, os yw'n briodol, Rhif adnabod y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y plentyn;

(b)enw a chyfeiriad y person neu'r cartref i blant y lleolir y plentyn gydag ef ynddo ac, os yw'n wahanol, enw a chyfeiriad y rheini o rieni'r plentyn neu berson arall nad yw'n rhiant iddo sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto;

(c)pan fo plentyn yn cael ei leoli mewn cartref i blant, enw gweithiwr dolen gyswllt y plentyn;

(ch)yn achos plentyn a leolir ar ran awdurdod lleol gan gorff gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant, enw'r awdurdod;

(d)a yw enw'r plentyn wedi ei gofnodi yn unrhyw gofrestr awdurdod lleol fel arwydd fod y plentyn mewn perygl o gael ei gamdrin;

(dd)a yw enw'r plentyn wedi ei gofnodi yn y gofrestr a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf (cofrestr plant anabl);

(e)y dyddiad pan ddechreuodd a'r dyddiad pan orffennodd lleoliad y plentyn a'r rheswm dros orffen pob un;

(f)mewn achos gofal enw'r awdurdod lleol y mae'r plentyn dan ei ofal;

(ff)dan ba ddarpariaethau cyfreithiol y mae'r plentyn yn derbyn gofal neu y gofelir amdano.

(4Dyma'r manylion ychwanegol sydd i'w cofnodi yn y gofrestr, os yn briodol yn unol â pharagraffau (1) neu (2)—

(a)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gan awdurdod lleol y gwnaed trefniadau mewn perthynas ag ef i'r awdurdod ardal gyflawni swyddogaethau yn unol â rheoliad 13, nodyn fod y trefniadau wedi'u gwneud ac enw'r awdurdod lleol arall y gwnaethpwyd hwy gydag ef; a

(b)yn achos plentyn sydd wedi ei leoli, y gwnaed trefniadau mewn perthynas ag ef i oruchwyliaeth o'r lleoliad gael ei wneud ar ran awdurdod cyfrifol (ac eithrio yn unol â rheoliad 13), nodyn fod y trefniadau wedi'u gwneud ac enw'r person y gwnaethpwyd hwy gydag ef.

(5Rhaid dal gafael ar gofnodion mewn cofrestri a gedwir yn unol â'r rheoliad hon nes bydd y plentyn y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef yn cyrraedd 25 mlwydd oed neu, os bydd farw'r plentyn cyn cyrraedd 25 mlwydd oed, am gyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau gyda dyddiad ei farwolaeth.

(6Cydymffurfir â gofynion paragraff (1) naill ai drwy ddal gafael ar y cofnod ysgrifenedig gwreiddiol, neu ar gopi ohono, neu drwy gadw'r holl wybodaeth o gofnod o'r fath mewn rhyw ffurf arall y gellir cael ato (megis drwy gyfrifiadur).

(7Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau bod cofnodion a gedwir yn unol â'r rheoliad hwn yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ynddynt yn cael ei drin fel petai'n gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i—

(a)unrhyw ddarpariaeth a wneir o fewn statud neu oddi tani neu yn ei rhinwedd y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath.

(b)unrhyw orchymyn llys y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath;

Cael at gofnodion a'r gofrestr gan swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru a swyddogion y gwasanaeth

12.  Rhaid i bob corff gwirfoddol, pan nad yw'n gweithredu fel person awdurdodedig, a phob person sy'n cadw cartref preifat i blant ddarparu i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu i swyddog o'r gwasanaeth —

(a)ffordd o gael at yr hyn sy'n ofynnol ganddo—

(i)mewn cofnodion achos a chofrestri a gynhelir yn unol â'r Rheoliadau hyn; a

(ii)o'r wybodaeth o gofnodion neu gofrestri o'r fath ym mha ddull bynnag y'i cedwir (megis drwy gyfrifiadur);

(b)y fath gopïau ag sy'n ofynnol ganddo o'r cofnodion neu o'r hyn a gofnodwyd yn y cofrestri.

Trefniadau rhwng awdurdodau lleol ac awdurdodau ardal

13.  Pan fo awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo yn gwneud trefniadau gydag awdurdod ardal i'r awdurdod ardal gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r lleoliad ar ran yr awdurdod lleol—

(a)rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r awdurdod ardal bob gwybodaeth sydd ei angen arno i alluogi'r awdurdod ardal i gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ran yr awdurdod lleol;

(b)rhaid i'r awdurdod ardal barhau i hysbysu'r awdurdod lleol o gynnydd y plentyn ac, yn benodol, rhaid iddo roi adroddiadau i'r awdurdod lleol ar ôl pob ymweliad â'r cartref y mae'r plentyn wedi ei leoli ynddo ac ar ôl pob adolygiad o achos y plentyn a wneir gan yr awdurdod ardal ar ran yr awdurdod lleol;

(c)rhaid i'r awdurdod lleol a'r awdurdod ardal ymgynghori â'i gilydd o dro i dro yn ôl y gofyn, a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl pob adolygiad o'r fath o achos y plentyn, gyda golwg ar beth sy'n ofynnol i'w wneud mewn perthynas ag ef.

Cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli plentyn mewn cyfres o leoliadau tymor byr yn yr un lle ac mae'r trefniant yn gyfryw ag nad oes unrhyw leoliad unigol i barhau am fwy na 4 wythnos ac nad yw cyfanswm y lleoliadau i fod i barhau am fwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(2Gellir trin unrhyw gyfres o leoliadau tymor byr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt fel lleoliad unigol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dirymu Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991

15.  Dirymir Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991(9) o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 1MATERION Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED

1.  Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ddod a'r gorchymyn gofal i ben.

2.  Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol a ddylai'r awdurdod geisio newid yn statws cyfreithiol y plentyn.

3.  Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes unrhyw angen am newidiadau yn y trefniadau er mwyn hybu cysylltiad â theulu'r plentyn ac eraill i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â'i les.

4.  Trefniadau'r awdurdod cyfrifol ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y plentyn, trefniadau blaenorol mewn perthynas â'r plentyn, ac a oes angen newid yn y trefniadau hynny ac ystyried dulliau amgen o weithredu.

5.  Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.

6.  A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr adeg pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.

7.  A oes angen gwneud cynlluniau i ganfod teulu amgen parhaol i'r plentyn.

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 2MATERION IECHYD Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED

1.  Cyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

2.  Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.

3.  Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.

4.  Unrhyw angen sydd gan y plentyn am wasanaethau iechyd meddwl.

5.  Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn a'i goruchwyliaeth iechyd gan gyfeirio'n benodol at wasanaethau iechyd meddwl.

6.  Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath.

7.  Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneuol ac ar faterion gofal personol ac hybu iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.

8.  O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â'r materion a osodir ym mharagraffau 1 i 7 gan gynnwys yr adroddiadau o unrhyw asesiadau, a fydd anghenion iechyd y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 3MATERION ADDYSGOL Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED.

1.  Hanes addysgol y plentyn.

2.  Yr angen i sicrhau dilyniant yn addysg y plentyn a hybu cyrhaeddiad addysgol y plentyn.

3.  Yr angen i ddynodi unrhyw angen addysgol a eill fod gan y plentyn ac i weithredu i ddiwallu'r angen hwnnw.

4.  Yr angen i wneud unrhyw asesiad mewn perthynas ag unrhyw angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996(11) ac i ddiwallu unrhyw anghenion o'r fath a ddynodir mewn datganiad anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o'r Ddeddf honno.

5.  O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ym mharagraffau 1 i 4 o'r Atodlen hon, a fydd anghenion addysgol y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.

Rheoliad 5(8)

ATODLEN 4MATERION SYDD I'W CYNNWYS MEWN TREFNIADAU I LETYA PLANT NAD YDYNT MEWN GOFAL

1.  Y math o lety sydd i'w ddarparu a'i gyfeiriad ynghyd ag enw unrhyw berson fydd yn gyfrifol am y plentyn yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol.

2.  Manylion unrhyw wasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y plentyn.

3.  Cyfrifoldebau penodol yr awdurdod cyfrifol ac—

(a)y plentyn;

(b)unrhyw riant sydd ganddo; ac

(c)unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto.

4.  Pa ddirprwyo a fu gan y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (c) o'r Atodlen hon i'r awdurdod cyfrifol o gyfrifoldeb rhiant dros ofal y plentyn o ddydd i ddydd.

5.  Y trefniadau ar gyfer rhoi rhan i'r personau hynny a'r plentyn mewn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r plentyn o ystyried—

(a)dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adrannau 20(6) (rhoi rhan i blant cyn darparu llety) a 22(3) i (5) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ganddo);

(b)dyletswydd y corff gwirfoddol o dan adran 61(1) a (2) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyrff gwirfoddol); ac

(c)dyletswydd y person sy'n cadw cartref cofrestredig i blant o dan adran 64(1) a (2) o'r Ddeddf (lles plant mewn cartrefi cofrestredig i blant).

6.  Y trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn ac—

(a)ei rieni;

(b)unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto. ac

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall cysylltiedig ag ef,

ac os yn briodol, y rhesymau pam na fyddai cyswllt gydag unrhyw berson o'r fath yn rhesymol ymarferol neu pam y byddai'n anghydnaws â lles y plentyn.

7.  Y trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o newid mewn trefniadau ar gyfer cyswllt i unrhyw un o'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.

8.  Yn achos plentyn 16 mlwydd oed neu fwy a yw adran 20(11) o'r Ddeddf (lletya plentyn 16 mlwydd oed neu fwy er gwaethaf gwrthwynebiad gan riant) yn gymwys.

9.  Y cyfnod y disgwylir i'r trefniadau barhau a'r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu'r plentyn gyda'r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau gwirfoddol, neu gyda rhyw berson addas arall, gan ystyried yn benodol, yn achos awdurdod lleol sydd â phlentyn yn derbyn gofal ganddo, adran 23(6) o'r Ddeddf (dyletswydd i leoli plant pan fo'n ymarferol gyda rhieni etc.) a pharagraff 15 o Atodlen 2 o'r Ddeddf (cynnal cyswllt rhwng y plentyn a'i deulu).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i leoli plant gan awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a phersonau sy'n cadw cartrefi preifat i blant yng Nghymru. Caiff y lleoliadau fod gyda rhieni maeth, mewn cartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol i blant neu gartrefi preifat i blant ac o dan drefniadau eraill (ond nid mewn cartref a ddarperir yn unol â threfniadau a wneir gan y Cynulliad o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989).

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i letya a chynnal plant, i hybu eu lles ac i gynllunio lleoliadau.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion i'w hystyried gan awdurdod cyfrifol pan fydd yn gwneud trefniadau i leoli plentyn, gan gynnwys y gweithdrefnau i'w dilyn pan fo lleoliad y tu allan i'r ardal lle y mae plentyn fel arfer yn byw yn cael ei ystyried. Mae'r rheoliad hefyd ym rhoi awdurdod cyfrifol o dan ddyletswydd i wneud cofnod ysgrifenedig o'r rhesymau dros y camau a gymerir ganddo o dan y rheoliad.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod yr awdurdod cyfrifol yn hysbysu pobl benodol o'r trefniadau ar gyfer lleoli plentyn, ac mae'n pennu cyfnod o amser y mae'n rhaid gwneud yr hysbysiad oddi mewn iddo, ynghyd â gofyniad bod yn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, pan fo hynny'n briodol, ofyn i gyrff penodol i roi'r gwaith o drosglwyddo cofnodion perthnasol ar droed.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwirfoddol a'r personau hynny sy'n cadw cartrefi preifat i blant hybu cyswllt rhwng plentyn a phobl benodol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer asesu iechyd plentyn, ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn ystod cyfnod y lleoliad ac ar gyfer cofrestru'r plentyn gyda meddyg teulu a deintydd.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyfrifol gadw cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer pob plentyn y mae'n ei leoli, ac yn darparu ar gyfer y math o wybodaeth i'w chadw yn y cofnod hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer faint o amser y mae'n rhaid cadw cofnod achos ac ar gyfer diogelwch a chyfrinachedd y cofnodion hynny.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, corff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, gadw cofrestr yn cynnwys manylion yr holl blant a leolir ganddynt.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant, ddarparu bod swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddogion y gwasanaeth yn cael gweld cofnodion.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer y trefniadau sydd i'w gwneud rhwng awdurdod lleol ac awdurdod ardal, pan fydd awdurdod lleol yn trefnu i'r awdurdod ardal gyflawni rhai o'i swyddogaethau mewn cysylltiad â phlentyn sydd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr.

Mae rheoliad 15 yn dirymu Rheoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 o ran Cymru.

(1)

1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. O ran Cymru, trosglwyddir y swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a'r cofnod ar gyfer Deddf 1989 yn Atodlen 1 iddo ac adran 145 (1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

(2)

Sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 O.S. 2002/253 a daeth i rym ar 12 Chwefror 2002.

(9)

1991 O.S. 1991/890.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources