Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3423 (Cy.304)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

4 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2007

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru)1995(3).

Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995

3.—(1Diwygir y prif Orchymyn yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle—

Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members10
Secretary of State members5
Total number of members15

(3Yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle “Pembrokeshire County Council 10” rhodder “Pembrokeshire County Council 12”.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Rhagfyr 2007, yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (y prif Orchymyn).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau I a II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn fel bod nifer aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn codi o 15 i 18. Cyfanswm nifer yr aelodau yw 12 o aelodau awdurdod lleol a 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1995 p.25. Gweler adran 79(1) am y diffiniad o 'prif ardal'.

(2)

Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a pharagraffau 1(2) a 2(3) o Atodlen 7 iddi, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.