xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Wedi'i wneud
13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
At ddibenion erthygl 3
1 Gorffennaf 2007
At ddibenion erthygl 4
1 Hydref 2008
At bob diben arall
1 Hydref 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 68(2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cychwyn) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw adrannau 30 i 34 (ymchwil) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
3. Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo.
4. Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddedd i rym ar 1 Hydref 2008 o ran unrhyw ymchwil a gaiff ei wneud fel rhan o brosiect ymchwil—
(a)sydd yn dechrau cyn 1 Hydref 2007; a
(b)sydd yn cael ei gymeradwyo cyn 1 Hydref 2007 gan bwyllgor a sefydlir i gynghori ar foeseg ymchwil, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo.
5. Daw adrannau 35 i 41 (gwasanaeth eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
1. Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 30 i 41 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2005 (p.9) (“y Ddeddf”) o ran Cymru.
2. Mae erthygl 2 yn dwyn adrannau 30 i 34 i rym ar 1 Hydref 2007 o ran ymchwil a gaiff ei wneud fel rhan o brosiect a ddechreir ar neu ar ôl 1 Hydref 2007.
3. Mae erthygl 3 yn dwyn adrannau 30 i 34 i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu pernderfynu ganddo.
4. Mae erthygl 4 yn darparu pan fo prosiect ymchwil wedi dechrau cyn 1 Ebrill 2007 ac wedi'i gymeradwyo cyn y dyddiad hwnnw ni fydd adrannau 30 i 34 yn dod i rym tan 1 Hydref 2008.
5. Mae erthygl 5 yn dwyn adrannau 35 i 41 i rym ar 1 Hydref 2007.