Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 571 (Cy.49)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

27 Chwefror 2007

Yn dod i rym

28 Chwefror 2007

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)

2.  Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

(a)yn is-adran (3)(a)(3), y geiriau “or relevant special grant” wedi'u hepgor; a

(b)ar ôl is-adran (12), yr is-adran ganlynol wedi'i mewnosod(4)

(12A) In this section and section 33 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2007—2008 (Final Settlement — Councils) published by the National Assembly for Wales pursuant to section 84G(4) of the Local Government Finance Act 1988(5) on 21 December 2006; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report..

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)

3.  Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi'u hepgor(6).

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)

4.  Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—

(a)yn is-adran (3)(a)(i)(7)

(i)y geiriau “relevant special grant” wedi'u hepgor; a

(ii)y geiriau “floor funding” wedi'u mewnosod o flaen “or police grant;” a

(b)ar ôl is-adran (6D) yr is-adrannau a ganlyn wedi'u mewnosod(8)

(6E) In this section and section 44 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2007—2008 (Final Settlement — Police Authorities) published by the National Assembly for Wales pursuant to section 84G(4) of the Local Government Finance Act 1988 on 30 January 2007; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.

(6F) In this section and section 44 below “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C)..

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (prif awdurdodau praeseptio)

5.  Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992(9) yn effeithiol fel pe bai yn eitem P—

(a)y geiriau “relevant special grant” wedi'u hepgor; a

(b)y geiriau “floor funding” wedi'u mewnosod o flaen “or police grant;”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn nodi, yn y drefn honno, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn nodi, yn y drefn honno, sut y mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at “relevant special grant” o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno.

Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992 am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio “floor funding” yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007.

Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2007 wrth wneud y cyfrifiadau gofynnol ar gyfer y flwyddyn honno.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111: e-bost LGFRevenuemailbox@wales.gsi.gov.uk).

(1)

1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).

(2)

Trosglwyddwyd y pŵ er i wneud rheoliadau o dan adrannau 32(9), 33(4), 43(7) a 44(4) o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234) ac mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/344 (Cy.41).

(4)

Mewnosodwyd adran 32(12A) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 2(b) o O.S. 2006/344 (Cy.41).

(5)

1988 p.41; mewnosodwyd adran 84G gan Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26)

(6)

Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234 ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 3 o O.S. 2006/344 (Cy.41).

(7)

Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2004—2005 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/451 (Cy.42)) ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 4(a) o O.S. 2006/344 (Cy.41).

(8)

Mewnosodwyd is-adrannau 43(6E) a (6F) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 4(b) o O.S. 2006/344 (Cy.41).

(9)

Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2004—2005 gan O.S. 2004/451 (Cy.42) ac mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2006—2007 gan reoliad 5 o O.S. 2006/344 (Cy.41).

(10)

1998 p.38.