2007 Rhif 736 (Cy.66)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwer a roddwyd iddo gan adran 37(4) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 19631, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 2 Ebrill 2007.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1968” (“the 1968 Regulations”) yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 19682.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 19682

1

Caiff Rheoliadau 1968 eu diwygio yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 2(1) dileer y geiriau “they may request a report from the head teacher in respect of the child,”.

3

Dirymir Rheoliad 6 o Reoliadau 1968.

4

Ar ôl rheoliad 8 mewnosoder y canlynol—

Report from head teacher8A

1

A licensing authority must not grant a licence in respect of a child who attends school unless —

a

they have obtained a report from the head teacher of that school dealing with any matters relevant to the authority’s consideration of section 37(4) of the Act; and

b

have taken account of that report:

unless the authority is satisfied that it has not been practicable to obtain a report.

5

Yn rheoliad 10(4) (addysg)—

a

hepgorer “on location” ym mhob man lle digwydd y geiriau hynny, a

b

hepgorer is-baragraff (e).

6

Yn rheoliad 12, ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol—

1A

The licensing authority must not approve a matron unless they are satisfied that —

a

they have provided the matron with information as to the legal responsibilities of a matron and the law on performances by children; and

b

the matron has undertaken child protection training to the level recommended by the Local Safeguarding Children Board where such recommendation has been made.

7

Ar ôl rheoliad 12(6) mewnosoder—

7

a

Where the licensing authority think fit, they may grant a licence subject to a condition requiring the holder of the licence to provide the matron with a current copy of the script for the production concerned; and

b

any such condition must be set out in the licence.

8

Ar ôl rheoliad 19 mewnosoder y canlynol—

Child Protection Policy19A

The licence holder must ensure that the policy or policies enclosed with the application are adhered to.

9

Yn rheoliad 27 —

a

yn y pennawd, yn lle “thirteen” rhodder “nine”;

b

ym mharagraff (1), yn lle “thirteen” rhodder “nine”;

c

ym mharagraff (1)(a), yn lle “eight” rhodder “nine and a half”;

ch

yn lle is-baragraff (b) o baragraff (1), rhodder “(b) before seven in the morning or after seven in the evening.”;

d

ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau o a chan gynnwys “the Independent Television Authority” hyd at a chan gynnwys “the Independent Television Authority” rhodder “the Channel 3 licence holder, a broadcaster or independent production company”;

dd

ym mharagraff (2)(a), ar ôl “performance or rehearsal” mewnosoder “either between the hours of seven in the morning and seven in the evening or”;

e

ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “eight” rhodder “nine and a half”;

f

ym mharagraff (2)(b), ar ôl “twelve hours” mewnosoder “either between the hours of seven in the morning and seven in the evening or”;

ff

ym mharagraff (3), yn lle “thirteen” rhodder “nine”;

g

ym mharagraff (3)(b), yn lle “three and a half” rhodder “four”;

ng

ym mharagraff (4), yn lle “thirteen” rhodder “nine”;

10

Yn rheoliad 28 —

a

yn y pennawd, yn lle “twelve” rhodder “eight”;

b

yn lle “the age of thirteen” ym mhob man lle digwydd y geiriau hynny, rhodder “the age of nine”;

c

ym mharagraff (1)(b) dileer “, except that a child who has attained the age of ten years may be present until five in the afternoon”;

ch

hepgorer paragraff (2).

11

Yn rheoliad 37 —

a

yn y pennawd, yn lle “thirteen” rhodder “nine”;

b

ym mharagraff (1), yn lle “thirteen” rhodder “nine”; (c) ym mharagraff (1)(a), yn lle “eight” rhodder “nine and a half”;

c

yn lle is-baragraff (b) o baragraff (1), rhodder “(b) before seven in the morning or after seven in the evening.”;

ch

ym mharagraff (2)(b), yn lle “three and a half” rhodder “four”.

12

Yn rheoliad 38 —

a

yn y pennawd, yn lle “twelve” rhodder “eight”;

b

ym mharagraff (1), yn lle “thirteen” rhodder “nine”;

c

ym mharagraff (1)(b) dileer “, except that a child who has attained the age of ten years may be present until five in the afternoon”.

13

Ar ôl paragraff 19 o'r Atodiad i Ran 1 o Atodlen 1 mewnosoder y canlynol—

20

The child protection policy or policies that the applicant will apply.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968 o ran plant naw oed neu drosodd er mwyn codi terfyn uchaf y cyfnod y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer parhaus heb doriad i bedair awr. Maent hefyd yn estyn yr oriau a ganiateir yn ystod y diwrnod gwaith a chyfanswm yr oriau y caiff y plant hyn fod yn bresennol yn y man lle cynhelir y perfformiad neu'r ymarfer. Maent yn codi'r cyfyngiad sy'n gwahardd rhoi trwydded os yw plentyn wedi gweithio mwy na nifer penodedig o ddyddiau yn ystod y deuddeng mis blaenorol.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn estyn yr addasiadau presennol i'r darpariaethau addysg i bob perfformiad neu weithgaredd. Am bob cyfnod o bedair wythnos, neu os yw'r cyfnod yn llai na phedair wythnos, am y cyfnod hwnnw, bydd y gofynion addysg yn cael eu bodloni os yw'r plentyn yn cael addysg am o leiaf chwe awr yr wythnos, ac os yw gweddill yr oriau addysg gofynnol yn digwydd ar ddyddiau heblaw pan na fyddai'n ofynnol i'r plentyn fynd i'r ysgol fel arfer, yn ddarostyngedig i uchafswm o bum awr o addysg yn digwydd ar unrhyw ddiwrnod.

Mae'r Rheoliadau yn gosod cyfyngiadau ychwanegol ar roi trwyddedau o ran addasrwydd y matron ac yn ei gwneud yn ofynnol cael adroddiad gan bennaeth unrhyw ysgol a fynychir gan y plentyn. Maent yn ychwanegu amodau pellach sy'n gymwys i bob trwydded, yn ei gwneud yn ofynnol darparu'r testun i'r matron ac yn ei gwneud yn ofynnol cadw at bolisiau perthnasol diogelu plant.