2007 Rhif 3174 (Cy.279) (C.130)
Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007
Gwnaed
RHAN 1CYFFREDINIOL
Enwi a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.
2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 19913; a
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
Cychwyn darpariaethau2
Mae darpariaethau Deddf 2004 a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn dod i rym o ran Cymru ar y dyddiad a bennir yng ngholofn 2 at y diben a bennir ynglyn â'r dyddiad hwnnw yng ngholofn 3.
RHAN 2DARPARIAETHAU TROSIANNOL
Tramgwyddau cosbau penodedig3
Ni fydd adran 95A(1) o Ddeddf 1991 (cosbau penodedig o dan Ran 3) ac Atodlen 4A iddi yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnwyd cyn 12 Mai 2008.
Cynnydd yn uchafswm dirwyon ar gyfer tramgwyddau diannod penodol4
Ni fydd y cynnydd mewn cosbau y rhoddir effaith iddynt wrth ddwyn i rym adran 40 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 1 iddi yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnir cyn 26 Tachwedd 2007.
Cyfarwyddiadau o ran amseru gwaith stryd a gosod cyfarpar5
Nid yw adran 56(1A) o Ddeddf 1991 (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran amseru gwaith stryd) ac adran 56A(1) o'r Ddeddf honno (pwer i roi cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) yn gymwys ar gyfer gwaith stryd y mae hysbysiad wedi cael ei roi ar ei gyfer o dan adran 54(1) (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol) neu adran 55(1) o'r Ddeddf honno (hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith) cyn 1 Ebrill 2008.
Hysbysiadau o waith stryd6
1
Nid yw'r diwygiad i adran 54(3) o Ddeddf 1991 gan adran 49(1)(a) o Ddeddf 2004 (hysbysiadau o waith stryd) yn gymwys i hysbysiadau a roddwyd o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.
2
Nid yw adran 54(4A) o Ddeddf 1991 yn gymwys ynglyn â gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ymlaen llaw yn ei gylch o dan adran 54(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.
3
Pan roddir hysbysiad ymlaen llaw o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 sy'n pennu dyddiad dechrau ar gyfer y gwaith arfaethedig cyn 1 Ebrill 2008, nid yw adran 54(4B) o'r Ddeddf honno'n gymwys ond, os na ddechreuir yn sylweddol ar y gwaith hwnnw cyn 22 Ebrill 2008, bydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol o ran y gwaith arfaethedig ac felly bydd adran 54(1) yn gymwys unwaith eto iddo.
4
Nid yw adran 55(8) a (9) o Ddeddf 1991 yn gymwys o ran gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ar ei gyfer o dan naill ai adran 54(1) neu adran 55(1) o'r Ddeddf honno cyn 1 Ebrill 2008.
5
Os rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o dan adran 54(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008 sy'n pennu dyddiad dechrau ar ôl 30 Mehefin 2008, bydd yr hysbysiad hwnnw'n peidio â bod yn effeithiol ar 1 Ebrill 2008 a bydd adran 54(1) yn gymwys unwaith eto o ran y gwaith arfaethedig.
Cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol7
Ni fydd y diwygiadau i adran 58 o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) gan adran 51 o Ddeddf 2004 yn gymwys o ran unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 58(1) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.
Cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol8
Nid yw adran 58A o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol) ac Atodlen 3 iddi yn gymwys ond pan fydd hysbysiad o dan adran 54 neu 55 o'r Ddeddf honno'n dod i law awdurdod stryd, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, bod yr ymgymerwyr yn bwriadu gwneud gwaith stryd sylweddol ar briffordd.
Dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer9
Nid yw'r diwygiadau i adran 70 o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) gan adran 54 o Ddeddf 2004 (dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer) yn gymwys o ran gwaith stryd y rhoddwyd hysbysiad ar ei gyfer o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 (hysbysiad o waith brys) o Ddeddf 1991 cyn 1 Ebrill 2008.
YR ATODLEN
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Adrannau 32 i 39 (cynlluniau caniatáu) | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
Adran 40(1) a (2) ac yn unol â hynny Atodlen 1 | 26 Tachwedd 2007 | At bob diben |
Adran 40(3) ac eithrio'r geiriau “or (4A)” yn y paragraff (a) a amnewidiwyd o adran 70(6) o Ddeddf 1991 | 26 Tachwedd 2007 | Cynnydd mewn cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod o dan Ddeddf 1991 |
Adran 40(3) | 1 Ebrill 2008 | At ddibenion mewnosod y geiriau “or (4A)” yn y paragraff (a) a amnewidiwyd o adran 70(6) o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) |
Adran 40(4) a (5) | 26 Tachwedd 2007 | At bob diben |
Adran 41(1) a (3) (tramgwyddau cosbau penodedig) ac yn unol â hynny Atodlen 3 | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i wneud gorchmynion o dan adran 95A o Ddeddf 1991 a rheoliadau o dan baragraffau 2,4(1), 5(2), 8 a 9 o Atodlen 4B iddi |
Adran 41(1), (2) a (3) ac yn unol â hynny Atodlenni 2 a 3 | 12 Mai 2008 | At bob diben arall |
Adran 42 (dyletswydd awdurdod stryd i gyd-drefnu gwaith) | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan adran 59(7)(c) o Ddeddf 1991 (dyletswydd gyffredinol awdurdod stryd i gyd-drefnu gwaith. |
Adran 43(1),(2) a (4) | 26 Tachwedd 2007 | At bob diben |
Adran 43(3) (cyfarwyddiadau ynghylch amseru gwaith stryd) | 1 Ebrill 2008 | At bob diben |
Adran 44 (cyfarwyddiadau o ran gosod cyfarpar) | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i:
|
Adran 44 | 1 Ebrill 2008 | At bob diben arall |
Adran 49 (hysbysiadau o waith stryd) | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan:
|
Adran 49 | 1 Ebrill 2008 | At bob diben arall |
Adran 51(1), (2), (3), (5), (7), (8) a (9) (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith ffordd sylweddol) | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau yn rhinwedd:
|
Adran 51(1), (2), (3), (5), (7),(8) a (9) | 1 Ebrill 2008 | At bob diben arall |
Adran 51(4) | 26 Tachwedd 2007 | At bob diben |
Adran 51(6) | 1 Ebrill 2008 | At bob diben |
Adran 52(1), (2), (4) a (5) ac yn unol â hynny Atodlen 4 (cyfyngu ar waith yn dilyn gwaith stryd sylweddol) | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau yn rhinwedd:
|
Adran 52(1), (2), (4) a (5) ac yn unol â hynny Atodlen 4 | 1 Ebrill 2008 | At bob diben arall |
Adran 52(3), (6) a (7) | 1 Ebrill 2008 | At bob diben |
Adran 54 (dyletswydd i hysbysu awdurdod stryd o adfer) | 26 Tachwedd 2007 | Er mwyn rhoi pwer i wneud rheoliadau o dan adran 70(3)(b), (4A) a (4B) o Ddeddf 1991 (dyletswydd ymgymerwr i adfer) |
Adran 54 | 1 Ebrill 2008 | At bob diben arall |
Adran 71 (dyroddi canllawiau i awdurdodau priffyrdd lleol o ran rhagofalon diogelwch) | 26 Tachwedd 2007 | At bob diben |
Adran 98 i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 12 | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
Atodlen 7, Rhan 1, paragraffau 1,4 a 5(1) a (3), Rhan 2 a Rhan 4 ac eithrio 8(3) | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
Atodlen 8, Rhan 2, ac eithrio 8(2)(a), (c), (d) ac (e) a 10(3)(a), (c), (d) ac (e) | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
Atodlen 9, Rhan I a Rhan 3 | 26 Tachwedd 2007 | At bob diben |
Atodlen 10, paragraff 3, ac eithrio 3(3)(a), (c), (d) ac (e) | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
Atodlen 11, ac eithrio paragraffau 6 a 7 | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
Atodlen 12, Rhan 1 | 31 Mawrth 2008 | At bob diben |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)