2007 Rhif 3423 (Cy.304)
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r cyngor ar gyfer y brif ardal y mae rhan ohoni'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chan arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 19951 a pharagraffau 1(2) a 2(3) o Atodlen 7 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy 2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru)19953.
Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 19953
1
Diwygir y prif Orchymyn yn unol â'r paragraffau canlynol.
2
Yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle—
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members
10
Secretary of State members
5
Total number of members
15
rhodder
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members
12
Members appointed by the Welsh Ministers
6
Total number of members
18
3
Yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle “Pembrokeshire County Council 10” rhodder “Pembrokeshire County Council 12”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)