Offerynnau Statudol Cymru
TIROEDD COMIN, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Chwefror 2007
Yn dod i rym
1 Mawrth 2007
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Caniateir i hawl comin i bori anifeiliaid y mae adran 9(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gymwys iddi gael ei hollti dros dro oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy brydlesu neu drwyddedu—
(a)yr hawl comin ar ei phen ei hun, ar yr amod na fydd cyfnod y brydles neu'r drwydded yn hwy na thair blynedd; neu
(b)y tir, neu ran o'r tir, y mae'r hawl comin yn gysylltiedig ag ef, heb yr hawl comin.
(2) Pan fo hawl comin wedi'i hollti dros dro oddi wrth unrhyw dir yn unol â pharagraff (1)(b), ni fydd unrhyw effaith i unrhyw warediad o'r hawl comin a gedwir lle bo'r gwarediad yn cymryd lle adeg rhoi neu ar ôl rhoi'r brydles neu'r drwydded ar y tir, a chyn i'r brydles neu'r drwydded gael ei therfynu oni fydd yn cael ei gwaredu—
(a)i grantî'r brydles neu'r drwydded ar y tir; ac
(b)am gyfnod sy'n dod i ben ddim mwy na thair blynedd ar ôl i'r brydles neu'r drwydded honno ddod i ben.
(3) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawl comin, mewn perthynas â hawl comin i bori mwy nag un anifail, yn cynnwys hawl i bori cyfran o nifer yr anifeiliaid y caniateir eu pori yn rhinwedd yr hawl comin honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 9 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, y bernir, yn ôl adran 9(7) o'r Ddeddf honno, ei bod wedi dod i rym ar 28 Mehefin 2005, yn atal, yn ddarostyngedig i eithriadau, hollti hawl comin oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef.
Mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu hollti dros dro hawl comin i bori anifeiliaid oddi wrth y tir y mae'r hawl yn gysylltiedig ag ef drwy alluogi'r hawl i gael ei phrydlesu neu ei thrwyddedu i drydydd parti am ddim mwy na thair blynedd (erthygl 2(1)(a)) neu drwy brydlesu neu drwyddedu'r tir heb yr hawl honno (erthygl 2(1)(b)).
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen gyda'r canlyniad na fydd unrhyw brydles neu drwydded hawl comin i bori anifeiliaid a roddir ar ôl y dyddiad hwnnw am gyfnod o dair blynedd neu lai yn ddi-rym at y dibenion hynny yn rhinwedd adran 9(3) o'r Ddeddf.