Search Legislation

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Symudiadau gan ddefnyddio pasbortau

Symud oddi ar ddaliad

9.—(1Pan symudir gwartheg oddi ar ddaliad, rhaid i'r ceidwad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â dyddiad y symud a rhaid iddo'i lofnodi yn y lle priodol.

(2Rhaid iddo roi'r pasbort gwartheg wedi'i gwblhau'n briodol i'r cludwr cyn i'r gwartheg gael eu symud oddi ar y daliad.

(3Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cludo gwartheg

10.—(1Rhaid i unrhyw un sy'n cludo gwartheg sicrhau bod pasbort gwartheg dilys gyda phob anifail drwy gydol y daith.

(2Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

(3Ond, os nad y cludwr yw perchennog yr anifeiliaid, mae'n amddiffyniad iddo i brofi nad oedd unrhyw reswm ganddo i gredu nad oedd pasbort gwartheg dilys gydag anifail.

Symud i ddaliad

11.—(1Pan symudir gwartheg i ddaliad, rhaid i'r cludwr roi pob pasbort gwartheg ar gyfer pob anifail i'r ceidwad newydd (neu, os yw'r symud yn digwydd drwy farchnad, rhaid iddo ei roi i weithredydd y farchnad, a rhaid iddo yntau wedyn ei roi i'r ceidwad newydd).

(2Rhaid i'r ceidwad newydd neu weithredydd y farchnad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â'r canlynol—

(a)dyddiad y symud i'r daliad,

(b)enw a chyfeiriad y ceidwad (neu, yn achos marchnad, gweithredydd y farchnad) a Rhif y daliad, gan ddefnyddio os yw hynny'n ymarferol y cod bar a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,

a rhaid iddo'i lofnodi.

(3Rhaid iddo wneud hyn o fewn 36 o oriau ar ôl i'r anifail gyrraedd.

(4Ni chaiff neb symud yr anifail oddi ar y daliad nes bod y pasbort wedi'i gwblhau yn unol â'r paragraff hwn.

(5Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Mewnforio gwartheg

12.—(1Yn achos gwartheg a ddygir i Gymru o'r tu allan i Brydain Fawr, caniateir symud yr anifail o'r fan y daeth i mewn i Gymru i'r daliad lle y mae'n rhaid ei gofrestru yn unol â pharagraff 4 neu 5 o Atodlen 2 gan ddefnyddio'i basbort (os oes un ganddo) neu ei ddogfen symud.

(2Os oes ganddo basbort, rhaid i'w geidwad ei gwblhau yn unol â'r Atodlen hon, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Allforion

13.—(1Pan fydd gwartheg yn cael eu hallforio i drydydd gwledydd rhaid i'r ceidwad anfon y pasbortau gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

(2Pan fydd gwartheg yn cael eu cludo'r tu allan i Brydain Fawr i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r cludwr sicrhau bod ei basport gyda phob anifail, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Marchnadoedd a chrynoadau anifeiliaid

14.—(1Mae gweithredydd marchnad neu grynhoad anifeiliaid arall yn cyflawni tramgwydd os derbynnir unrhyw wartheg heb basbort gwartheg dilys (neu, yn achos gwartheg a fewnforir, dogfennau'n caniatáu iddynt gael eu symud).

(2Yn y paragraff hwn a'r paragraff canlynol ystyr “crynhoad anifeiliaid” yw achlysur pan fydd anifeiliaid yn cael eu casglu at ei gilydd at un neu fwy o'r dibenion canlynol—

(a)gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)llwyth ar ei daith ymlaen; neu

(c)archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.

Trwyddedau

15.  Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol (neu, yn achos anifail mewn marchnad, crynhoad anifeiliaid neu ladd-dy, caiff arolygydd) ddyroddi trwydded ar unrhyw adeg i symud gwartheg heb basbort gwartheg os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny ac nad yw'n ymarferol i gael gafael ar un.

Back to top

Options/Help