2007 Rhif 583 (Cy.55)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (7), 59(1) a 61(1)1 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 a pharagraff 2(1)(a) o Atodlen 1 iddi2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen.

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Hollti dros dro hawl comin2

1

Caniateir i hawl comin i bori anifeiliaid y mae adran 9(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gymwys iddi gael ei hollti dros dro oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy brydlesu neu drwyddedu—

a

yr hawl comin ar ei phen ei hun, ar yr amod na fydd cyfnod y brydles neu'r drwydded yn hwy na thair blynedd; neu

b

y tir, neu ran o'r tir, y mae'r hawl comin yn gysylltiedig ag ef, heb yr hawl comin.

2

Pan fo hawl comin wedi'i hollti dros dro oddi wrth unrhyw dir yn unol â pharagraff (1)(b), ni fydd unrhyw effaith i unrhyw warediad o'r hawl comin a gedwir lle bo'r gwarediad yn cymryd lle adeg rhoi neu ar ôl rhoi'r brydles neu'r drwydded ar y tir, a chyn i'r brydles neu'r drwydded gael ei therfynu oni fydd yn cael ei gwaredu—

a

i grantî'r brydles neu'r drwydded ar y tir; ac

b

am gyfnod sy'n dod i ben ddim mwy na thair blynedd ar ôl i'r brydles neu'r drwydded honno ddod i ben.

3

Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawl comin, mewn perthynas â hawl comin i bori mwy nag un anifail, yn cynnwys hawl i bori cyfran o nifer yr anifeiliaid y caniateir eu pori yn rhinwedd yr hawl comin honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Adran 9 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, y bernir, yn ôl adran 9(7) o'r Ddeddf honno, ei bod wedi dod i rym ar 28 Mehefin 2005, yn atal, yn ddarostyngedig i eithriadau, hollti hawl comin oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef.

Mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu hollti dros dro hawl comin i bori anifeiliaid oddi wrth y tir y mae'r hawl yn gysylltiedig ag ef drwy alluogi'r hawl i gael ei phrydlesu neu ei thrwyddedu i drydydd parti am ddim mwy na thair blynedd (erthygl 2(1)(a)) neu drwy brydlesu neu drwyddedu'r tir heb yr hawl honno (erthygl 2(1)(b)).

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen gyda'r canlyniad na fydd unrhyw brydles neu drwydded hawl comin i bori anifeiliaid a roddir ar ôl y dyddiad hwnnw am gyfnod o dair blynedd neu lai yn ddi-rym at y dibenion hynny yn rhinwedd adran 9(3) o'r Ddeddf.