2007 Rhif 374 (Cy.34)

CYFRAITH GYFANSODDIADOL
DATGANOLI, CYMRU

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵ er a roddwyd iddo gan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 a daw i rym ar 14 Chwefror 2007.

Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 20062

Dyddiad y cyfarfod cyntaf o'r Cynulliad sydd wedi ei gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar ôl etholiad 2007 fydd 9 Mai 2007.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir o dan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), yn darparu mai'r dyddiad penodedig ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei gyfansoddi yn ôl y Ddeddf honno yw 9 Mai 2007.